I nifer, mae gwyliau’r Pasg yn gyfle da i gymryd rhan mewn gweithgareddau i groesawu’r gwanwyn, cwrdd â theulu a ffrindiau, neu fynd ar dripiau cyffrous. Mae’r wythnosau hyn yn bleserus i rai, ond maent yn gallu bod yn llethol i’r rhai sy'n gorfod ysgwyddo’r baich o ofalu am rywun. Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn gallu cynnig cefnogaeth a chysur.