The Honeypot Children’s Charity

post image 1

Mae The Honeypot Children’s Charity yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc dan 18 oed ac mae tua 50% o’r gofalwyr ifanc a gefnogir rhwng 5 a 12 oed, grŵp sy’n guddiedig o gymdeithas a chymorth gofal. Ffurfiwyd yr elusen i gefnogi plant ifanc bregus ynghanol dinasoedd, nad oeddent erioed wedi cael y profiad o seibiant preswyl yn y wlad.

Hoe o gyfrifoldebau gofalu

Yn chwe mis cyntaf y prosiect, mae cannoedd o ofalwyr ifanc wedi elwa o’r Cynllun Seibiannau Byr. Mae’r gweithgareddau wedi cynnwys seibiannau preswyl, dyddiau ‘gwneud atgofion’, rhaglen ‘hwyl trwy chwarae’, clybiau ar ôl ysgol ar-lein, grantiau llesiant a chlybiau penwythnos ar-lein. Maen nhw wedi darparu cefnogaeth a chyfeillgarwch mawr eu hangen i ofalwyr ifanc, helpu gyda datblygu sgiliau a chynnig cyfle iddynt gael seibiant byr o’u cyfrifoldebau gofalu, weithiau yn eu cartref eu hunain.

Mae’r Micrograntiau llesiant wedi helpu prynu nifer o bethau gwahanol, popeth o esgidiau pêl droed i nwyddau celf. Maen nhw hefyd wedi helpu gofalwyr ifanc i gymryd rhan mewn profiadau ceidwad sw, gwersi marchogaeth ceffylau a sesiynau ymarfer personol. Ni fyddai teuluoedd y gofalwyr ifanc yn gallu fforddio llawer o’r nwyddau a’r gweithgareddau hyn heb gefnogaeth y Cynllun Seibiannau Byr.

Cyrraedd yn bellach

Hyd yn hyn, mae bron i 1,000 o ofalwyr ifanc wedi cael eu helpu ac mae 150 o bobl sy’n derbyn gofal hefyd wedi elwa’n uniongyrchol o’r seibiant byr gyda’r gofalydd. Mae’r arian wedi sicrhau hefyd fod y staff yn Honeypot wedi gallu dal ati i wrando ar a chefnogi gofalwyr ifanc unigol, gan adeiladu ar eu cryfderau, doniau a diddordebau.

Cefnogaeth brawd a chwaer

Mae tri gofalydd ifanc a gafodd Seibiannau Honeypot yn ddiweddar yn frodyr a chwiorydd o dan 12 oed. Gartref, maen nhw’n cefnogi eu chwaer sydd ag amhariad meddyliol, anawsterau symudedd ac sy’n ei chael yn anodd cyflawni’r rhan fwyaf o dasgau. Nhw yw’r pâr ychwanegol o ddwylo hollbwysig i’w rhieni ac maen nhw’n helpu gyda phopeth o lanhau i goginio.

Meddai Mam, 

Dyna’r peth anhygoel am Honeypot, mae popeth yn canolbwyntio ar y plant. Allen ni ddim fforddio mynd am seibiant felly roedd yn achubiaeth inni. Fe ddaethon nhw’n ôl mor hapus a llawn bywyd. Mi alla i weld eu bod wedi tyfu’n fwy annibynnol!

Cael hwyl a gwneud ffrindiau

Mae Leah-Rose, sy’n 7 oed, yn helpu gofalu am ei mam, Sally, sy’n cael nifer o ffitiau bob dydd. Mae hi’n helpu gyda phopeth o agor papurau lapio i’w helpu i wisgo. Mae hi’n gefnogaeth emosiynol enfawr ac mae hi wastad yno pan mae ei mam ei hangen, ei chraig!

Mae Leah wedi’i chael yn anodd derbyn fod ganddi riant anabl, ac mae hi’n cael ei bwlïo gan ei chyfoedion yn aml. Aeth yn blentyn encilgar iawn ac roedd ysgol a chymdeithasu yn anodd iddi. Ar ei seibiant cyntaf yn Honeypot, gwnaeth Leah ffrindiau a mwynhau llawer o weithgareddau hwyl, fel crefftio a gwneud pizzas ac fe nofiodd am y tro cyntaf. Hefyd, daeth o hyd i le lle gallai ymlacio a bod yn hi ei hun.

Meddai Mam, “Mae wedi gweld ei gwerth, diolch i gefnogaeth 1-1 tîm anhygoel Honeypot. Roedd yn teimlo fel archarwres, ei harchallu oedd bod yn ofalydd ifanc, oedd yn golygu mai dim ond hi oedd yn cael mynediad i'r arch-bencadlys."

Gwneud atgofion

Mae Leah a’i chwaer Izzy wedi manteision ar nifer o wasanaethau personol Honeypot. Maen nhw wedi cael sawl Seibiant, oedd, yn ogystal â chreu llawer o atgofion hapus, wedi helpu adeiladu hyder a gwytnwch. Maen nhw wedi mwynhau sawl ‘Diwrnod Gwneud Atgofion’ anhygoel, megis teithiau i barciau gweithgareddau neu sgïo, gweithgareddau na fyddent byth wedi’u profi heb y cynllun. Maen nhw wedi elwa hefyd o’r Gronfa Lesiant ac wedi cael beic newydd y mae Leah yn dysgu ei reidio ar hyn o bryd!

Mae cofroddion y Dyddiau Gwneud Atgofion yn cael lle amlwg yn ystafell wely Leah. Meddai Mam, “Maen nhw’n ei hatgoffa ei bod yn arbennig, nid yn unig inni ei rhieni, ond i Honeypot hefyd!”. Mae Leah wrth ei bodd yn cael cardiau pen-blwydd, llyfrau hwyl Nadolig a waledi llesiant gwahanol drwy’r cynllun. “Mae Honeypot yn fwy nac elusen neu glwb ar ôl ysgol, i’n teulu ni mae’n llawer iawn mwy”, meddai tad Leah.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences