Trwy ei Brosiect Seibiannau Byr 'Time for me/ Amser i Mi’, mae Cymorth Cancr Ray of Light yn cynnig llinell bywyd i gannoedd o ofalwyr di-dâl a’u teuluoedd.
Mae Ray of Light yn darparu gofod cyfrinachol, diogel ac anragfarnol i gefnogi pobl sy’n cael eu heffeithio gan gancr o gymunedau ar draws de ddwyrain Cymru. Dywedodd arweinwyr y prosiect Rebecca O’Mahoney a Katie Mottram wrthym fod y Cynllun Seibiannau Byr yn talu am seibiant mawr ei angen i ofalwyr sy’n ei chael yn anodd cael rhywfaint o ‘amser fi’.
O gofio’r heriau o ofalu am rywun â chancr penderfynodd Ray of Light roi talebau gwestai i ofalwyr oedd yn rhoi’r rhyddid a’r hyblygrwydd iddynt archebu pryd a lle oedd fwyaf addas ar eu cyfer nhw. Roedd darparu talebau sinema a bowlio deg yn boblogaidd gyda theuluoedd, yn enwedig mewn cyfnod anodd yn ariannol, lle y gallai teuluoedd fwynhau rhywfaint o ‘amser fi’ gyda’i gilydd.
Meddai Ray of Light, “Mae cael rhywun yn talu am arhosiad dros nos yn aml yn gallu rhwystro pethau rhag mynd dros y dibyn ac mae hefyd yn cael gwared ar yr euogrwydd o ddefnyddio arian ar gyfer pethau hanfodol fel cludiant i apwyntiadau ysbyty. Drwy’r cynllun hwn hyd yn hyn, rydym wedi helpu mwy na 387 o ofalwyr yn uniongyrchol. Pan feddyliwch chi am nifer y bobl maen nhw’n gofalu amdanynt a sut mae hyn yn mynd ymlaen i fod yn llesol iddyn nhw, rydyn ni mewn gwirionedd wedi helpu dros 600 o bobl”.
Mae prosiect y Cynllun Seibiannau Byr wedi galluogi Ray of Light i gynnig rhywfaint o gymorth a chefnogaeth i lawer o deuluoedd, gan roi cyfle iddynt fondio a chreu atgofion parhaol.
“Trwy roi rhodd o atgofion ac amser a dreuliwyd gyda’i gilydd, roeddem yn gallu cynnig teithiau dydd na fyddai llawer o bobl yn gallu mynd arnynt fel arfer. Roeddem hefyd yn darparu penwythnosau gweithgareddau i ofalwyr a’u teuluoedd. Mae delio â chancr yn gallu bod yn emosiynol anodd i’r claf ac aelodau eu teuluoedd."
Mae ein seibiannau gweithgareddau gyda phrydau bwyd yn cynnig seibiant mawr ei angen, ac yn rhoi amser i ofalwyr a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt i ymlacio ac ail-wefru. Maen nhw’n helpu adeiladu gwytnwch, cryfhau clymau a chreu atgofion hapus.
Mae gofalu am un o’ch ceraint sydd â chancr yn daith heriol ac emosiynol anodd. Cymerodd Ruma*, merch ffyddlon 41 oed y baich o fod yn brif ofalydd i’w mam a gafodd ddiagnosis cancr yr ysgyfaint cam 4 flwyddyn yn ôl. Mae Ruma wedi tynghedu i sicrhau bod ei mam yn gyfforddus ac i ofalu am ei hansawdd bywyd, ond mae’n heriol yn gorfforol ac yn emosiynol.
Gyda’i gilydd buont yn cymryd rhan mewn gweithgaredd seibiant byr a mynd am ymweliad ag Arch Noa, lloches bywyd gwyllt lleol. Roedd yn brofiad cofiadwy i’r ddwy ohonynt, ac yn gyfle iddynt gael seibiant mawr ei angen gyda’i gilydd.
Wrth iddyn nhw fynd i mewn i Arch Noa, cawsant eu croesawu gan olygfa anifeiliaid egsotig a sŵn adar yn canu. Treuliasant y dydd yn mwynhau’r golygfeydd a’r synau, chwerthin gyda’i gilydd, a thynnu lluniau. Sylwodd Ruma newid amlwg yn ei mam wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen. Roedd y profiad nid yn unig yn gofiadwy ond hefyd yn therapiwtig, roedd fel pe bai blinder ei mam yn pylu, ac yn ei le daeth egni a brwdfrydedd o’r newydd.
Cafodd y diwrnod yn Arch Noa effaith ddofn ar y ferch a’i mam. Roedd y cyfle i fondio dros rywbeth oedd yn golygu cymaint i’r ddwy wedi galluogi Ruma i gamu allan o’r rôl ofalu am gyfnod byr a mwynhau bod yn ferch. Roedd ei mam, ar y llaw arall, yn cael ymdeimlad newydd o obaith a bywiogrwydd, seibiant o’r frwydr barhaus yn erbyn ei salwch, Roedd yr ymweliad yn atgoffa’r ddwy fod bywyd yn cynnig cyfnodau o lawenydd a harddwch o hyd, hyd yn oed yn wyneb adfyd.
Weithiau, mae diwrnod syml allan yn gallu gwneud cymaint o wahaniaeth ar daith gofalydd.
Aeth Owain*, tad ffyddlon 38 oed trwy gyfnod heriol yn ddiweddar. Bu’n brif ofalydd ei ferched ers sawl blwyddyn. Mae gan un ferch awtistiaeth, a’r llall ADHD, sydd wedi gwneud bywyd beunyddiol yn ddigon heriol i’r teulu. Roedd tad Owain ei hun wedi bod yn ymladd cancr am y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi marw’n ddiweddar, gan ychwanegu blinder emosiynol a chorfforol at lwyth oedd yn ddigon trwm iddo’n barod.
Fodd bynnag, daeth llygedyn o obaith pan gafodd y teulu gyfle i gymryd rhan mewn gwyliau gweithgareddau dros y penwythnos, a drefnwyd gan Ray of Light, diolch i’r Cynllun Seibiannau Byr. Trawsnewidiodd yr alldaith seibiant ac antur mawr ei hangen hon eu bywydau, gan roi cyfle iddynt ddod o hyd i lawenydd a chysylltiadau unwaith eto.
Cymerodd y teulu ran mewn taith antur penwythnos, lle roeddent yn ymuno â theuluoedd eraill oedd mewn sefyllfa debyg, gan greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol.
Dechreuodd y penwythnos gyda sip leinio, gweithgaredd yr oedd ei ddwy ferch braidd yn ofnus ohono. Fodd bynnag, gydag anogaeth y staff a ffrindiau newydd, concrodd y ddwy eu hofnau a hedfan drwy’r coed, gan rannu eiliadau gwefreiddiol o lwyddo gyda’u tad. Y diwrnod wedyn, buont yn adeiladu rafft, gan weithio fel tîm i adeiladu llong oedd yn addas i’r môr – trosiad am wytnwch eu teulu a’u gallu i oresgyn heriau gyda’i gilydd. Pan arnofiodd eu rafft yn llwyddiannus, cawsant ymdeimlad o lwyddo ac undod oedd wedi bod ar goll o’u bywydau bob dydd.
Treuliwyd y noson o gwmpas tân gwersyll, yn tostio malws melys ac yn rhannu storïau gyda theuluoedd eraill. Cawsant gyfle i gysylltu â theuluoedd eraill oedd yn deall eu brwydrau unigryw, gan greu rhwydwaith o gefnogaeth a barodd ymhell y tu hwnt i’r encil penwythnos.
Cafodd antur y penwythnos effaith ddofn ar y teulu cyfan. Daeth y merched yn fwy hyderus ac yn agored i roi cynnig ar brofiadau newydd. Profodd Owain ymdeimlad newydd o obaith a gwytnwch. Rhoddodd y seibiant gyfle iddo ddianc am ennyd rhag pwysau ei gyfrifoldebau a galar colli ei dad. Roedd y gefnogaeth a’r brawd a chwaergarwch a brofodd oddi wrth rieni eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn amhrisiadwy. Dywedodd y teulu eu bod wedi dod o hyd i belydryn o oleuni, gan eu hatgoffa y gellir darganfod gobaith a llawenydd hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf.
Mae’r gwyliau bach hyn yn dangos grym seibiant a pha mor bwysig yw cael cydbwysedd ym mywyd gofalydd. Er bod gofalu am geraint sydd â chancr yn gyfrifoldeb heriol a pharhaus, gall cyfnodau fel y rhain gynnig gollyngdod ac adnewyddiad mawr eu hangen.
*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd