Arhosiad dros nos yn Sba Bro Morgannwg a phryd gyda’r nos. Yn ystod eich arhosiad byddwch chi’n cael defnyddio’r adnoddau dŵr ac yn cael triniaeth o’ch dewis yn y sba am 50 munud.
Arhosiad dros nos yn Safle Glampio'r Bryn, a defnyddio’r twba twym preifat.
Mae Cosy Cinema yn encil 6-awr lle gallwch chi ymlacio mewn pod preifat gyda sinema sydd ag adnoddau fel Netflix, Disney+ a llawer mwy. Bydd dŵr ac ychydig o fyrbrydau yn aros amdanoch pan fyddwch chi’n cyrraedd.
Mewn sesiwn dwy awr o hyd yn y Tŷ Siocled , byddwch chi’n cael cyfle i ddysgu am hanes siocled ac i flasu’r gwahanol fathau o siocled sy’n bodoli. Yna byddwch chi’n cael cyfle i greu casgliad bychan o siocledi eich hunain i fynd adref gyda chi. Mae’r sesiwn yn para dwy awr.
Mae creu torch yn gyfle i rieni/gofalwyr ddefnyddio eu creadigrwydd i greu rhywbeth y gallan nhw ei arddangos dros gyfnod y Nadolig.
Drwy gymryd rhan mewn gweithdy gwaith coed byddwch chi’n cael cyfle i archwilio crefft newydd ac i fod yn greadigol.
I atgyfeirio eich hun ewch i’r wefan neu ffoniwch ( 01443 492624 )a gallwn ni anfon dolen atgyfeirio atoch chi; gallwn ni roi cymorth i deuluoedd gwblhau’r atgyfeiriad os oes angen.
Donna Price: info@behavioursupporthub.org.uk
Rydym ni’n dîm o rieni sy’n cefnogi rhieni/gofalwyr sydd â phlant niwroamrywiol. Ein nod ni yw cynorthwyo teuluoedd i gael gafael ar y gefnogaeth maen nhw, neu eu plentyn, ei angen. Er mwyn gwneud hyn rydym ni’n cynnal gweithdai, yn cynnig sesiynau cefnogi cyfoedion, sesiynau 1 i 1 ar gyfer teuluoedd sydd angen cefnogaeth wedi ei deilwra. Rydym ni hefyd yn credu bod sesiynau llesiant i rieni yn bwysig dros ben er mwyn sicrhau nad yw’r rhieni yn cael eu hamddifadu.
Chwiliwch am wasanaethau gofalwyr yn eich ardal chi trwy ein rhwydwaith o bartneriaid arbenigol ledled Cymru.