Mae Rewild Play yn anelu at gefnogi oedolion sy’n ofalwyr a gofalwyr ifanc di-dâl plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chyflyrau iechyd meddwl ar draws de Cymru sy’n methu dod o hyd i ofal plant dros nos ac sy’n ei chael yn anodd cyfarfod â phobl eraill yn yr un sefyllfa. Mae’r mudiad yn darparu gweithgareddau grŵp yn ystod y dydd a gyda’r nos ar gyfer gofalwyr mewn lleoliadau gwahanol yn ne Cymru a seibiannau gweithgareddau preswyl i deuluoedd yng ngwersyll Urdd Gobaith Cymru (Llangrannog).
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am yr egwyl hon, siaradwch â Rewild Play yn uniongyrchol.
Cysylltwch:
Sian Lewis-Evans
Gwefan:
www.rewildplay.org.uk
Ffôn:
07502 764368
Mae Rewild Play yn darparu gweithgareddau hygyrch a fforddiadwy a chyfleoedd hamdden, rhyngweithio cymdeithasol, cyfeillgarwch a chefnogaeth emosiynol i blant a phobl ifanc yn ne Cymru a chanddynt gyflyrau iechyd meddwl neu anghenion dysgu ychwanegol, waeth beth yw statws eu diagnosis, gan geisio cefnogi’r teulu cyfan.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.