Mae ein Polisi Preifatrwydd yn ymdrin â pha fathau o wybodaeth a gasglwn, pam rydym yn ei chasglu, seiliau cyfreithiol, sut rydym yn ei storio, sut allwch reoli eich gwybodaeth, pobl ifanc a/neu fregus, pa wybodaeth a rannwn a newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd.
Dyddiad gweithredol: 26 Ebrill 2018
Mae'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn addo parchu a diogelu’r wybodaeth (neu ddata) personol yr ydych chi neu eich teulu wedi’i roi inni neu a gawn oddi wrth sefydliadau eraill a’i gadw’n ddiogel. Byddwn yn rheoli’r data hwn yn effeithiol a diogel fel y gallwn ddarparu gwell gwasanaethau ichi ac ar eich cyfer, gan gynnwys ein gweithgareddau codi arian.
Rydym yn sicrhau y defnyddiwn eich gwybodaeth yn unol â’r holl ddeddfau perthnasol ynghylch diogelu gwybodaeth bersonol. Bydd y polisi hwn yn amlinellu pa fath o ddata a gasglwn, pam rydym yn ei gasglu, sut fyddwn yn ei ddefnyddio, ei rannu a’i storio, beth yw eich hawliau a sut allwch gysylltu â ni i reoli, golygu neu ddileu’r wybodaeth hon. Gallwch ofyn am gopi print (neu brint bras) o’r Polisi Preifatrwydd hwn trwy gysylltu â ni yn y cyfeiriad, rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost isod:
Os oes angen ichi gysylltu â ni ynghylch eich data neu wybodaeth bersonol, neu am unrhyw fater arall, ysgrifennwch at y Carers Trust, Uned 101, 168-180 Stryd Union, Llundain SE1 0LH, ffoniwch 0300 772 9600 (codir prisiau lleol) neu e-bostiwch:
dpo@carers.org ynghylch eich data neu wybodaeth bersonol neu er mwyn cysylltu â’n Swyddog Diogelu Data, neu
info@carers.org ynghylch unrhyw fater arall.
Pwy ydym ni
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio i wella cefnogaeth, gwasanaethau a chydnabyddiaeth i unrhyw un sy’n byw gyda heriau gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o’r teulu neu gyfaill sy’n sâl/dost, llesg, anabl neu sydd â phroblemau iechyd meddwl neu gaethineb. Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gweithio ym mhedair gwlad y Deyrnas Gyfunol ac fe’i gelwir hefyd yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Lloegr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Iwerddon, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Yr Alban ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn y gwledydd hynny. Rydym hefyd yn darparu ein cefnogaeth, gwasanaethau ac arbenigedd i a thrwy ein Partneriaid Rhwydwaith (elusennau a gofrestrwyd ar wahân) ledled y Deyrnas Gyfunol a thrwy ein his-gwmni yr ydym yn llwyr berchen arno ‘Carers Enterprise’ sy’n darparu gwasanaethau gweithredol a gweinyddol i’n Partneriaid Rhwydwaith.
Pa fathau o wybodaeth a gasglwn?
Gall yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr gasglu mathau gwahanol o ddata personol yn uniongyrchol oddi wrthoch neu amdanoch chi ar y gweithgareddau neu wasanaethau rydym yn eu cynnig ac yr ydych yn cymryd rhan ynddynt neu’n eu defnyddio. Gall hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, e-bost, dyddiad geni, data am eich sefyllfaoedd personol a gofalu, crefydd, data meddygol (os yn berthnasol i’r gweithgareddau neu wasanaethau), a pheth data ariannol os ydych yn gwneud cyfraniad inni neu’n cael grant ariannol gennym. Gallwch roi’r holl ddata hwn neu rannau ohono ar-lein, mewn digwyddiad, ar bapur neu dros y ffôn trwy ffurflen gyfrannu, ffurflen ymuno (os yn gofyn am wybodaeth neu’n gofyn am gael eich rhoi ar restr bostio), neu trwy gofrestru ar gyfer a/neu fynychu digwyddiad.
Os ydych yn defnyddio ein gwe dudalennau efallai hefyd y derbyniwn beth data dadansoddol gan ein darparwyr gwasanaethau Rhyngrwyd a gwe dudalennau. Data dienw yw hwn megis cyfeiriadau IP, tudalennau yr ymwelwyd â nhw a faint o amser a dreuliwyd ar y wefan. Os ydych yn defnyddio tudalennau cyfrannu ar-lein diogel yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr cewch eich tywys at ein darparydd gwasanaeth cyfrannu ar-lein a chaiff y data a roddwch (megis manylion eich cerdyn credyd, banc a/neu fanylion cyswllt) ei roi inni er mwyn i’r trafodiad allu digwydd.
Mewn rhai sefyllfaoedd, caiff data rhyngrwyd a gwefan dienw ei gasglu trwy ddefnyddio cwcis. Mae cwcis yn ddarnau bychan o ddata a ddanfonir gan we weinydd er mwyn casglu data o we borwr. Mae hefyd yn galluogi gwefan i adnabod defnyddiwr a’u dewisiadau gosod y tro nesaf yr ymwelant â’r wefan a gall drefnu fod rhai nodweddion yn llwytho’n gyflymach. Bydd y rhan fwyaf o borwyr yn eich galluogi i ddiffodd neu reoli cwcis. Dylech gofio y gall diffodd neu wrthod caniatáu cwcis ar gyfer gwefannau’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr gyfyngu eich defnydd o’r gwefannau.
Gwasgwch yma i ddarllen ein Polisi Cwcis
Efallai hefyd y derbyniwn beth gwybodaeth amdanoch oddi wrth sefydliadau eraill, megis, er enghraifft, cronfa ddata genedlaethol Newid Cyfeiriad Swyddfa’r Post, neu o ddigwyddiadau a gweithgareddau (e.e. digwyddiad her) a drefnir gan ein partneriaid. Gall hyn gynnwys data a gasglwyd oddi wrth ein Partneriaid Rhwydwaith, elusennau eraill a rhai gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, addysg neu lywodraeth. Gallai hefyd gynnwys data o gyfryngau cymdeithasol a ffynonellau negeseua (e.e. Facebook, Twitter, a LinkedIn) gan ddibynnu ar eich gosodiadau, polisïau preifatrwydd y ffynhonnell ei hun, neu’r caniatadau a roesoch inni gael mynediad at y data sydd ar gael trwy eich cyfrif neu sylwadau sydd ar gael yn gyhoeddus.
Pam rydym yn casglu’r wybodaeth a sut fyddwn yn ei defnyddio?
Rydym yn casglu’r data hwn fel y gallwn wneud ein gwaith a datblygu gwell dealltwriaeth o’r bobl a gefnogwn ac sy’n ein cefnogi ni. Mae’n ein galluogi i wneud gwell penderfyniadau, codi arian yn fwy effeithiol ac effeithlon a darparu gwell gwybodaeth am yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr sydd o ddiddordeb ichi, gan gynnwys am ein gwaith, gweithgareddau ar hyn o bryd ac i’r dyfodol, a’n hymgyrchoedd ymwybyddiaeth, polisi a chodi arian.
Mae data a gesglir o arolygon ac ymchwil y gallech fod wedi cymryd rhan ynddynt yn ein helpu i wella ein gwasanaethau, gweithgareddau ac adnoddau ar gyfer gofalwyr di-dâl ac mae’n darparu tystiolaeth i gefnogi ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth a phwyso. Oni bai y rhoesoch ganiatâd pendant i’r gwrthwyneb, cyflwynir data o’r fath yn ddienw neu’n ddata torfol. Mae rhai mathau o wybodaeth neu ddata yn cael eu hystyried yn ‘sensitif’ o dan reoliadau diogelu data. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth fel data iechyd/meddygol, hil, credoau crefyddol a barnau gwleidyddol. Ni fyddwn fel arfer yn casglu’r data hwn onid yw’n hanfodol ar gyfer y gwasanaeth neu weithgarwch rydych yn cymryd rhan ynddo neu’n ei ddefnyddio a’ch bod yn rhoi eich caniatâd inni gadw’r data hwn yn ein cronfeydd data a chofnodion.
Byddwn yn defnyddio’r data a roddwch inni i brosesu eich cyfraniadau neu i ymateb i’ch ceisiadau am wybodaeth. Efallai y defnyddiwn y data sydd gennym amdanoch, a gasglwyd trwy ein perthynas â chi, er mwyn danfon negeseuon a deunyddiau marchnata trwy’r post, ffôn neu ebost am ymgyrchoedd ymwybyddiaeth, polisi a chodi arian. Gellir ei ddefnyddio i bersonoleiddio ein cyswllt â chi neu’r gweithgareddau neu wasanaethau yr ydych yn cymryd rhan ynddynt. Fe’i defnyddir hefyd i weinyddu ein cofnodion.
Seiliau cyfreithiol a Budd Dilys
Pan fyddwn yn casglu a defnyddio eich gwybodaeth bersonol, byddwn yn gofalu nad yw hynny ond yn cael ei wneud yn unol ag o leiaf un o’r seiliau cyfreithiol sydd ar gael inni o dan gyfraith Diogelu Data.
Un o’r rheiny yw pan gawsom eich caniatâd i ddefnyddio eich gwybodaeth at ddiben a gafodd ei hysbysu’n flaenorol, megis i ddanfon deunydd marchnata trwy ebost/testun atoch neu i ddarparu cynnyrch, gwasanaeth neu wybodaeth y gofynasoch amdano.
Un arall yw pan mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ddefnyddio neu ddatgelu gwybodaeth amdanoch – er enghraifft, pan mae llys neu awdurdod rheoleiddiol yn ein gorchymyn i wneud neu pan fo’n gyfreithiol ofynnol inni gadw manylion trafodiad cyfrannwr at ddibenion Cymorth Rhodd neu gyfrifo/trethiannol.
Un arall yw pan mae gennym ddyletswydd i gadw data er mwyn gallu cyflawni gofynion contract neu er mwyn cyflawni ein cyfrifoldebau o ran staff a gwirfoddolwyr.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y byddwn yn casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol pan mae hynny’n angenrheidiol er ein budd dilys fel elusen, ac mae hynny’n cynnwys gallu:
danfon deunyddiau marchnata uniongyrchol at gefnogwyr trwy’r post neu gysylltu â nhw ar y ffôn at ddibenion codi arian (ar yr amod ein bod wedi gwirio manylion y Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn ac unrhyw ddewisiadau marchnata a wnaethoch yn barod). Gweler mwy yn Deunyddiau marchnata isod;
cynnal gwaith ymchwil i ddeall yn well pwy yw ein cefnogwyr a thargedu ein gwaith codi arian yn fwy effeithiol. Gweler mwy yn Codi arian isod;
monitro â phwy rydym yn delio er mwyn gwarchod ein helusen rhag twyll, gwyngalchu arian a risgiau eraill;
cadw a gweinyddu ein cronfa ddata a systemau cyfranwyr.
Ymhob sefyllfa, rydym yn cydbwyso ein hawliau dilys gyda’ch hawliau yn unigolyn ac yn gofalu nad ydym ond yn defnyddio gwybodaeth bersonol mewn ffordd neu at bwrpas y byddech yn ei ddisgwyl yn rhesymol yn unol â’r Polisi hwn ac nad yw’n tarfu ar eich preifatrwydd nac unrhyw ddewisiadau marchnata a wnaethoch yn barod.
