Mae Gwasanaethau Gofal Croesffordd Gogledd Cymru yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr yn helpu bron i 300 o ofalwyr di-dâl i gymryd hoe o’u cyfrifoldebau gofalu trwy becyn cymysg o deithiau, grwpiau a gweithgareddau.
Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn cefnogi demograffeg amrywiol o ofalwyr ar draws gogledd Cymru, gan gynnwys oedolion sy’n ofalwyr, gofalwyr pobl â dementia, rhiant ofalwyr, gofalwyr gwrywaidd a gofalwyr ifanc. Maen nhw, yn eu tro, yn gofalu am bobl o bob oed, o fabanod i’r oedrannus, sy’n byw gydag amrywiol afiechydon ac anableddau.
Gydag arian o’r Cynllun Seibiannau Byr, datblygodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru gynllun gyda’u gofalwyr i greu dewis eang o seibiannau a gweithgareddau i ddiwallu eu hanghenion amrywiol. Roedd y seibiannau byr oedd ar gael yn cynnwys teithiau i ofalwyr pobl â dementia a’r bobl maen nhw’n gofalu amdanynt, Grwpiau cefnogi misol i riant ofalwyr a grŵp coginio i ofalwyr ifanc. Roedd cronfa Micrograntiau wedi galluogi gofalwyr i ddod o hyd i gymorth ariannol ar gyfer seibiannau, fel diwrnod sba, pryd bwyd allan neu noson i ffwrdd. Roedd gofal amnewid yn golygu y gallai gofalwyr fwynhau seibiant o’u dewis gan wybod fod y person maen nhw’n gofalu amdanynt mewn dwylo diogel.
Meddai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, “Mae’r seibiannau byr hyn yn galluogi gofalwyr di-dâl i gael hoe fer o’u cyfrifoldebau gofalu. Rydyn ni’n gwybod gymaint mae’r seibiant wythnosol yna’n olygu i’r gofalwyr ac mae’r adborth a gawn yn dweud wrthym fod gwybod fod y seibiant yn dod yn golygu gymaint iddyn nhw a’i fod yn eu galluogi i ofalu am gyfnod hirach”.
Dywedodd Jean*, sy’n gofalu am ei gŵr sy’n dioddef â dementia, “Rwy’n edrych ymlaen at fy seibiant tra bod fy ngŵr yn ddiogel yn eich grŵp, hwn yw fy unig seibiant ac mae’n fy nghadw i fynd”.
Aeth y teithiau teuluol gyda chymorth, fel y rhai i Sw Caer, yn dda iawn. Roeddent yn gyfle i deuluoedd gyfarfod â’i gilydd a dechrau adeiladu grwpiau cyd-gefnogi gyda theuluoedd eraill a rhieni oedd yn wynebu’r un heriau.
Trwy arian o’r Cynllun Seibiannau Byr, roedd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn gallu mynd ag unigolion yn byw â dementia a’u gofalwyr ar nifer o deithiau ar draws gogledd Cymru. Bu hefyd yn cynnal grwpiau coginio llwyddiannus i ofalwyr ifanc, grwpiau gofalwyr gwrywaidd a grwpiau gofalwyr ar gyfer oedolion sy’n ofalwyr. Maent hefyd wedi cychwyn grwpiau misol ar gyfer rhiant ofalwyr. Roedd gallu cael Microgrant a sesiynau gofal seibiant wedi galluogi gofalwyr di-dâl i fynd i weithgareddau a drefnwyd gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru neu ganddyn nhw eu hunain.
“Mae fy merch yn edrych ymlaen at y grwpiau coginio ac mae wedi gwneud ffrindiau newydd sy’n deall pa mor anodd yw gofalu am frawd neu chwaer weithiau”, Catrin*, rhiant ofalydd.
Trefnodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru Grwpiau “Hafan Ni” wythnosol lle y mae unigolion â dementia yn treulio’r diwrnod yn eu canolfan ddydd yng Nghonwy.
Mae un unigolyn o’r fath yn mynd i sesiynau Hafan Ni er mwyn rhoi rhywfaint o hoe i’w wraig o’i rôl ofalu. Roedd ei wraig yn ei chael yn anodd ymdopi oherwydd ei phryderon iechyd ei hun ond pan gynigiwyd Hafan Ni iddi, roedd ychydig yn betrus ar y cychwyn. Fodd bynnag, ers i’w gŵr ddechrau mynd mae wedi dweud nad oedd yn sylweddoli gymaint y byddai’n gwerthfawrogi’r seibiant a chymaint o wahaniaeth a wnaeth. Mae’n rhoi rhywfaint o amser iddi ganolbwyntio ar ei hiechyd a llesiant ei hun, gan wybod fod ei gŵr yn cael gofal mewn amgylchedd diogel. Hefyd, cyflwynodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru hi i’w swyddog llesiant sy’n ei helpu gyda llawer o’r materion mwy ymarferol y mae gofalydd yn eu hwynebu. Mae ei gŵr yn edrych ymlaen at fynd i Hafan Ni bob wythnos lle y mae’n gwneud ffrindiau newydd.
Mae’r Cynllun Seibiannau Byr hefyd wedi galluogi Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru i helpu teulu oedd yn methu ymdopi. Nid oedd ganddynt berthynas dda gydag asiantaethau gwahanol ac roedd pryderon fod eu plentyn mewn angen. Ers iddyn nhw ddechrau gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, aeth y teulu o nerth i nerth. Mae cyfathrebu wedi gwella, mae pryderon yn cael eu hysbysu’n syth ac mae’r teulu cyfan yn gadarnhaol iawn, gan fanteisio ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
Mae eu plentyn yn hapus i ymuno â’r gweithgareddau grŵp hefyd, yn dysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau. Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru yn darparu lleoliad ymlaciol sy’n croesawu pawb ac yn eu hannog i fod yn nhw eu hunain ac ymuno yn ôl eu cyflymder eu hunain. Mae coginio wedi rhoi hwb fawr i hyder eu plentyn, sydd erbyn hyn yn gallu helpu gartref ychydig yn fwy, gyda sgiliau golchi a sychu llestri, mesur cynhwysion a hyd yn oed paratoi a choginio ambell beth fel cacennau bach a pizzas. Mae wedi helpu adeiladu perthynas gartref lle y gall gofalwyr a phlant fynd ati’n hyderus i rannu gweithgaredd hwyl a difyr gyda’i gilydd.
Meddai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Gogledd Cymru, “Mae’r arian yma wedi bod mor bwysig yn cynnal gofalwyr di-dâl yn eu rolau gofalu trwy’r hinsawdd ansicr bresennol a’r argyfwng costau byw. Mae’n fwy na chymorth ariannol, mae’n llinell bywyd ac mae’n agor cymaint o ddeialog rhyngom ni ein hunain a’r gofalwyr ac ymhlith y gofalwyr eu hunain. Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw cyd-gefnogi, ond mae gallu ei weld o un wythnos i’r llall, i weld y gwytnwch y mae pobl yn ei adeiladu diolch i’r rhwydweithiau rydyn ni’n eu hwyluso yn brofiad ysgytwol.”
*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd