Mae’r Cynllun Seibiannau Byr, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn fenter newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl o bob oed yng Nghymru i gymryd seibiant o’u rôl ofalu. Mae seibiant byr yn fwy na dosbarth ioga neu noson mewn gwesty, mae’n gyfle i ofalwyr ymlacio ac ail-wefru. Mae’n cynnig hoe o heriau beunyddiol gofalu am aelod o’r teulu neu ffrind.
Defnyddiwch y dolenni isod i weld y seibiannau byr sydd ar gael yn eich ardal chi.
Lansiwyd y Cynllun Seibiannau Byr yn 2022 i gefnogi gofalwyr di-dâl ledled Cymru i gymryd seibiant mawr ei angen o’u cyfrifoldebau gofalu. Mae’r cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn rhedeg yn y lle cyntaf rhwng 2022-2025. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, Corff Cydlynu Cenedlaethol y cynllun, yn darparu grantiau i fudiadau er mwyn i 30,000 o ofalwyr di-dâl allu cymryd seibiant.
Mae gan y cynllun gyllideb o £9 miliwn, a chaiff y gwaith o’i reoli ei rannu rhwng Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a saith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol. Mae mudiadau yn gwneud cais am yr arian i ddarparu’r gweithgareddau.
Mae’r seibiannau byr hyn yn gallu trawsnewid bywydau, trwy gynnig seibiant hollbwysig i ofalwyr ledled Cymru.
11,000
Mae 32 o fudiadau wedi derbyn bron i ddau miliwn o bunnoedd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru i gefnogi gofalwyr di-dâl i elwa o seibiant mawr ei angen (2023/24).
Mae’r arian yma wedi bod mor bwysig yn cynnal gofalwyr di-dâl yn eu rolau gofalu drwy’r hinsawdd bresennol o ansicrwydd a’r argyfwng costau byw. Mae’n fwy na chymorth ariannol, mae’n llinell bywyd.
Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn darparu cyllid i fwy na 30 Partner Darparu yn y trydydd sector ar gyfer cynnig seibiant byr i ofalwyr di-dâl yng Nghymru. Rydym yn gweithio gyda Phartneriaid Darparu ar draws ardaloedd pob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae ein Partneriaid Darparu yn amrywio o ran maint a ffocws, o grwpiau bychain dan arweiniad gwirfoddolwyr i elusennau mawr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.
Yn ystod chwe mis cyntaf 2024/25, cafodd dros 4,000 o ofalwyr, nad oeddent wedi defnyddio'r rhaglen o'r blaen, seibiant byr drwy rwydwaith partneriaid darparu Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. O ganlyniad, mae bron i 17,000 o ofalwyr di-dâl bellach wedi elwa o'r cynllun ers iddo gael ei lansio yn 2022, sy'n golygu ei fod eisoes wedi rhagori ar y targed i gefnogi 14,000 o ofalwyr di-dâl erbyn 31 Mawrth 2025. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru bellach wedi darparu grantiau gwerth bron i £4 miliwn i rwydwaith o dros 30 o fudiadau ledled Cymru ers sefydlu'r cynllun.
Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, "Rydyn ni wedi gweld beth mae cymryd seibiant byr yn gallu ei wneud i fywyd gofalwr. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'i rwydwaith o fudiadau gofalwyr lleol eisoes wedi cefnogi bron 17,000 o ofalwyr di-dâl i gymryd seibiant mawr ei angen. Diolch i holl bartneriaid y rhwydwaith, mudiadau gofalwyr a gwirfoddolwyr sydd wedi helpu i wneud y rhaglen Seibiant Byr yn gymaint o lwyddiant gan gefnogi miloedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru."