Telerau ac Amodau

Dewisiadau hygyrchedd

Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i ddarparu gwefan y gall y gynulleidfa ehangaf bosib ei defnyddio’n ddidrafferth.

Maint y testun

Newidiwch faint y testun trwy ddilyn y cyfarwyddiadau yn eich porydd.

Lliwiau

Dewiswyd y lliwiau brand a ddefnyddir yn y wefan hon er mwyn bodloni safonau cyferbyniad AA Canllawiau Hygyrchedd Gwe Gynnwys W3C i’w gwneud yn ddarllenadwy i bobl ag amhariad gweledol trwy eu defnyddio yn y cyfuniadau a ddangosir yn y canllawiau brand. 

Delweddau

Mae’r holl ddelweddau a ddefnyddir ar y wefan hon yn cynnwys priodweddau disgrifiadol ALT. Nid yw graffeg cwbl addurniadol yn cynnwys unrhyw briodweddau ALT.

Ffeiliau PDF a darllenwyr sgrin

Byddwch angen Adobe Acrobat Reader i weld ffeiliau PDF. Os na chafodd ei osod ar eich cyfrifiadur yn barod, gallwch lawr lwytho Adobe Acrobat Reader yn rhad ac am ddim.

Os ydych yn cael anhawster darllen ffeil PDF trwy ddarllenydd ffeiliau, mae gan Adobe offeryn addasu ar-lein rhad ac am ddim i droi dogfennau’n destun HTML neu ASCII, y gall llawer o raglenni darllen sgrin eu darllen. Defnyddiwch yr offeryn addasu PDF.

Cael problemau?

Ein nod yw gwneud y wefan hon yn hygyrch i bawb. Os ydych yn cael problemau yn dod o hyd i wybodaeth ar y wefan, mae croeso ichi ddanfon ebost atom yn web@carers.org a rhoi gwybod inni:

Pa ddeunydd roeddech yn ceisio dod o hyd iddo
Y broblem a gawsoch. 
Y porydd roeddech yn ei ddefnyddio i wylio’r dudalen hon.
 


Cwcis

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Gallwch reoli ein defnyddio o gwcis yma. Mae mwy o wybodaeth ar gael isod.

Datganiad Cwcis

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Rydym yn defnyddio cwcis i bersonoleiddio cynnwys a hysbysebion, i ddarparu darnau ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, ac i ddadansoddi ein traffig. Rydym hefyd yn rhannu gwybodaeth am eich defnydd o’n gwefan gyda’n partneriaid cyfryngau cymdeithasol, hysbysebu a dadansoddeg all ei chyfuno gyda gwybodaeth arall rydych wedi’i darparu iddynt neu y maent wedi’i chasglu o’ch defnydd o’u gwasanaethau.

Mae cwci yn ffeil fechan y gellir ei rhoi ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn galluogi gwe gymwysiadau i ymateb ichi fel unigolyn trwy gofio gwybodaeth am eich dewisiadau. Nid yw cwci yn rhoi unrhyw fath o fynediad inni at eich cyfrifiadur nac at unrhyw wybodaeth amdanoch, ac eithrio’r data yr ydych yn dewis ei rannu gyda ni.

Dywed y gyfraith y gallwn storio cwcis ar eich peiriant os oes gwir eu hangen ar gyfer gweithrediad y wefan hon. Ar gyfer pob math arall o gwci mae’n rhaid inni gael eich caniatâd.

Mae’r wefan hon yn defnyddio mathau gwahanol o gwcis. Mae rhai cwcis yn cael eu gosod gan wasanaethau trydydd parti sy’n ymddangos ar ein tudalennau..

Gallwch ddewis y ddolen hon i reoli’r cwcis rydych yn eu dewis ar gyfer ein gwefan ar unrhyw adeg.

Dysgwch fwy am bwy ydyn ni, sut allwch gysylltu â ni a sut rydym yn prosesu data personol yn ein Polisi Preifatrwydd.

Rydym yn defnyddio’r cwcis canlynol ar ein gwefan:

Derbyn Cwcis

Pan fyddwch yn ymweld â’r wefan hon am y tro cyntaf mae neges am gwcis yn ymddangos ar y sgrin. Mae eich dewisiadau cwcis yn cael eu stori mewn cwci o’r enw "uni_cookies". Unwaith y mae’r cwci wedi’i greu bydd y neges yn diflannu. Gallwch newid eich dewisiadau trwy fynd i’r dudalen hon.

Google Analytics

Enw’r Cwci
Disgrifiad
Math/Hyd
__utmb
__utmc
Sesiwn Pennu Ymwelydd
Mae’n cynnwys dyfais adnabod ymwelydd unigryw.
30 munud o’i osod/diweddaru
__utma
Adnabod Ymwelwyr Unigryw
Mae’n cynnwys dyfais adnabod ymwelydd unigryw
2 flynedd o’i osod/diweddaru
__utmz
Olrhain Ffynonellau Traffig & Mordwyo
Mae’n cynnwys ffynhonnell traffig a gwybodaeth am y gair allweddol neu wefan gyfeiriol
6 mis o’i osod/diweddaru
Sesiwn ID PHP

Mae sesiwn PHP yn cael ei chreu pan mae ffwythiant arbennig yn cael ei ddefnyddio ar y wefan, sy’n galluogi’r wefan i adnabod un defnyddiwr yn benodol rhwng llwytho tudalennau. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer gweithrediad y wefan, ac fe’i defnyddir ar gyfer cyfleusterau fel ymrestriadau ar y system rheoli cynnwys a chydbwyso llwyth.

Enw’r Cwci
Disgrifiad
Math/Hyd
PHPSESSID
Mae’n cynnwys dyfais adnabod anhysbys y gall y gweinydd ei ddefnyddio i ddarparu gwasanaeth parhaus.
 
 

Adborth a Chwynion

Rhowch wybod inni am unrhyw adborth sydd gennych neu i wneud cwyn


Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ac i wella parhaus, ond fe sylweddolwn fod cynnal a gwella safonau yn dibynnu ar adborth gan ein Partneriaid Rhwydwaith, gofalwyr di-dâl, partneriaid eraill, a phobl sy’n ymgysylltu â ni.

Mae hyn yn rhoi trosolwg inni o’n gweithdrefn Adborth a Chwynion.

Ein Hagwedd at Adborth a Chwynion
Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn gwerthfawrogi ac yn annog adborth adeiladol, yn gadarnhaol a negyddol, am ein gweithgareddau. Credwn fod trin cwynion am yr hyn a wnawn mewn ffordd agored a thryloyw yn arwain at well canlyniadau.

Rydym am i gwynion gael eu clywed, eu deall a’u parchu. Ethos ‘ei wneud yn iawn y tro cyntaf’ yw sail y polisi hwn, gyda phwyslais ar ymateb i gwynion yn effeithiol ac o fewn cyfnodau amser rhesymol.

Mae’r weithdrefn hon ar gyfer trydydd partïon sy’n dymuno cyflwyno adborth a/neu gwynion i’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr.

Rhannu Adborth
Os hoffech rannu adborth gyda ni am y wefan neu os ydych wedi cael seibiant byr ac eisiau rhoi gwybod inni beth oedd eich barn am y seibiant a’r broses yr aethoch drwyddi ar gyfer ei gael mae croeso ichi e-bostio: shortbreakswales@carers.org

Gwneud Cwyn

 

Os hoffech wneud cwyn am y Partner Darparu a drefnodd eich seibiant byr, dylech gysylltu â nhw’n uniongyrchol a gofyn am gopi o’u Polisi a Gweithdrefn Gwynion.

o   Os hoffech wneud cwyn am y ffordd y rheolodd yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr y Cynllun Seibiannau Byr dylech yn y lle cyntaf e-bostio eich cwyn i shortbreakswales@carers.org . Os na all tîm y Cynllun Seibiannau Byr ddatrys eich cwyn dylech e-bostio manylion eich cwyn naill ai: trwy ebost i feedback@carers.org

o   trwy’r post i Carers Trust, 2-6 Boundary Row, London SE1 8HP.            

Wedi i’r gŵyn gyrraedd, ein nod yw bod un o’n tîm yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib. Gall gymryd ychydig yn hirach yn ystod ein cyfnodau prysur.

Rhagor o Wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth am sut mae ein Gweithdrefn Gwynion yn gweithio ar gael yn ein Polisi Adborth a Chwynion.

Os ydych yn anfodlon â’n hymateb o hyd, gallwch gysylltu â’r Comisiwn Elusennau neu Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau Yr Alban i gael cyngor. Os yw eich cwyn am ein gwaith Codi Arian, mae croeso hefyd ichi gysylltu â’r Rheoleiddiwr Codi Arian.

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences