Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr

post image 1

Personoleiddio pethau

Mae prosiect ‘Amser Gyda’n Gilydd’ Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cynnig seibiannau byr hyblyg ac ymatebol i helpu gofalwyr yng ngorllewin Cymru i ail-wefru eu batris, gwneud cysylltiadau a chodi eu hysbryd.

Hyd yn hyn mae’r mudiad wedi cefnogi dros 380 o ofalwyr a mwy na 120 bobl sy’n derbyn gofal i fanteisio ar ddewis o seibiannau byr gwahanol.

Teilwra anghenion

Mae Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn fudiad gwirfoddol arbenigol sy’n darparu cefnogaeth i ofalwyr, gan roi amser iddyn nhw fod eu hunain. Maen nhw’n darparu nifer o wasanaethau gwahanol sy’n cael eu teilwra ar gyfer anghenion y gofalydd unigol a’u teulu, gan weithio gyda gwasanaethau cymunedol eraill. 

Gwrando ar y gofalwyr

Helpodd gofalwyr gyd-gynhyrchu rhaglen Amser Gyda’n Gilydd trwy gyfres o gyfarfodydd grwpiau ffocws a drefnwyd gan Groesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr. O’r wybodaeth a gasglwyd datblygodd y mudiad restr gynhwysfawr o weithgareddau oedd yn cynnwys dewis o seibiannau byr gwahanol i gwrdd ag anghenion amrywiol gofalwyr ledled Sir Gaerfyrddin.

Amser i ail-wefru

Mae gofalwyr wedi cael grantiau i dalu am gyfleoedd seibiannau byr gyda chyfeillion neu deulu a mwynhau gweithgareddau hunanofal i wella eu hiechyd a llesiant a’u hansawdd bywyd. Maent hefyd wedi gallu cymryd rhan mewn Rhaglen Gweithgareddau Llesiant, er mwyn cyfarfod â gofalwyr eraill, gydag a heb y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, i ymlacio ac ail-wefru.

Amser am seibiant byr

Cafodd y prosiect groeso mawr ac mae nifer fawr o ofalwyr wedi cymryd rhan ynddo, ac wedi gwir werthfawrogi’r dewis o seibiannau byr sydd ar gael iddynt. Cafodd teuluoedd a  gofalwyr ifanc hwyl ar eu taith ddydd i Barc Thema Heatherton. Cawsant deithiau dydd hefyd i  Amgueddfa a Gerddi Sir Gaerfyrddin, Gŵyl Fwyd Arberth a Chyngerdd Mawreddog Meibion Elli.  Trefnwyd sesiynau gweithgareddau penwythnos i blant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth, anableddau dysgu ac awtistiaeth. Rhoddodd y rhain gyfle i’w rhiant ofalwyr a brodyr a chwiorydd sy’n ofalwyr ifanc gael hoe hollbwysig o ofalu. Roedd y Microgrant a’r talebau llesiant yn cynnwys gweithgareddau o bob math, o fowlio deg i driniaethau harddwch, talebau sinema, te prynhawn, a mynediad i atyniadau lleol.

Amser i ymlacio

Mae un gofalydd, Liz*, yn ei 70au yn gofalu am ei gŵr, wedi iddo gael diagnosis fistula yn ei asgwrn cefn. Mae hi’n dweud eu bod yn gorfod byw o ddydd i ddydd felly mae’n anodd cynllunio pethau. Er bod Liz yn mwynhau mynd allan a chyfarfod pobl eraill, nid yw’n gallu bod i ffwrdd yn rhy hir. Cafodd symudedd ei gŵr ei effeithio’n wael ar ôl sawl llawdriniaeth ac mae e’n gorfod dibynnu ar ffyn cerdded, cadair olwyn a sgwter, sy’n golygu nad yw prin yn gadael y tŷ.  Mae Liz yn gorfod ei helpu gyda gofal personol a llawer o help ymarferol, ac oherwydd y gofal mae ef ei angen, anaml y mae hi’n cael noson lawn o gwsg.

Roedd Liz yn hapus iawn felly i allu mynd ar y daith i Amgueddfa a Gerddi Sir Gaerfyrddin. Cafodd y daith effaith gadarnhaol iawn ar ei llesiant ac elwodd yn fawr o allu ymlacio a threulio ychydig amser mewn amgylchedd gwahanol. Roedd wir yn gwerthfawrogi gwneud cysylltiadau gyda gofalwyr eraill a rhannu profiadau gyda phobl mewn sefyllfa debyg.

Dechrau cyfrif

Gan adlewyrchu’r amrywiaeth oedrannau, mae prosiect Amser Gyda’n Gilydd Croesffordd Gorllewin Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn cefnogi Surinder*, rhiant ofalydd 34 oed oedd wrth ei bodd pan glywodd y newyddion y bydd yn gallu mwynhau noson mewn gwesty gyda sba. Bydd Surinder yn gallu mwynhau ychydig amser i ffwrdd o’r pwysau gartref lle y mae’n gofalu am ei mab 7 oed sydd â pharlys yr ymennydd pedwar aelod. Mae angen cymorth 24/7 felly nid yw Surinder wedi gallu mynd yn ôl i weithio ac ni chafodd seibiant ers pedair blynedd. Mae’n cyflawni’r rôl ofalu a magu ei merch 3 oed.  Mae iechyd meddwl Surinder wedi dioddef ac mae hi’n cael cyfnodau o deimlo’n unig ac ynysig.  

Mae Surinder yn ei chael yn anodd treulio amser gyda’i phartner, sy’n gweithio shifftiau, a bydd cael seibiant byr i ffwrdd gyda’i gilydd o’r rôl ofalu tra bod ei mab yn cael gofal seibiant yn golygu cymaint iddynt. Mae’r syniad o gael noson lawn o gwsg mewn gwely cyfforddus yn ddigon i godi ysbryd y ddau!

Pan glywodd y bydd yn cael y grant, dywedodd, “Rwyf wrth fy modd. Rydyn ni’n cyfri’r dyddiau.” 

Efallai nad yw ond yn un noson i ffwrdd, ond mae’n helpu’n barod, gan wybod y byddant yn dod yn ôl wedi ail-wefru, wedi ymlacio ac yn teimlo ychydig yn fwy gwydn.

 

*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences