Mwy am y cynllun

Mae’r Cynllun Seibiannau Byr yn cynnig dewisiadau seibiannau byr personol a hyblyg i ofalwyr di-dâl o gymunedau gwahanol ledled Cymru.

Dod o hyd i seibiant byr

Ynglŷn â chynllun Seibiannau Byr Cymru

Gall y seibiannau fod yn amrywiol iawn, gwasanaeth, gweithgaredd neu eitem, ond maen nhw bob tro’n rhoi’r cyfle i ofalwyr di-dâl fwynhau rhywfaint o amser gwerthfawr iddyn nhw’u hunain neu hoe o’r drefn feunyddiol. Maen nhw’n cynnig cyfle mawr ei angen i ofalwyr roi sylw iddyn nhw’u hunain a’u hiechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol eu hunain. Maent yn cael eu teilwra ar gyfer anghenion y gofalydd a’u teulu, a gallant hefyd helpu cryfhau perthnasoedd gofalu a gwella llesiant gofalwyr a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi.

Gall gofalwyr ddewis o blith seibiannau dros nos, gweithgareddau dydd, gweithgareddau grŵp a Micrograntiau i fyny at £50. Gall y seibiant fod yn rhywbeth maen nhw’n ei wneud ar eu pen eu hunain, neu gyda’r person maen nhw’n gofalu amdanynt, neu gallant gynnwys y teulu cyfan hyd yn oed. Gall yr arian helpu hefyd i ddarparu gofal amnewid er mwyn i ofalydd allu mwynhau seibiant o’u dewis gan wybod fod y person maen nhw’n gofalu amdanynt mewn dwylo diogel. 

Diolch ichi am ein helpu i ail-gysylltu a chlirio fy mhen a gwneud imi sylweddoli fod gen i’r egni i ddal ati a gwneud beth sydd angen ei wneud! 

Anna a Sanjay*, gofalwyr a gafodd seibiant dros nos, a drefnwyd gan Rewild Play.

Gallai enghreifftiau gynnwys:

  • Penwythnos oddi cartref i’r gofalydd di-dâl
  • Noson yn y sinema neu bryd o fwyd allan
  • Taith wedi’i threfnu ar gyfer grŵp o ofalwyr di-dâl
  • Grŵp cyd-gefnogi ar-lein bob pythefnos
  • Sesiynau ioga neu gampfa wythnosol
Er bod gofalu am geraint sydd â chancr yn heriol ac yn gyfrifoldeb parhaus, mae cyfnodau fel y rhain yn gallu cynnig gollyngdod ac adnewyddiad mawr eu hangen.

Cymorth Cancr Ray of Light

Mae’r seibiannau’n cael eu trefnu gan ein rhwydwaith o Bartneriaid Darparu  ledled Cymru. Mae ein Partneriaid Darparu yn trefnu a rheoli’r holl weithgareddau ar gyfer gofalwyr di-dâl yn eu hardal. I ddod o hyd i seibiant byr, defnyddiwch ein Cyfeiriadur hwylus sy’n cynnwys manylion yr holl weithgareddau sydd ar gael ar hyn o bryd, â phwy y dylid cysylltu a sut i wneud cais.

*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd

Pa fathau o seibiannau byr sydd ar gael?

Gwobrwywch eich hun neu eich teulu trwy drefnu seibiant byr oddi cartref

O wersylla yn y goedwig i seibiannau sba, gallant ddod mewn sawl lliw a llun. Beth bynnag yw’r seibiant, bydd yn eich helpu i ymlacio ac ail-wefru eich batris.

Couple unpacking suitcase on bed

Cymerwch hoe mawr ei angen am y dydd

Gallai dyddiau allan fod yn unrhyw beth o syrffio i wnïo, dyddiau natur i weithdai llesiant. Mae’r gweithgareddau hyn yn rhoi cyfle ichi gamu allan o drefn feunyddiol bywyd ac ail-afael mewn rhywfaint o gydbwysedd yn eich bywyd.

Couple unpacking suitcase on bed

Mwynhewch rywfaint o amser gyda gofalwyr eraill

Gallai’r rhain fod yn weithgarwch untro neu’n glwb neu ddosbarth rydych yn mynd iddo’n rheolaidd, dosbarth ioga efallai, côr, neu docynnau i’r parc hwyl lleol. Gallant eich helpu i feithrin clymau gyda rhieni eraill, brodyr a chwiorydd a gofalwyr sy’n mynd drwy sefyllfaoedd tebyg.

Couple unpacking suitcase on bed

Mwynhewch seibiant byr o ofalu, chi sy’n dewis!

Mae grant bychan gwerth hyd at £50 ar gael i’ch helpu i drefnu eich gweithgaredd eich hun. Gallai hynny fod yn bryd o fwyd allan, taith i’r sinema neu theatr neu gyfraniad at aelodaeth mudiad fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd eich Partner Darparu lleol yn siarad gyda chi am beth orau sy’n gweddu i’ch anghenion a diddordebau.

Couple unpacking suitcase on bed

Sut mae’r Cynllun Seibiannau Byr yn cael ei reoli

Mae’r Cynllun Seibiannau Byr yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i drefnu mewn partneriaeth â’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Byrddau Partneriaeth Ranbarthol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi neilltuo cyllideb o £9 miliwn ar gyfer y Cynllun Seibiannau Byr sy’n rhedeg o 2022-2025. Penodwyd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn Gorff Cydlynu Cenedlaethol ar gyfer y cynllun. Mae’r gwaith o ddosbarthu’r arian yn cael ei rannu rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a saith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn darparu cyllid y Cynllun Seibiannau Byr i 24 Partner Darparu yn y trydydd sector sy’n trefnu a rheoli’r seibiannau ac yn cynnig cefnogaeth i ofalwyr di-dâl ledled Cymru.

Dysgwch fwy am yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr

Partneriaid Darparu’r Cynllun Seibiannau Byr

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn darparu cyllid i 24 Partner Darparu yn y trydydd sector ar gyfer cynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda Phartneriaid Darparu ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ein Partneriaid Darparu yn amrywio o ran maint a ffocws, o grwpiau bychain dan arweiniad gwirfoddolwyr i elusennau mawr.

Dod yn bartner cyflawni

Cwestiynau cyffredin

map-pin-icon

Dod o hyd i Wasanaethau Gofalwyr yn agos atoch chi

Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.

Gwasanaethau Gofalwyr yn eich ardal chi

map-pin-icon

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences