All Wales Forum

post image 1

Mae Fforwm Cymru Gyfan yn cydlynu seibiannau byr ar gyfer gofalwyr pobl ag anableddau dysgu ac anghenion cymhleth, a hynny ar draws Cymru. Drwy ei brosiect, Seibiant, mae’n cefnogi gofalwyr a allai elwa o seibiant, gan eu cysylltu â’r sector lletygarwch a hamdden. Mae defnyddio’r model hwn yn eu galluogi i gydlynu seibiant yn seiliedig ar anghenion unigryw gofalwyr a’u teuluoedd, lle nad yw dulliau seibiant mwy traddodiadol mor briodol.

Dull wedi’i deilwra

Dywed Fforwm Cymru Gyfan, “Mae’r hyblygrwydd o gael grant bach wedi rhoi’r cyfle i deuluoedd fod yn greadigol a meddwl o ddifri am yr hyn y mae seibiant ystyrlon yn ei olygu iddyn nhw. Mae’r dull hwn wedi bod yn hynod effeithiol. Yn aml iawn, nid yw teuluoedd hyd yn oed yn defnyddio’r gyllideb gyfan, gyda dull ‘cymryd yr hyn sydd ei angen’, sy’n dangos gwahaniaeth clir o’r naratif confensiynol. Rydym ni hefyd wedi bod yn falch o weld busnesau’n gwneud newidiadau addas ar gyfer teuluoedd, boed hynny’n addasiadau, gostyngiadau neu newidiadau eraill.”

Dywedodd un gofalwr a gymerodd ran mewn seibiant byr, ‘Ar ôl ein taith diwrnod, roeddwn i’n teimlo’n llai ynysig, ac roeddwn i hefyd yn teimlo fy mod i’n perthyn i grŵp o gyd-ofalwyr a oedd yn deall pwysau gofalu. Mae hyn wedi fy helpu i ddeall a gwerthfawrogi pwysau gofalu a bod help ar gael os oes ei angen, er mwyn i mi allu parhau i ofalu yn y dyfodol. Weithiau, y cyfan sydd ei angen arnoch chi i allu gweld y ffordd ymlaen yw seibiant. Rydym ni hyd yn oed wedi trefnu sgwrs grŵp i gadw mewn cysylltiad a chefnogi ein gilydd yn y dyddiau sydd i ddod.’

Dywedodd gofalwr arall,

Roedd cael amser i chwerthin, cael hwyl a rhoi’r gorau i ofalu am y diwrnod yn amhrisiadwy. Mae ei rannu â phobl eraill sy’n deall yn fantais ychwanegol wych.

Ailddiffinio seibiant i rieni sy’n ofalwyr

Mae Rachel* sy’n rhiant-ofalwr yn wynebu sawl her yn ei bywyd bob dydd. Mae hi’n darparu gofal a chymorth i’w phlentyn sydd ag anabledd dysgu ac anghenion iechyd cymhleth, ac mae ganddi hefyd gyfrifoldebau gofalu ychwanegol dros ei gŵr sydd â phroblemau iechyd. Mae’r cyfrifoldebau a’r gofynion cyson yn aml yn gwneud i Rachel deimlo’n flinedig ac wedi’i llethu. Ond, oherwydd natur cyflwr ei phlentyn, byddai cymryd seibiant heb ei phlentyn yn achosi straen a gofid aruthrol iddi.

Seibiant gyda’i gilydd

Fe wnaeth cyllid Seibiant alluogi Rachel a’i theulu i gael seibiant oedd mawr ei angen gyda’i gilydd yn Ninbych-y-pysgod, tref arfordirol hyfryd yng Nghymru. Fe wnaeth y cyllid dalu costau’r llety a hefyd ddarparu cymorth ychwanegol, wedi’i deilwra i’w hanghenion penodol. Un o uchafbwyntiau eu seibiant oedd y cyfle i weld y digwyddiad Ironman blynyddol o falconi eu llety. Fe wnaeth y profiad hwn alluogi’r teulu i fwynhau awyrgylch cyffrous a chyffro’r digwyddiad, tra’n sicrhau diogelwch a chysur i’w hanwyliaid ar yr un pryd.

Roedd mawr angen y seibiant hwn o’r drefn ddyddiol ar Rachel, ac fe wnaeth ei galluogi i gael hoe ac adfywiad. Roedd hefyd yn newid golygfa i’r teulu cyfan ac yn gyfle i dreulio amser gwerthfawr gyda’i gilydd.

Seibiant ar y cyd

Siaradodd Tracy, Rhian, Lucy a Rhian, pedwar rhiant-ofalwr di-dâl o Sir Fynwy, â ni am eu seibiant byr mewn grŵp.

“Cafodd pedwar ohonom ni sy’n ofalwyr di-dâl gyfle i fynd ar ddau seibiant 24 awr i ofalwyr i Westy’r Celtic Manor yn ne Cymru. Rydym ni i gyd yn ei chael hi’n anodd dianc ar ein pen ein hunain a phan gawsom ni gynnig y seibiant hwn, roeddem ni i gyd yn emosiynol iawn ac yn gyffrous iawn. Roedd y pedwar ohonom ni’n ddiolchgar dros ben! 

“Cawsom ni 24 awr anhygoel o ymlacio, treulio amser gyda’n gilydd, ac ar ein pen ein hunain – a oedd yn bwysig gan fod hyn mor brin yn ein bywydau. Roedd cael rhywun arall yn gofalu amdanom ni yn gyfle prin ac roedd y seibiant yn berffaith! Fe wnaethom ni i gyd orffen y seibiant cyntaf yn teimlo’n braf ac yn barod i ddychwelyd i’n rolau gofalu, ond y teimlad gorau oedd gwybod nad profiad un-tro oedd hwn.”

Dywedodd un o'r gofalwyr, "Roeddwn i'n teimlo'n ysgafnach yn gorfforol ac yn feddyliol ar ôl y seibiant. Roedd meddwl am y seibiant a oedd ar y gorwel yn fy nghadw i fynd drwy ddiwrnodau llawn iawn gyda fy mhlentyn. Roedd yn wych cael rhywun arall yn gofalu amdanaf i hefyd! Roedd y gwesty a’r staff yn anhygoel. Roedd hefyd yn wych cael cwrdd â phobl eraill a chael hwyl gyda menywod gwych a oedd yn deall sut beth yw bod yn ofalwr a pha mor bwysig yw’r seibiant hwn.”

“Roeddem ni wrth ein bodd â phob eiliad – fe wnaethom ni chwerthin, fe wnaethom ni grio, fe wnaethom ni ymlacio, fe wnaethom ni gymryd rhan – roeddem ni i gyd angen ac yn elwa o ychydig bach o bopeth – diolch yn fawr iawn.” 

Trefnu seibiant

Mae’r rhiant-ofalwr, Anna*, o Sir Benfro, yn ei chael hi’n anodd cymryd seibiant, gan fod yr angen am hyblygrwydd, a’r sicrwydd bod anghenion gofal ei phlentyn yn cael eu diwallu, yn rhwystr mawr rhag cael gafael ar wasanaethau seibiant traddodiadol.

Agwedd greadigol at gyllid hyblyg

Oherwydd y gofynion anodd hyn, defnyddiodd Anna ei chyllid Seibiant i brynu talebau ar gyfer gwesty lleol a oedd yn cynnig sesiynau crefft rheolaidd. Roedd y dull hwn yn caniatáu iddi gynllunio seibiannau byr o hyd at ddwy awr, pan roedd amser ar gael, gan sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar ei threfn ofalu.

Mae’r sesiynau crefft wedi rhoi llwyfan creadigol i mi a seibiant mawr ei angen oddi wrth fy nghyfrifoldebau gofalu dyddiol.

Mae’r sesiynau crefft rheolaidd yn cynnig lle i ymlacio o’r drefn ofalu ddyddiol a rhoi rhywbeth i Anna edrych ymlaen ato, gan gael effaith gadarnhaol ar ei llesiant cyffredinol.

“Rydw i’n hynod ddiolchgar am y cyfle i ddefnyddio fy nghyllid Seibiant i gael talebau ar gyfer sesiynau crefft mewn gwesty lleol. Mae wedi rhoi’r hyblygrwydd i mi gymryd seibiant byr ac ymlacio, gan wybod bod anghenion gofal fy mhlentyn yn dal i gael eu diwallu.”

Buddion ychwanegol

Mae’r dull pwrpasol hwn y mae prosiect Fforwm Cymru Gyfan yn ei ddefnyddio yn sicrhau bod rhieni sy’n ofalwyr yn gallu cymryd seibiant heb beryglu llesiant eu hanwyliaid. Mae Fforwm Cymru Gyfan hefyd wedi canfod ei fod, drwy weithio gyda phartneriaid yn y sector lletygarwch, wedi creu cysylltiadau defnyddiol i barhau â sgyrsiau am seibiannau yn y dyfodol i ofalwyr teuluol; canlyniad cadarnhaol na gafodd ei ragweld!

*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu preifatrwydd

Mae llawer iawn o alw am y ddarpariaeth seibiant byr a ariennir gan y Cynllun Seibiant Byr. Mae’r partner cyflenwi hwn bellach wedi cyrraedd ei gapasiti ar gyfer y cyfnod cyllido hwn ac nid yw’n derbyn ceisiadau am seibiant byr gan gleientiaid newydd ar hyn o bryd. Ystyriwch edrych ar sefydliadau eraill yn eich ardal sy’n cynnig y Cynllun Seibiant Byr, neu ewch i brif wefan Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i weld pa gymorth sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn eich ardal.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences