Gan fod dim un canolfan gofalwyr yn Rhondda Cynon Taf (RCT) a Merthyr Tudful, roedd angen dull gwahanol. Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, dosbarthwyd £80,000 i 11 o sefydliadau llawr gwlad ar draws y rhanbarth.
Mae’r prosiect wedi ysgogi rhai partneriaethau gwych ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr
Coed Lleol/Small Woods
Mae Age Connects Morgannwg yn cytuno, “Roedd y prosiect hwn yn wych i fod yn rhan ohono. Roedd cymaint o bositifrwydd mewn gallu cynnig strategaeth ymdopi neu gyfle i wneud rhywbeth drostynt eu hunain i bobl oedd angen cefnogaeth.”
Cafodd pob prosiect effaith enfawr ar fywydau’r gofalwyr y gwnaethant eu cyrraedd, a chafodd rai effeithiau cadarnhaol ehangach ar y sefydliadau yn ogystal â’r gofalwyr. Dyma ddim ond un neu ddau o’r straeon….
Derbyniodd Coed Lleol, sef cymuned ffyniannus sy’n rhannu angerdd dros goetiroedd y DU, gyllid gan y cynllun Gwyliau Byr - drwy Interlink - i ddarparu gwyliau byr i ofalwyr di-dâl yn ne-ddwyrain Cymru.
Roedd y Rhaglen Gofalwyr yn cynnwys 10 sesiwn ar natur, a oedd yn cael eu darparu ym Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf ar gyfer gofalwyr di-dâl a’r rheini maen nhw’n gofalu amdanynt. Cafodd y sesiynau eu dylunio i roi profiad trochi mewn mannau gwyrdd lleol, i gael rhyddhad o’r rhwystrau dyddiol, i annog cysylltiad â natur ac i ddysgu sgiliau gwyrdd i’w trosglwyddo i deulu a ffrindiau.
Dywedodd un gofalwr, "Mae wedi gwella fy llesiant, oherwydd yn feddyliol rwy’n gwybod mai dyna oedd fy seibiant i. Cefais dair awr i allu ymlacio’n llwyr, a pheidio â bod yn fam, yn ofalwr ac yn oedolyn cyfrifol. Ac roeddwn i’n gallu canolbwyntio ar fy hun. Doeddwn i ddim yn gorfod meddwl; beth sydd angen i mi ei wneud nesaf? Beth sydd angen i mi ei gynllunio? Beth sydd angen ei wneud? Roeddwn i’n gallu canolbwyntio ar fy hun a’r hyn mae angen i mi ei wneud. Alla i ddim cofio’r tro diwethaf i mi deimlo fel hynny.”
Cafodd y sesiynau llesiant eu dylunio i fod yn lle i ymlacio, lle gallai gofalwyr gymryd rhan cymaint neu gyn lleied ag y dymunant. Wrth i’r rhaglen ddod i ben, roedd hi’n amlwg bod pawb wedi mwynhau’r sesiynau’n fawr ac wedi mwynhau cysylltu â’i gilydd.
Dywedodd un gofalwr arall,
Mae pethau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau maen nhw’n cael eu cynnal. Mae’n braf cael bod gyda’n gilydd a chael sgwrs.
“Roedd yn hyfryd gweld y grwpiau’n cysylltu â’i gilydd ac yn ffurfio cwlwm naturiol”, meddai Elise, Swyddog Prosiect. Aeth yn ei blaen gan ddweud, “Roedd y cyfranogwyr yn aml yn dweud cymaint roedden nhw wedi mwynhau, a’u bod yn teimlo eu bod wedi ymlacio ac yn barod am weddill eu diwrnod.”
Mae cyllid gan y Cynllun Seibiannau Byr wedi galluogi gofalwyr ifanc Merthyr i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau oddi ar y safle, megis ymweliad â Chanolfan Aml Weithgaredd Llangors. Yma bu 26 o ofalwyr ifanc 8-13 oed yn wynebu’r tywydd oer a gwlyb i gymryd rhan mewn gweithgareddau marchogaeth, ogofa, dringo, rhaffau uchel a bowldro.
Roedd y diwrnod yn galluogi pobl ifanc i gael amser iddynt eu hunain ac yn rhoi seibiant haeddiannol iddynt o’r gwaith gofalu. Roedd hefyd yn gyfle iddynt gymysgu â gofalwyr eraill a gwneud ffrindiau newydd. Roedd yn gyfle i roi cynnig ar bethau newydd, goresgyn ofnau a bod yn rhan o’r awyr agored, lle gallent gael gwared ar rwystredigaethau a dicter drwy anturiaethau cymdeithasol newydd mewn amgylchedd diogel a chefnogol.
I’r mwyafrif o ofalwyr ifanc, dyma’r tro cyntaf iddynt brofi gweithgaredd o’r fath. Roedd yr adborth gan y grŵp yn gadarnhaol iawn gyda llawer yn gofyn ‘a allwn ni ddod yma eto, mae wedi bod yn wych!”
Rydym wrth ein boddau gyda’r sgorio, y gonestrwydd a’r manylion am y ceffylau, yn arbennig!
‘Roedd fy ngheffyl, Mikey, yn ddrwg iawn ac yn brathu’r fenyw. Fe wnes i fwynhau’r dringo. Byddwn yn rhoi 0/10 am y marchogaeth a 9.7/10 am y dringo. Gofalwr ifanc 10 oed.
Ro’n i’n hoffi’r pontydd rhaff, es i arnyn nhw deirgwaith, fe wnes i ei fwynhau’n fawr. Diolch. Byddwn i’n rhoi 9/10 iddo.
Gofalwr ifanc 11 oed
“Ro’n i’n hoffi’r bowldro, roedd yn wych, ro’n i’n dda iawn yn gwneud e a byddwn wrth fy modd yn dod eto.10/10.” Gofalwr ifanc 10 oed
“Cyn dechrau’r prosiect hwn roeddem yn ansicr o’r galw, a faint o wahaniaeth y gallai seibiant byr ei wneud i rywun â chyfrifoldebau gofalu a chefnogi rhywun â chanser,” meddai Prif Reolwr Cancer Aid.
“Cawsom ein synnu’n fawr gan yr effaith a gafodd hyd yn oed y micrograntiau ar ein gofalwyr", maent yn parhau. "Roedd anghenion yn amrywio’n fawr yn y prosiect, roedd rhai gofalwyr wrth eu boddau mewn digwyddiad grŵp, yn cyfarfod â phobl newydd oedd yn deall sut roedden nhw’n teimlo, roedd eraill mor ddiolchgar am daleb i fynd am bryd o fwyd.”
Meddai un gofalwr, “Rwyf mor ddiolchgar am y grŵp coffi hwn, roedd yn rheswm i adael y tŷ, nawr mae’n hanfodol i’m lles ac rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych y gallaf siarad â nhw am sut rydw i’n teimlo. Rwy’n teimlo’n ddiogel, yn cael fy nghefnogi ac yn cael fy nghlywed hefyd.”
Ychwanega Cancer Aid, “Mae’r prosiect hwn wedi ehangu ffiniau’r gwasanaethau presennol, ac wedi cyflwyno gwasanaethau newydd sbon i’n cleifion. Nid ydym erioed wedi bod mewn sefyllfa i allu cynnig digwyddiadau a ariennir i ofalwyr fel Cinio Nadolig, teithiau i’r theatr neu roi talebau ar gyfer pryd o fwyd iddynt.
"Roedd yn wych gweld ymateb mor anhygoel i’r gwasanaeth hwn a chymaint yr oedd y gweithredoedd cymharol fach hyn yn ei olygu i ofalwyr. Mwynhaodd y gofalwyr eu hunain yn fawr, ond hefyd fe wnaethon nhw sylweddoli effaith eu gofal, eu bod nid yn unig yn cael eu cydnabod gan eu teuluoedd, ond yn cael eu cydnabod am eu heffaith gan y gymdeithas ehangach. Mae’r ffaith bod y prosiect yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru yn bwysig i ofalwyr lle maen nhw’n teimlo bod ein llywodraeth yn deall ac yn cefnogi eu teithiau fel gofalwyr.”