Pan fyddwn yn prosesu data personol sensitif (fel y nodwyd uchod), byddwn yn gofalu nad ydym ond yn gwneud hynny yn unol ag un o’r seiliau cyfreithiol ychwanegol ar gyfer prosesu, megis pan gawsom eich caniatâd pendant neu os gwnaethoch y wybodaeth honno yn amlwg gyhoeddus. Pan wnawn hynny, rhoddwn wybod ichi pa ddata personol sensitif rydym yn ei gasglu a pham.
Deunyddiau marchnata
Rydym eisiau sicrhau y cewch y lefel iawn o wybodaeth am yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr sy’n gweddu ichi.
Marchnata trwy Ebost/testun
Os ewch ati’n fwriadol i roi eich caniatâd inni ynghyd â’ch cyfeiriad ebost a/neu rif ffôn symudol, efallai y cysylltwn â chi at ddibenion marchnata trwy ebost neu neges testun. Trwy danysgrifio i dderbyn e-byst yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr neu ddewis derbyn negeseuon ebost oddi wrth yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, rydych yn rhoi’r hawl inni ddefnyddio’r cyfeiriad ebost at ddibenion marchnata trwy ebost.
Marchnata trwy’r post/ffôn
Os ydych wedi rhoi eich cyfeiriad post neu rif ffôn inni efallai y byddwn yn danfon post uniongyrchol atoch neu’n eich ffonio am ein gwaith os ydych wedi cydsynio i dderbyn cyfathrebiadau o’r fath. Os gwnaethoch gyfraniad, os ydych wedi cofrestru i gael negeseuon gennym neu wedi gofyn inni am wybodaeth mewn unrhyw ffordd arall, yn y cyfnod rhwng Mai 2016 a Mai 2018, ac os nad ydych wedi dewis peidio derbyn cyfathrebiadau oddi wrthym, efallai y byddwn yn dal i gysylltu â chi trwy’r post, gweler Seiliau cyfreithiol a Buddiannau Dilys.
Gwnawn ymdrech fwriadol i wirio rhifau gyda’r Gwasanaeth Dewisiadau Ffôn ac ni fyddwn ond yn gwneud galwadau ffôn ichi os yw eich rhif ffôn wedi’i restru ar y TPS os ydych wedi dweud wrthym yn benodol nad ydych yn gwrthwynebu derbyn galwadau o’r fath a’ch bod wedi cydsynio i’w derbyn.
Eich dewis chi
Chi sydd i ddewis bob tro os ydych am dderbyn gwybodaeth am ein gwaith, sut rydym yn codi arian a sut allwch gymryd rhan. Os nad ydych am inni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ffyrdd hyn, dylech ddangos eich dewisiadau ar y ffurflen y casglwn eich data arni.
Gallech roi’r gorau i dderbyn ein cyfathrebiadau marchnata ar unrhyw adeg trwy wasgu ar y ddolen ‘datdanysgrifio’ ar ddiwedd ein ebyst marchnata neu trwy ddanfon neges destun "tynnu allan", gan ddilyn y cyfarwyddiadau a roddwn ichi yn ein neges destun gychwynnol.
Gallwch hefyd newid unrhyw un o’ch dewisiadau cyswllt ar unrhyw adeg (gan gynnwys rhoi gwybod inni nad ydych am inni gysylltu â chi at ddibenion marchnata ar y ffôn, na thrwy’r post) trwy gysylltu â ni yn 0300 772 9600 (codir prisiau lleol) neu e-bostio dpo@carers.org.
Ni fyddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata os ydych wedi datgan nad ydych am inni gysylltu â chi at ddibenion o’r fath. Fodd bynnag, efallai y cadwn eich manylion ar restr ataliad i helpu sicrhau nad ydym yn parhau i gysylltu â chi.
Codi arian
Mae ein gwaith codi arian yn cael ei dargedu i sicrhau ein bod yn cysylltu â chi gyda’r cyfathrebiad mwyaf priodol, sy’n berthnasol ac amserol ichi. Er mwyn gwneud hyn, efallai y defnyddiwn dechnegau proffilio i gasglu data cyffredinol amdanoch chi a’ch ffordd o fyw y gallech fod wedi’i wirfoddoli neu ei wneud ar gael yn gyhoeddus yn barod. Er mwyn ein helpu gyda’r gwaith hwn efallai y defnyddiwn gwmnïau, ymgynghorwyr neu fudiadau trydydd parti all ddangos eu bod yn cydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth diogelu data perthnasol.
Mae’r gweithgarwch hwn yn ein helpu i ddeall cefndir y bobl sy’n ein cefnogi ac mae’n ein helpu i wneud ceisiadau priodol i gefnogwyr y gallai fod ganddynt y modd a’r awydd i roi rhagor. Gallwch ddewis peidio caniatáu inni ddefnyddio eich data ar gyfer technegau proffilio a sgrinio cyfoeth trwy gysylltu â ni ar 0300 772 9600 (codir prisiau lleol) neu e-bostio info@carers.org.
Er y bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu trosglwyddiadau data neu wybodaeth dros y rhyngrwyd, ni ellir gwarantu y bydd y trosglwyddiadau hyn yn ddiogel 100%. Chi fydd yn gyfrifol am unrhyw drosglwyddiad data a wnewch i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr trwy’r rhyngrwyd.
Sut rydym yn storio a chael gwared â’r wybodaeth hon ac am faint rydym yn ei chadw?
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cymryd camau priodol i ofalu fod y data sydd gennym amdanoch, boed hynny ar bapur neu’n electronaidd mewn ffeil gyfrifiadurol neu gronfa ddata, yn cael ei storio’n ddiogel. Ni fyddwn ond yn cadw’r data cyhyd ag y mae rhaid at y dibenion y caiff ei roi inni ar eu cyfer. Byddwn yn gwaredu data personol diangen trwy ddefnyddio dulliau dileu (electronaidd) neu ddarnio. Byddwn yn cysylltu â chi bob hyn a hyn (o leiaf bob 4 blynedd) i gadarnhau fod y data sydd gennym amdanoch yn gyfredol a manwl-gywir ac y gallwn barhau i gysylltu â chi. Byddwn wedyn yn diweddaru ein cofnodion yn ôl y galw.
Sut allwch reoli neu ddileu’r wybodaeth sydd gennym amdanoch?
Mae eich hawliau o ran y data sydd gennym ac a gasglwn amdanoch yn cael eu hamlinellu ym mholisïau a deddfwriaeth diogelu data y Deyrnas Gyfunol ac, o 25 Mai 2018, yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r rhain yn cynnwys: yr hawl i gael mynediad at, golygu a diweddaru, gofyn am ddileu a chyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol, yr hawl i wrthwynebu casglu eich data personol a’r hawl i gyflwyno cwyn i awdurdod arolygol am eich gwybodaeth bersonol.
Os hoffech gael gwybod pa wybodaeth/data personol sydd gennym amdanoch neu ddileu unrhyw rai o’r data hyn, (e.e. tynnu eich enw oddi ar ein rhestrau postio), neu ddiweddaru eich dewisiadau cyfathrebu gallwch gysylltu â ni ar 0300 772 9600 (codir prisiau lleol) neu ebostio dpo@carers.org.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y Polisi Preifatrwydd hwn neu unrhyw un o’r polisïau y cyfeirir atynt yn y Polisi hwn, dylech gysylltu’n uniongyrchol â’n Swyddog Diogelu Data yn:
Carers Trust, Uned 101, 168-180 Stryd Union, Llundain SE1 0LH
0300 772 9600
dpo@carers.org
Os nad ydych yn fodlon â’n hymateb neu os ydych yn credu nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â’r gyfraith gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). Gallwch gysylltu â’r ICO ar 0303 123 1113, yn registration@ico.org.uk neu yn Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire SK9 5AF.
Preifatrwydd a phobl ifanc a/neu fregus
Mae’r Polisi Preifatrwydd yn berthnasol i bawb, gan gynnwys y sawl sy’n fregus, pobl ifanc a phlant. Er mwyn cymryd rhan mewn gweithgarwch neu wasanaeth (gan gynnwys digwyddiadau codi arian) neu roi unrhyw ddata personol inni, mae’n rhaid i bobl ifanc o dan 13 gael caniatâd neu gydsyniad rhiant neu warcheidwad. Bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gofyn am ganiatâd o’r fath lle y bo angen. Bydd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn mynd ati’n rhagweithiol i sicrhau bod pobl fregus hefyd yn deall eu hawliau data a chaiff unrhyw ddata amdanynt a gasglwn ganddynt ei reoli’n briodol yn ôl rheoliadau diogelu data.
Pa wybodaeth a rannwn ac â phwy?
Ni fyddwn fyth yn gwerthu eich data i sefydliadau eraill at eu dibenion marchnata eu hunain. Os cawn eich caniatâd efallai y rhannwn eich data gyda phartneriaid sydd, gyda’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr, yn cyd-ddarparu gweithgaredd neu wasanaeth. Gallai hynny gynnwys rhannu data gyda sefydliad trydydd parti sy’n darparu gwasanaeth inni ac sy’n gweithredu’n broseswyr data, megis, er enghraifft, Partneriaid Rhwydwaith sy’n gweithio gyda ni i ddarparu ein gwasanaethau; a sefydliadau neu unigolion eraill sy’n gweithredu’n godwyr arian i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr neu’n darparu gwasanaethau gwybodaeth, marchnata a chyfathrebu megis ein cwmni postio allanol. Cyflawnwn broses diwydrwydd dyladwy ar y sefydliadau hyn a byddwn yn mynnu eu bod yn cydymffurfio’n gaeth â’n cyfarwyddiadau a’n polisïau a deddfwriaeth diogelu data. Rydym yn monitro ein holl broseswyr data yn rheolaidd,
Efallai hefyd y rhannwn eich data yn yr amgylchiadau canlynol:
Pan mae’n rhaid inni gydymffurfio â chyfreithiau megis y rhai ar gyfer diogeledd cenedlaethol, trethiant neu ymchwiliadau troseddol.
Pan mae’n rhaid inni gyflawni proses diwydrwydd dyladwy, i sicrhau nad ydym yn cael ein defnyddio’n gyfrwng ar gyfer gweithgareddau troseddol.
Darperir dolenni i wefannau allanol trwy wefan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr neu yn unrhyw un o’n cyhoeddiadau at ddibenion cyfleustra neu ddyfynnu. Nid yw’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gyfrifol am gynnwys na pholisïau preifatrwydd y tudalennau eraill hyn. Rydym yn annog ymwelwyr i edrych ar Bolisi Preifatrwydd pob gwefan cyn datgelu unrhyw wybodaeth allai fod yn bersonol adnabyddadwy.
Newidiadau yn ein Polisi Preifatrwydd
Rhoddwn wybod ichi trwy hysbysiad ar ein gwefan, neu weithiau yn uniongyrchol trwy eich dewis ddull cyfathrebu, am unrhyw newidiadau arwyddocaol i’r Polisi Preifatrwydd hwn. Caiff yr hysbysiad hwn ei ddangos mewn man amlwg ar wefan www.carers.org am fis wedi gwneud y newidiadau. Caiff dyddiad gweithredu pob diweddariad ei arddangos ar ddechrau’r datganiad hwn.
Caiff y Polisi Preifatrwydd hwn ei adolygu’n flynyddol ac mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cadw’r hawl i ddiwygio’r datganiad hwn ar unrhyw adeg.
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn elusen gofrestredig yn Lloegr a Chymru (1145181) ac yn Yr Alban (SC042870) ac fe’i cofrestrwyd yn gwmni cyfyngedig trwy warant yn Lloegr a Chymru (Rhif 7696170).