NEWCIS

post image 1

Mae NEWCIS yn rhoi cyfle i ofalwyr di-dâl yn Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam gymryd seibiannau o’u cyfrifoldebau gofalu drwy ei brosiect ‘Amser i Mi’. Mae gofalwyr wedi gallu cael seibiannau dros nos a seibiannau byr, fel mynd i’r sinema neu am bryd o fwyd gyda’r teulu, neu brofiadau diwrnod gyda Red Letter Days. Mae hefyd wedi gallu cynnig cyfle i ofalwyr aros yng nghartref gwyliau’r mudiad ym Mhrestatyn.

Seibiannau dros nos

Trefnwyd y seibiannau dros nos mewn trafodaeth â gofalwyr, a oedd wedi dewis Caer ac ardal Croesoswallt ar gyfer eu teithiau. Cafodd y ddau grŵp amser gwych, ac roedden nhw wedi elwa ar gwrdd â gofalwyr eraill a chael amser i ffwrdd o’u cyfrifoldebau gofalu 24/7. Cafodd pawb rywbeth o’r seibiannau – roedd rhai wrth eu bodd yn cael cyfle i ymlacio, ac roedd eraill wedi mwynhau cymdeithasu gyda gofalwyr eraill. Roedd un gofalydd wedi cael mwynhau ei seibiant cyntaf ers blynyddoedd lawer gyda’i gŵr. Dywedodd, “Wrth i gyflwr fy mam ddirywio, rydw i’n aml yn teimlo bod yn rhaid i mi ddewis rhwng fy mam a’m partner, ac rydw i’n poeni y gallai fy mherthynas chwalu oherwydd fy mod i wedi blino gymaint. Roedd cael seibiant wedi gwneud i mi sylweddoli faint rwy’n ei wneud bob dydd. Mae’r ddau ohonom wedi elwa o’r seibiant ac yn teimlo ein bod yn gallu ymdopi’n well â sefyllfaoedd wrth iddyn nhw godi ar ôl dychwelyd adref.”

Gofalwyr ifanc

Mae’r prosiect wedi cefnogi gofalwyr ifanc hefyd, gan ddarparu offer ar gyfer teithiau gwersylla, trefnu diwrnodau allan yn ystod gwyliau’r ysgol a chynnig grantiau bach i ofalwyr ifanc i helpu gydag offer ysgol ac anghenion gofal personol. Mae llawer o ofalwyr ifanc wedi cael seibiant o’u rôl gofalu am y tro cyntaf, ac mae’r profiad nid yn unig wedi cefnogi eu llesiant ond hefyd wedi rhoi hwb i’w hyder.

Mae cymryd seibiant pan fyddwch chi’n gofalu am rywun yn amhrisiadwy

Cyrsiau byr a thalebau

Nid yw seibiant byr o reidrwydd yn golygu aros dros nos neu ar benwythnosau, maen nhw’n gallu golygu llawer o wahanol bethau. Er enghraifft, cynigiodd NEWCIS amrywiaeth o ddosbarthiadau hobi a chyrsiau byr dros fisoedd y gaeaf, gan gynnwys pobi, coginio yn y cartref, gwaith nodwyddau a crosio, clwb llyfrau a phlannu terariwm. Maen nhw wedi galluogi gofalwyr i dreulio ychydig oriau yn gwneud rhywbeth iddyn nhw eu hunain a rhoi’r cyfle iddyn nhw roi cynnig ar bethau newydd. 

Mae NEWCIS hefyd wedi defnyddio’r cyllid i roi talebau i ofalwyr eu defnyddio mewn ffordd sy’n gweddu orau i’w hanghenion. Roedd un person sy’n gofalu am ei gŵr, ac am ei mam sydd â dementia, yn ddiolchgar am y cyfle i fynd allan am bryd o fwyd. Ochr yn ochr â’i rôl ofalu, hi sy’n gyfrifol am dasgau o amgylch y tŷ ac mae hi’n gweithio. Oherwydd ei hymrwymiadau gofalu, yn ddiweddar mae wedi gorfod lleihau ei horiau yn y gwaith, sydd wedi arwain at bwysau ariannol. Ychydig iawn o amser sydd ganddi iddi hi ei hun neu gyda’r teulu, ac mae bwyta allan yn rhywbeth nad ydyn nhw’n gallu ei fforddio bellach. Roedd hi’n gwerthfawrogi’r daleb a gafodd i fynd am bryd o fwyd gyda’i gŵr, ac roedd wedi gwneud iddi deimlo ei bod yn cael ei gwerthfawrogi fel gofalydd.

Seibiant

Mae cyllid y Cynllun Seibiant Byr hefyd wedi cefnogi cynllun ‘Pontio'r Bwlch’ NEWCIS, sydd wedi ennill gwobrau. Mae hyn nid yn unig yn rhoi hyblygrwydd ynghylch y mathau o seibiannau sydd ar gael, ond mae hefyd yn cyllido gwasanaethau cymorth i ofalu am y sawl sy’n derbyn gofal gartref, gan roi tawelwch meddwl.

“Rydyn ni’n treulio amser yn sicrhau bod gan bawb bopeth sydd ei angen arnyn nhw ac yn trefnu popeth i’n gofalwyr i sicrhau eu bod nhw’n cael y seibiant maen nhw’n ei haeddu. Roedden ni’n dewis lleoliadau addas ar gyfer seibiannau mewn gwestai, gyda mynediad at sba i ymlacio. Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr bod gan ofalwyr yr holl adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw i ofalu am eu hanwyliaid tra byddan nhw i ffwrdd, neu eu helpu i drefnu hyn drwy un o'n cynlluniau, fel y Pontio'r Bwlch.”

Rhodd amhrisiadwy

“Weithiau, y peth anoddaf yw perswadio gofalwyr bod angen iddyn nhw gymryd amser iddyn nhw eu hunain, ac i sylweddoli faint fyddai seibiant o fudd iddyn nhw a’r unigolion maen nhw’n gofalu amdanyn nhw. Mae cymryd seibiant pan fyddwch chi’n gofalu am rywun yn amhrisiadwy – mae’n golygu y gallwch chi ddychwelyd yn teimlo eich bod wedi ymlacio ac yn gallu delio’n well â’r pwysau sy’n gysylltiedig â bod yn ofalwr. Hefyd, mae’r cyfle i siarad â gofalwyr eraill, swyddogion llesiant a gweithwyr proffesiynol yn werth ychwanegol gwirioneddol i’r Cynllun Seibiant Byr.”

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences