Rewild Play

post image 1

Dod â’r llawenydd yn ôl

Mae Rewild Play yn cynorthwyo gofalwyr di-dâl plant ag anghenion dysgu ychwanegol a chyflyrau iechyd meddwl ar draws de Cymru. Mae eu Prosiect Seibiannau Byr, ‘Caru-Ti ~ Love You’ yn galluogi  gofalwyr di-dâl i fwynhau nifer o weithgareddau gwahanol a chael seibiant byr o’u cyfrifoldebau gofalu, gan gynnwys nosweithiau i ffwrdd a grwpiau wythnosol i gefnogi ei gilydd.

Cael eu gwerthfawrogi

Mae Rewild Play wedi gallu cefnogi gofalwyr a’u teuluoedd i gael seibiant penwythnos, neu fwynhau profiad arbennig. Maent wedi trefnu teithiau i ffermydd i deuluoedd, sesiynau marchogaeth ceffylau a theithiau i’r sinema. Diolch i ddeg cyfarfod grwpiau cyd gefnogi, mae llawer o ofalwyr wedi cael y cyfle nid yn unig i siarad â’i gilydd ond gydag asiantaethau allanol hefyd am y cyfleoedd ehangach sydd ar gael yn y gymuned all eu cefnogi i gynnal eu rolau gofalu.

“Mae’n braf cael fy nghydnabod am y gofal rwy’n rhoi ac mae’r seibiant yn gwneud imi deimlo fod fy rôl yn cael ei gwerthfawrogi gan gymdeithas.” Jo*, rhiant a fwynhaodd seibiant dros nos.

Seibiant i ffwrdd

Mae Rewild Play yn esbonio nad yw nifer arwyddocaol o deuluoedd yn gallu cael hoe iddyn nhw’u hunain, gan ei bod yn anodd dod o hyd i rywun i ofalu am eu plentyn. Fodd bynnag, diolch i’r Cynllun Seibiannau Byr, roedd un ar bymtheg o ofalwyr di-dâl a’u partneriaid wedi gallu mwynhau arhosiad dros nos mewn gwestai ledled de Cymru, gan wybod fod eu plant mewn dwylo diogel a bod rhywun yn gofalu amdanynt. Roedd y prosiect hefyd wedi cefnogi dau deulu i gael seibiant gyda’i gilydd.

Meddai Rita*, “Nid yw rhwystredig yn agos at ddisgrifio sut rwyf wedi bod yn teimlo am y 12 mis diwethaf. Ac wedi ymlâdd. Mae llawer o faich ein plant ar fy ysgwyddau i gan fod fy ngŵr yn gweithio oddi cartref ac mae wedi bod yn anodd dod o hyd i amser i fod yn ni. Rhoddodd y grant hwn y cyfle hwnnw inni. Pryd hyfryd o fwyd allan mewn lleoliad hyfryd. Amser i ddadlwytho’r gorbryder, straen a rhwystredigaeth a dod yn ni unwaith eto. Cyfle i ail-gysylltu a chanolbwyntio ar ein gilydd, sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth ers inni ddod adref.”

Amser i ail-gysylltu

Dywedodd gofalydd arall, Rosa*, wrthym, “Roedd peidio cael y plant gyda ni yn golygu ein bod yn gallu mwynhau’r pethau roedden ni eisiau’u gwneud ond byth yn cael y cyfle. Gyda’n grant seibiannau byr roedd mawr angen noson mewn gwesty heb ein plant. Cawsom bryd hyfryd o fwyd gyda’n gilydd ac ymweliad prin iawn â’r theatr sy’n rhywbeth y mae’r ddau ohonom yn ei fwynhau.

“Nid oedd unrhyw waith tŷ i’w wneud ac roedd pobl eraill yn gofalu amdanon ni yn hytrach na ninnau’n gofalu am eraill byth a beunydd – roeddem wrth ein boddau ac roedd mawr ei angen! Mae gennym blentyn saith oed ag amhariad genetig a phlentyn deg oed sydd â chyflwr tebyg i ADHD ond heb ei ddiagnosio eto. Mae’r ddau yn drwm iawn arnon ni mewn ffyrdd gwahanol ond mae angen cefnogaeth un ac un ar y ddau.

“Roedden ni’n dal yn gallu gwneud y pethau a wnaethon ni cyn i’r plant ddod, ac fe atgoffodd e ni y gallwn gael hwyl a bod yn ni o hyd. Fodd bynnag, fe wnaethon ni dreulio llawer o amser yn siarad am y plant a chwerthin am y pethau doniol maen nhw’n eu gwneud. Helpodd hynny ni i sylweddol fod ein rolau gofalu yn aml yn dod gyda gofal wedi’i flocio ac yn cuddio’r cariad sydd gennym at ein plant. Roedd cael yr hoe yna wedi gwneud inni sylweddoli gymaint rydyn ni’n eu caru."

Roedden ni’n fwy ymlaciol yn teithio adref. Roedd y cyfle i ymlacio mewn lleoliad hyfryd nid yn unig yn dderbyniol ond roedd hefyd yn hanfodol i’n llesiant meddyliol a chorfforol.

Ail-egnïo

Mae Rewild Play yn dweud fod y seibiannau teuluol, y boreau gofalwyr a’r seibiannau dros nos wedi bod yn arbennig o boblogaidd a’u bod wedi denu pobl newydd at yr elusen.

Mae pwysigrwydd un o seibiannau byr Rewild Play er mwyn gallu cynnal ei rôl ofalu yn cael ei grynhoi’n glir iawn gan Jane*:

Diolch am ein helpu i ail-gysylltu ac am glirio fy mhen a gwneud imi sylweddoli fod gen i’r egni i ddal ati a gwneud yr hyn sydd angen ei wneud!

 

*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences