Trwy ei Brosiect Seibiannau Byr‘ Time for me/ Amser i Mi’, mae Cymorth Cancr Ray of Light yn cynnig y cyfle i ofalwyr ifanc ac oedolion sy’n ofalwyr fynd ar encilion wedi’u trefnu, seibiannau byr i ffwrdd a digwyddiadau teuluol. Bydd y mudiad yn darparu’r cyfle am seibiant mawr ei angen er mwyn i ofalwyr gael amser gwerthfawr iddyn nhw’u hunain a gwella eu hiechyd a’u llesiant. Mae’r mudiad yn cefnogi gofalwyr i barhau i ddarparu’r gofal hollbwysig ar gyfer ceraint yn y gymuned.
I ddarganfod mwy neu i wneud cais am yr egwyl hon, siaradwch â Ray of Light yn uniongyrchol.
Cwblhewch y ffurflen hon i gofrestru eich diddordeb:Ffurflen gofrestru Amser i Mi
Cysylltwch:
Rebecca O’Mahoney and Katie Mottram
Gwefan:
www.rayoflightwales.org.uk
Ffôn:
07379 753095
Mae Ray of Light yn darparu lle cyfrinachol, diogel ac anragfarnol i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan gancr, a thrwy gythrwfl diagnosis eu ceraint, tra’n ceisio dygymod â bywyd teuluol beunyddiol. I lawer gall y gefnogaeth hon fod yn llinell bywyd.
Mae’r mudiad yn darparu gwasanaeth cyfrinachol a chlust i wrando mewn amgylchedd cyfeillgar, ymlaciol.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.