Ateb natur – gwneud ffrindiau a chael hwyl yn y goedwig
Mae Campfire Cymru yn gweithio gyda phlant, teuluoedd a grwpiau cymunedol trwy weithgareddau awyr agored cynaliadwy. Mae eu prosiect, ‘Teuluoedd Rhieni a Gofalwyr y Goedwig’, yn darparu cymysgedd o weithgareddau a gynhelir yn Sir Ddinbych a Sir y Fflint. Mae’r prosiect yn cefnogi teuluoedd ag anableddau, gan gynnwys teuluoedd niwroamrywiol a phobl a chanddynt bryderon am eu hiechyd meddwl, trwy nifer o sesiynau llesiant a chyd-gefnogi yn yr awyr agored.
Cyn gynted ag yr ydw i’n cyrraedd y lle tân rydw i’n ysgafnhau’n syth. Rwy’n teimlo ei fod wedi fy ngalluogi i wneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned sy’n deall.
Hyd yn hyn, mae Campfire Cymru wedi cynnal 32 o sesiynau cyd-gefnogi cyfeillgar o gwmpas y tân gwersyll ar gyfer rhieni a gofalwyr, a 18 o sesiynau Teulu’r Goedwig. Mae rhieni a gofalwyr wedi gallu dod at ei gilydd, i sgwrsio a chael rhywfaint o gefnogaeth mawr ei hangen. Mae teuluoedd wedi gallu treulio amser gyda’i gilydd yn y coed, yn gwneud atgofion a ffrindiau, ac adeiladu sgiliau a gwytnwch.
“Roedd y sesiynau hyn yn anhygoel ac roeddwn i a fy mab wedi eu mwynhau gymaint, ac rwyf hyd yn oed wedi dechrau hyfforddiant ysgolion coedwig fy hun! Roedd yn gymaint o help gyda fy nheulu yn gwneud y sesiynau, gallai fy mab fod yn ef ei hun, roedden ni’n teimlo’n rhan o bopeth a bod pobl yn gofalu amdanyn ni. Roedd yn helpu fy mab i ymlacio ac roedd wrth ei fodd yn rhoi cynnig ar sgiliau newydd, y cynnau tân yn enwedig. Rwy’n gobeithio y gallwn wneud y sesiynau hyn eto, roedden ni’n eu gwerthfawrogi’n fawr, diolch!” Susan*, rhiant ofalydd
Mae rhieni’n cael amser i ofalu am eu hunain yn harddwch yr awyr agored, cymryd rhan mewn coginio ar dân y gwersyll ac elwa o gefnogi ei gilydd. Maen nhw’n gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau meddylgar fel crefft, garddio, amser hamog, adrodd storïau a chanu. Mae teuluoedd yn elwa o chwarae dan arweiniad y plant yn y coed, crefftau perth, adeiladu deniâu, archwilio natur, dringo, coginio ar dân y gwersyll a gwneud ffrindiau.
“Mae coetir Castell Helygain yn lle mor arbennig. Cyn gynted ag yr ydw i’n cyrraedd y lle tân rydw i’n ysgafnhau’n syth. Rwy’n teimlo ei fod wedi fy ngalluogi i wneud ffrindiau a bod yn rhan o gymuned sy’n deall. Mae’r sesiynau’n hyfryd. Roedd y myfyrio ar y ddôl yn wych. Roedd yn un o fy hoff bethau. Ni fyddai dim yn fy ngwneud yn hapusach na chlywed y bydd y sesiynau hyn yn parhau am byth.” Lowri*, rhiant ofalydd
Mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n fawr, ac rwyf yn cymryd llai o feddyginiaeth. Mae bywyd yn y cartref a pherthnasoedd wedi gwella’n fawr.
Hyd yn hyn mae prosiect ‘Teuluoedd Rhieni a Gofalwyr y Goedwig’ wedi rhoi help uniongyrchol i 96 o ofalwyr a 41 o bobl sy’n derbyn gofal.
“Mae fy iechyd meddwl wedi gwella’n fawr, ac rwyf yn cymryd llai o feddyginiaeth. Mae bywyd yn y cartref a pherthnasoedd wedi gwella’n fawr. Rwyf wedi dysgu sgiliau a thechnegau ymdopi ar gyfer bywyd bob dydd. Rwyf wedi gwneud ffrindiau oes yn y sesiynau, ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn teimlo fel teulu erbyn hyn. Rwyf yn edrych ymlaen at y sesiynau bob wythnos, a does dim ots sut mae fy wythnos wedi mynd rwy’n gwybod fod gen i’r sesiynau hyn i edrych ymlaen atynt. Daliwch ati gyda’r gwaith gwych”. Sam*, rhiant ofalydd
Mae Campfire Cymru yn dweud mwy wrthym am un o’u teuluoedd sy’n elwa o’r prosiect.
“Mae gan un o’r teuluoedd a gymerodd ran yn y prosiect dri phlentyn, pob un o dan 8 oed a phob un ag anghenion cymhleth. Mae gan un plentyn anawsterau lleferydd ac iaith, gorfywiogrwydd a byrbwylltra ac nid yw’n ymateb yn ôl y disgwyl i’r rhan fwyaf o symbyliadau synhwyraidd. Nid yw ei ymdeimlad o berygl wedi datblygu’n dda iawn ac mae’r rhieni’n aml yn orymwybodol o risg. Mae’r tri phlentyn yn cael eu haddysgu gartref oherwydd diffyg cefnogaeth addas yn yr ysgol.
“Roedd y teulu’n ei chael yn anodd mynd yma a thraw oherwydd natur anghenion cymhleth niferus y plant. Mae Mam a Dad wedi gweld na allant fynd â’r holl blant allan ar yr un pryd gan eu bod fel arfer yn gorfod cymryd eu tro i fynd â phob plentyn allan neu fynd allan gyda llai o blant. Roedd teithiau allan wedi mynd yn brofiadau llawn straen oedd yn eu blino’n lân.
“Roedd Mam eisiau cyfarfod â rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg er mwyn rhannu gwybodaeth a phrofiadau. Roedd eisiau gweld y plant yn datblygu eu hyder, eu sgiliau corfforol, emosiynol a chyfathrebu, a chyfarfod a chwarae gyda phlant eraill.
“Aethom ati i ddarparu rhaglen o chwe sesiwn ysgol goedwig dwy awr o hyd yn Sir Ddinbych. Roedd y sesiynau’n cael eu harwain gan y plant ac roedd y plant yn gallu archwilio a chwarae yn yr awyr agored, cymryd rhan mewn gemau a gweithgareddau creadigol, mwynhau coginio ar dân y gwersyll a chymryd amser i gael hwyl.
“Oherwydd ein cymarebau staff i gyfranogwyr uchel, roedd y rhieni’n gallu ymlacio wrth inni weithio gyda’r plant, yn creu celf, chwarae gyda theganau a darllen storïau. Roeddem wedi gallu darparu lle diogel i’r teulu cyfan, i siarad gyda’r rhieni a gwrando ar eu pryderon. Dywedodd y rhieni wrthym mai mynd i’r ysgol goedwig oedd y tro cyntaf iddynt fynd â’r tri phlentyn allan gyda’i gilydd ers tro byd.”
Meddai Mam,
Diolch yn fawr iawn am y sesiynau hyn, mae wedi bod yn wych gallu siarad â rhieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae wedi golygu llawer inni allu dod, cael y plant allan a chael ychydig o amser i sgwrsio ac ymlacio.
*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd