Mae prosiect ‘Amser Gyda’n Gilydd’ Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnig seibiannau byr hyblyg ac ymatebol i helpu gofalwyr yng ngorllewin Cymru i ail-wefru eu batris, gwneud cysylltiadau a chodi eu hysbryd.
Hyd yn hyn mae’r mudiad wedi cefnogi dros 380 o ofalwyr a mwy na 120 bobl sy’n derbyn gofal i fanteisio ar ddewis o seibiannau byr gwahanol.
Mae Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn fudiad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr, gan roi amser iddyn nhw fod eu hunain. Maen nhw’n darparu nifer o wasanaethau gwahanol sy’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion y gofalydd unigol a’u teulu, gan weithio gyda gwasanaethau cymunedol eraill.
Helpodd gofalwyr gyd-gynhyrchu rhaglen Amser Gyda’n Gilydd trwy gyfres o gyfarfodydd grwpiau ffocws a drefnwyd gan Groesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. O’r wybodaeth a gasglwyd datblygodd y mudiad restr gynhwysfawr o weithgareddau oedd yn cynnwys dewis o seibiannau byr gwahanol i gwrdd ag anghenion amrywiol gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin.
Mae gofalwyr wedi cael grantiau i dalu am gyfleoedd seibiannau byr gyda chyfeillion neu deulu a mwynhau gweithgareddau hunanofal i wella eu hiechyd a llesiant a’u hansawdd bywyd. Maent hefyd wedi gallu cymryd rhan mewn Rhaglen Gweithgareddau Llesiant, er mwyn cyfarfod â gofalwyr eraill, gydag a heb y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, i ymlacio ac ail-wefru.
Cafodd y prosiect groeso mawr ac mae nifer fawr o ofalwyr wedi cymryd rhan ynddo, ac wedi gwir werthfawrogi’r dewis o seibiannau byr sydd ar gael iddynt. Cafodd teuluoedd a gofalwyr ifanc hwyl ar eu taith ddydd i Barc Thema Heatherton. Cawsant deithiau dydd hefyd i Amgueddfa a Gerddi Sir Gaerfyrddin, Gŵyl Fwyd Arberth a Chyngerdd Mawreddog Meibion Elli. Trefnwyd sesiynau gweithgareddau penwythnos i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, anableddau dysgu ac awtistiaeth. Rhoddodd y rhain gyfle i’w rhiant ofalwyr a brodyr a chwiorydd sy’n ofalwyr ifanc gael hoe hollbwysig o ofalu. Roedd y Microgrant a’r talebau llesiant yn cynnwys gweithgareddau o bob math, o fowlio deg i driniaethau harddwch, talebau sinema, te prynhawn, a mynediad i atyniadau lleol.
Mae un gofalydd, Liz*, yn ei 70au yn gofalu am ei gŵr, wedi iddo gael diagnosis fistula yn ei asgwrn cefn. Mae hi’n dweud eu bod yn gorfod byw o ddydd i ddydd felly mae’n anodd cynllunio pethau. Er bod Liz yn mwynhau mynd allan a chyfarfod pobl eraill, nid yw’n gallu bod i ffwrdd yn rhy hir. Cafodd symudedd ei gŵr ei effeithio’n wael ar ôl sawl llawdriniaeth ac mae e’n gorfod dibynnu ar ffyn cerdded, cadair olwyn a sgwter, sy’n golygu nad yw prin yn gadael y tŷ. Mae Liz yn gorfod ei helpu gyda gofal personol a llawer o help ymarferol, ac oherwydd y gofal mae ef ei angen, anaml y mae hi’n cael noson lawn o gwsg.
Roedd Liz yn hapus iawn felly i allu mynd ar y daith i Amgueddfa a Gerddi Sir Gaerfyrddin. Cafodd y daith effaith gadarnhaol iawn ar ei llesiant ac elwodd yn fawr o allu ymlacio a threulio ychydig amser mewn amgylchedd gwahanol. Roedd wir yn gwerthfawrogi gwneud cysylltiadau gyda gofalwyr eraill a rhannu profiadau gyda phobl mewn sefyllfa debyg.
Gan adlewyrchu’r amrywiaeth oedrannau, mae prosiect Amser Gyda’n Gilydd Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cefnogi Surinder*, rhiant ofalydd 34 oed oedd wrth ei bodd pan glywodd y newyddion y bydd yn gallu mwynhau noson mewn gwesty gyda sba. Bydd Surinder yn gallu mwynhau ychydig amser i ffwrdd o’r pwysau gartref lle y mae’n gofalu am ei mab 7 oed sydd â pharlys yr ymennydd pedwar aelod. Mae angen cymorth 24/7 felly nid yw Surinder wedi gallu mynd yn ôl i weithio ac ni chafodd seibiant ers pedair blynedd. Mae’n cyflawni’r rôl ofalu a magu ei merch 3 oed. Mae iechyd meddwl Surinder wedi dioddef ac mae hi’n cael cyfnodau o deimlo’n unig ac ynysig.
Mae Surinder yn ei chael yn anodd treulio amser gyda’i phartner, sy’n gweithio shifftiau, a bydd cael seibiant byr i ffwrdd gyda’i gilydd o’r rôl ofalu tra bod ei mab yn cael gofal seibiant yn golygu cymaint iddynt. Mae’r syniad o gael noson lawn o gwsg mewn gwely cyfforddus yn ddigon i godi ysbryd y ddau!
Pan glywodd y bydd yn cael y grant, dywedodd, “Rwyf wrth fy modd. Rydyn ni’n cyfri’r dyddiau.”
Efallai nad yw ond yn un noson i ffwrdd, ond mae’n helpu’n barod, gan wybod y byddant yn dod yn ôl wedi ail-wefru, wedi ymlacio ac yn teimlo ychydig yn fwy gwydn.
*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd