Mae Canolfan Ofalwyr Abertawe yn anelu at ariannu dewis o gyfleoedd seibiant personol, hyblyg, ymatebol a chreadigol ar gyfer gofalwyr di-dâl, 16+ oed, yn byw yn Abertawe. Gall gofalwyr fanteisio ar seibiannau traddodiadol, teithiau dydd, nosweithiau mewn gwestai, grwpiau cyd-gefnogi a digwyddiadau cymdeithasol i ofalwyr yn ogystal â chynllun Micrograntiau fydd yn talu am gyfleoedd seibiannau byr i helpu cynnal iechyd a llesiant gofalwyr.
Gallwch drefnu seibiant trwy ein gwefan lle y cewch ffurflen gyswllt ar gyfer Canolfan Ofalwyr Abertawe neu trwy e-bost.
I gael gwybod mwy neu i wneud cais am y seibiant hwn, siaradwch yn uniongyrchol â Canolfan Ofalwyr Abertawe.
Cysylltwch:
Runa Begum
Ebost:
admin@swanseacarerscentre.org.uk
runa@swanseacarerscentre.org
Gwefan:
www.swanseacarerscentre.org.uk
Ffôn:
01792 653344
Mae Canolfan Ofalwyr Abertawe yn fudiad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr di-dâl a chyn ofalwyr ar draws Dinas & Sir Abertawe. Mae’n cynnig gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i wneud bywyd yn haws i’r gofalydd a’r person maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae’n darparu cyfleoedd i ofalwyr gyfarfod â gofalwyr eraill, rhannu profiadau a gweithio gyda’i gilydd i newid pethau er lles pawb.
Mae’r mudiad yn cynnig dewis cynhwysfawr o hyfforddiant a gweithgareddau i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae’r holl wasanaethau’n rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol. Maent yn Bartner Rhwydwaith yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr, elusen genedlaethol fawr sy’n cynnig help ymarferol ac emosiynol i ofalwyr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.