Bydd prosiect Adferiad Recovery yn cefnogi oedolion sy’n ofalwyr i bobl ag anghenion iechyd meddwl a chyd-ddigwyddol i gymryd hoe fer o’u rôl ofalu. Bydd y prosiect yn cynnig cymysgedd o weithgareddau unigol a grŵp i’w dewis gan bob gofalydd, ynghyd â theithiau dydd a digwyddiadau cymdeithasol/cyd-gefnogi misol presennol yr elusen sy’n cael eu darparu ymhob un o’r 16 canolfan sydd gan yr elusen.
Bydd yr holl seibiannau’n cael eu cynllunio i ddiwallu anghenion unigol y gofalydd.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch yn uniongyrchol ag Adferiad Recovery.
Cysylltwch:
Michelle Boyd
Ebost:
Amser@adferiad.org
Gwefan:
www.adferiad.org
Ffôn:
01792 816600
Mae Adferiad yn fudiad elusennol dan arweiniad defnyddwyr yng Nghymru sy’n gweithio i gynorthwyo a chefnogi pobl o bob oed sy’n byw gyda salwch meddyliol difrifol, materion caethineb, anabledd neu salwch hirdymor, a’u teuluoedd, perthnasau a gofalwyr.
Mae’r mudiad yn gweithio gydag unigolion i sicrhau adferiad a lleddfu’r pwysau sydd ar ofalwyr di-dâl trwy raglenni cefnogaeth, gwybodaeth, cyngor, a gwybodaeth wedi’u targedu ar gyfer unigolion a grwpiau.
Mae staff a gwirfoddolwyr arbenigol y mudiad yn cefnogi ac yn gweithio gyda phobl i wneud gwelliannau ymhob agwedd ar eu bywydau a’u galluogi i fyw gydag urddas ac mor annibynnol ag y bo modd. Mae Adferiad yn fudiad sy’n ymrwymo i hyrwyddo hawliau dynol ac sy’n cydnabod ein bod oll yn gyfartal.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.