Bob dydd Mercher, rhwng mis Medi 2024 a mis Mawrth 2025, byddwn ni’n mynd â gofalwyr di-dâl ar daith fydd yn gwella eu llesiant ac yn cryfhau eu perthynas a’u cyfeillgarwch ag eraill.
Mae croeso i’r gofalwyr ddod â’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, neu ddod hebddynt. Byddwn ni’n defnyddio bws mini Grŵp Sefydliad Gellideg, a gyda chefnogaeth ein gwirfoddolwyr byddwn ni’n ymweld â llefydd fel Sain Ffagan, Canolfan Arddio Pughs, canol tref Aberhonddu, Castell Rhaglan, Canolfan Ymwelwyr Libanus ym Mannau Brycheiniog, gwaith Dur Blaenafon, Castell Caerffili, Abaty Tyndyrn, y Gelli Gandryll, Bae Caerdydd, goleuadau Nadolig Parc Margam a llawer mwy.
Mae 16 sedd ar y bws mini, a dyna’r uchafswm fydd yn gallu dod ar bob taith. Bydd y gofalwyr yn cael dewis pa dripiau sydd orau ganddyn nhw, a byddwn ni’n agored iawn i awgrymiadau. Byddwn ni’n sicrhau bod pawb yn cael cyfle i ddod ar daith, ac yn blaenoriaethu’r gofalwyr sydd fwyaf ynysig ac sydd angen cymorth.
Mae pob taith yn rhad ac am ddim. Byddwn ni’n cwrdd yng Nghanolfan Llesiant Gellideg, Merthyr Tudful. Cysylltwch â ni i sicrhau eich lle.
Ar yr ail ddydd Gwener o bob mis byddwn ni’n cynnal Te Prynhawn i ofalwyr yng Nghanolfan Llesiant Gellideg, Merthyr Tudful. Mae croeso i’r gofalwyr ddod â’r bobl maen nhw’n gofalu amdanyn nhw, neu ddod hebddynt. Mae’r ganolfan yn gwbl hygyrch ac mae’r llawr yn wastad. Mae lifft a thoiledau anabl yno hefyd. Bydd cyfle i chwarae gemau bwrdd cyn cael brechdanau a chacennau gyda the neu goffi. Yn ystod y Te Prynhawn byddwn ni’n cynnal cwis. Mae lle i 35 o bobl ym mhob Te Prynhawn. Mae ein gwirfoddolwyr yn cynorthwyo gyda’r gwaith o bobi cacennau cartref a gweini’r te. Cynhelir bob Te Prynhawn rhwng 1pm a 3pm. Cysylltwch â ni i sicrhau eich lle.
Gan ein bod ni’n gweithio mewn partneriaeth â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, rydym ni’n gallu cael gafael ar docynnau rhatach i weld sioeau arbennig. Mae’r tocynnau hyn yn cynnwys rhai ar gyfer cadeiriau olwyn. Rhwng mis Medi a mis Mawrth rydym ni’n gobeithio cael gafael ar docynnau i weld: Sioe Gerdd Grease, Wicked, Hamilton, Sioe Gerdd Ghost, a Calamity Jane. Mae’r adborth rydym ni wedi ei gael i deithiau o'r fath yn y gorffennol yn dangos bod teithiau i’r theatr yn rhoi hwb mawr i bobl. Ar bob taith, byddwn ni’n gallu mynd â 16 o bobl am ddim. Bydd y bws mini yn cychwyn o Ganolfan Llesiant Gellideg, Merthyr Tudful, ac yn ein gollwng ni yn ôl yno ar ôl y daith. Cysylltwch â ni i sicrhau eich lle.
Cysylltwch â ni i archebu eich lle drwy: ffonio 01685383929
anfon e-bost at marcus@gellideg.net
Llenwi’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan www.gellideg.net neu anfon neges i ni ar Facebook.
Mae Grŵp Sefydliad Gellideg yn sefydliad elusennol sy’n darparu gwasanaethau llesiant cyfannol i breswylwyr ym mhob rhan o Ferthyr Tudful. Ein nod ni yw sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni eu potensial.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.