Mae prosiect Amser Canolfan Ofalwyr Abertawe yn canolbwyntio ar ddewis o gyfleoedd seibiannau byr i ofalwyr, yn amrywio o therapïau holistaidd a seibiannau eraill i ffwrdd o rolau gofalu i ofal cefnogaeth ac amnewid uniongyrchol.
Bydd Cydraddoldeb Hiliol yn Gyntaf yn darparu ystod o gyfleoedd seibiannau byr, gan gynnwys teithiau, teithiau cerdded tywys a gweithgareddau pwrpasol ar gyfer gofalwyr di-dâl o Gymunedau Ethnig wedi’u Lleiafrifo yn ne Cymru.
Cynnal Te Prynhawn i ofalwyr a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw ar yr ail ddydd Gwener o bob mis rhwng Medi 2024 a Mawrth 2025
Mynd â gofalwyr i Ganolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd i weld Sioe Gerdd o'r radd flaenaf (lleiafswm o 5 sioe wahanol). Mae croeso i’r gofalwyr ddod â’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, neu ddod hebddynt.
Mae Her Cymru yn darparu profiadau dysgu addysg awyr agored trawsnewidiol ar y môr ac yn darparu;
Does dim angen profiad hwylio i gymryd rhan
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.