Bydd prosiect Ehangu Gorwelion Her Cymru yn cynnig:
Mae gweithgareddau yn meithrin sgiliau cymdeithasol ac academaidd ac yn hybu lles. Mae'r diwrnod hwylio yn cynnig seibiant o ddyletswyddau gofalu, yn gwella iechyd meddwl trwy ddysgu sgiliau, a hwyl yn y dŵr. Yn ogystal, mae'r sesiynau yn darparu cyfleoedd datblygiad personol. Gall y gweithgareddau hyn helpu i feithrin gwell sgiliau cyfathrebu, a mwy o wybodaeth am y cefnfor, daearyddiaeth, Saesneg, sgiliau darllen, gwyddoniaeth a mathemateg trwy ein rhaglen ddysgu arloesol ar y dŵr.
Bydd y sesiwn Heli a Holi yn cynnwys sesiwn codi sbwriel / microblastigau.
Beth sy’n gynwysedig
Ar gyfer y fordaith dydd:
Ar gyfer y sesiwn Heli a Holi ar y lan:
Does angen unrhyw brofiad i gymryd rhan. Mae’n rhaid i ofalwyr ifanc fod yn gallu symud yn ddigonol i ddringo chwe gris ar eu pen eu hunain heb gymorth.
14 oed yw’r oedran lleiaf ar gyfer mordaith dydd
11 oed yw’r oedran lleiaf ar gyfer sesiwn Heli a Holi ar y lan
Ariennir y prosiect hwn gan y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol - C3SC / Cardiff and Vale.
Mae Her Cymru yn ysbrydoli pobl ifanc 11 – 25 oed i ehangu eu gorwelion, i gyflawni eu potensial, i ddatblygu eu sgiliau bywyd ac i wella eu hiechyd meddwl trwy ddysgu awyr agored trawsnewidiol ar y dŵr. Mae Her Cymru yn meithrin twf personol trwy gefnogaeth hwyliog a chadarnhaol, sy'n annog cynhwysiant, waeth beth fo'i allu. Mae gweithgareddau'n datblygu sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu, gwytnwch a hunanhyder ac ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd ac am y cefnfor.
I gyflawni hyn mae Her Cymru'n cynnig teithiau undydd achrededig trwy Agored Cymru (7 awr) ar ei gwch hwylio Her Cymru. Mae’n cynnwys sesiynau 3 awr ar y lan, dysgu am fyw ar gwch a dod â phynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg) yn fyw, heb hwylio. Does dim angen profiad hwylio i gymryd rhan. Elusen yw Her Cymru sy’n cael ei rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.