Yn aml, gall rhieni sy'n ofalwyr di-dâl deimlo'n unig ac o dan straen gyda chyfleoedd cyfyngedig i neilltuo unrhyw amser iddynt eu hunain. Mae'r Cynllun Seibiannau Byr yn cynnig seibiant mawr ei angen i rieni sy'n gofalu am blant anabl a'r rhai ag anghenion ychwanegol.
Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, "Yng Nghymru, mae gennym ganran uwch o ofalwyr di-dâl na rhannau eraill o’r DU. Gall rhieni fod yn llai tebygol nag eraill o gael eu hadnabod ac adnabod eu hunain fel gofalwr. Mae llawer wedi blino'n lân, dan straen ac yn cael trafferth gyda'u lles eu hunain - yn gorfforol ac yn feddyliol.
Gall y Cynllun Seibiannau Byr, a gydlynir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, eu helpu i gymryd amser hanfodol iddynt eu hunain. Mae hefyd yn cynnig peth cydnabyddiaeth i bopeth maen nhw’n ei wneud a’r rôl amhrisiadwy maen nhw’n ei chwarae.
Ychydig iawn o amser sydd gan lawer o rieni sy’n ofalwyr i fod yn rhydd oddi wrth eu rôl fel gofalwr. Efallai na fyddan nhw’n gallu gwneud hyd yn oed y pethau bach a fyddai’n gallu eu helpu ar ddiwrnodau anodd, fel ymarfer corff, cyfarfod ffrindiau neu fynd am dro. Mae llawer yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddewis ond gweithio'n rhan-amser neu hyd yn oed roi'r gorau i'w swyddi, gan arwain at bwysau ariannol cynyddol ac ymdeimlad o unigrwydd. Hefyd mae’n bosibl bod rhiant sy’n ofalwr yn gorfod cyflawni sawl rôl, efallai yn gorfod gweithio, gofalu am blentyn anabl a chynorthwyo rhiant oedrannus ar yr un pryd. Mae hyn i gyd yn sicr o gael effaith negyddol ar ofalwr ac efallai y bydd yn achosi iechyd corfforol a meddyliol gwael.
Mae'n hanfodol bwysig bod rhieni sy'n ofalwyr yn blaenoriaethu peth amser iddyn nhw eu hunain, i gael cyfle i ddadflino a theimlo’n fwy abl i ofalu. Bydd hyn hefyd yn eu helpu i ddal ati yn eu rôl feunyddiol fel gofalwyr. Fel y dywed un rhiant sy’n ofalwr a gymerodd ran yn y Cynllun Seibiannau Byr gyda Campfire Cymru, "Y peth mwyaf rydw i'n ei ddysgu yw ei bod yn iawn i mi gael seibiant a delio gyda'r euogrwydd y mae mam yn ei deimlo."
Mae o fudd i bawb gael rhywfaint o amser iddyn nhw eu hunain heb unrhyw ofal am rywun arall, gan ei fod yn waith mor galed.
Nid oes rhaid i seibiant byr olygu penwythnos i ffwrdd, gallai fod yn noson i ffwrdd, taleb llesiant neu ymweliad grŵp â gardd leol neu ganolfan weithgareddau. Mae seibiant byr fel hyn yr un mor werthfawr ac o bosibl yn haws i rai rhieni na allan nhw adael eu plentyn neu deulu am gyfnod hir.
Dywed rhieni sy'n ofalwyr sydd wedi cymryd seibiant o'r fath drwy'r Cynllun Seibiannau Byr, eu bod wedi teimlo’n fwy optimistig, yn llai pryderus ac unig ac yn barod i fynd yn ôl i wynebu gofynion bywyd bob dydd. Fe ddywedon nhw hefyd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u clywed.
Mae un rhiant sy’n ofalwr a elwodd drwy gael taleb llesiant i gynnig seibiant byr yn cytuno. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae eu mab wedi bod yn paratoi ar gyfer trawsblaniad aren, ac mae'r sefyllfa wedi bod yn anodd iawn. Meddai, "Roedd y talebau llesiant yn syrpreis hyfryd i mi. Roedd yn golygu bod fy rôl llawn amser fel gofalwr i fy mab yn cael ei werthfawrogi a'i gydnabod. Dangosodd pa mor anodd a blinedig o safbwynt seicolegol y gall gofalu am eich plentyn fod, a bod tretio eich hun yn dderbyniol ac yn angenrheidiol hefyd! Dangosodd hefyd yr angen am hunanofal, rhywbeth nad wyf yn ei flaenoriaethu gan fy mod yn rhoi anghenion fy mab uwchlaw popeth arall. Alla i ddim diolch digon i Aren Cymru a'r Cynllun Seibiannau Byr am y mwynhad ac am fy ngwneud i a gofalwyr eraill yn hapus."
Mae cymryd seibiant byr nid yn unig yn helpu i feithrin gwytnwch ond mae hefyd yn caniatáu i rieni sy’n ofalwyr gyfarfod eraill sy'n mynd trwy sefyllfaoedd tebyg a theimlo'n llai unig.
Dywed un rhiant sy’n ofalwr a gymerodd ran yn rhai o'r gweithgareddau seibiannau byr a drefnwyd gan un o'n partneriaid cyflenwi, DAFFODILS 'Ar y cyfan, mae awyrgylch ein cartref yn hapus, ond mae'n straen ceisio bodloni anghenion pawb. Bu'n rhaid i mi roi'r gorau i weithio oherwydd materion yn ymwneud â gofal plant ac mae hyn wedi cael effaith ar ein sefyllfa ariannol. Yr heriau a wynebir bob dydd yw jyglo anghenion fy mab sydd ag ASD, ein mab hŷn sy'n ei chael hi'n anodd a Dad sydd ag ADHD. Dydyn ni ddim yn cael unrhyw ofal plant, dim ond y gofal a ddarparwn ein hunain, felly mae cyfarfod rhieni eraill fel ni sy’n ofalwyr yn werth chweil.
"Mae wedi rhoi cyfle i ni gael profiadau fel teulu na fydden ni efallai wedi cael yr hyder i roi cynnig arnynt fel arall. Mae bod gyda theuluoedd yn union fel ein rhai ni mor braf. Dim rhagfarn, dim ond help a dealltwriaeth. Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd i DAFFODILS; mae gweld [ein mab] bob amser yn hapus a sut mae'n dod o hyd i ffordd o oresgyn sefyllfaoedd yn anhygoel. Rydyn ni'n teimlo ein bod ni fel teulu yn cael cefnogaeth lawn ac wedi gwneud ffrindiau gydag eraill sydd hefyd â phlant ag anghenion ychwanegol. Mae DAFFODILS wedi ein galluogi ni fel teulu i gael mynediad at bethau na fyddem wedi gallu eu gwneud fel arall."
Dywed rhiant arall sy’n ofalwr ac sydd wedi manteisio ar gyfres o weithgareddau seibiannau byr drwy DAFFODILS fod bod yn rhydd oddi wrth yr heriau beunyddiol wedi gwella ei llesiant. Fel rhiant sengl i bedwar o blant, tri ag anghenion dysgu ychwanegol, mae hi hefyd yn elwa o’r gefnogaeth y mae'n ei chael gan rieni eraill sy'n ofalwyr ac mae’n teimlo'n fwy abl i ddal ati gyda'i rôl fel gofalwr. Mae'n esbonio, "Mae bod yng nghwmni gofalwyr tebyg yn helpu fy iechyd meddwl ac rydw i wedi gwneud ffrindiau am byth yn DAFFODILS. Mae gwybod bod gennym fynediad at raglen mor drefnus o seibiannau byr wedi bod yn hynod werthfawr i mi. Dydw i ddim yn teimlo'n unig ond yn rhan o deulu gwych!
Mae bod yn rhiant yn ddigon anodd; weithiau mae bod yn rhiant sy’n ofalwr yn gallu teimlo fel ymdrech ddyddiol, un a all barhau am oes. Fodd bynnag, mae hefyd yn werth chweil ac mae llawer o eiliadau o falchder a hapusrwydd. Gobeithio y gall seibiant byr chwarae rhan fach wrth helpu rhieni i ymdopi bob dydd a pharhau â'r gwaith anhygoel y maen nhw’n yn ei wneud i gefnogi a gofalu am eu plant.