Interlink (RCT) Rhan 2

post image 1
Cynhaliodd Interlink RCT, mewn cydweithrediad â Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful, brosiect peilot i sicrhau bod gofalwyr yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn gallu cael mynediad at y Cynllun Seibiannau Byr.

Gan fod dim un canolfan gofalwyr yn Rhondda Cynon Taf (RCT) a Merthyr Tudful, roedd angen dull gwahanol. Gan weithio gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, dosbarthwyd £80,000 i 11 o sefydliadau llawr gwlad ar draws y rhanbarth. 

Mae’r prosiect wedi ysgogi rhai partneriaethau gwych ac wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr

Coed Lleol

Mae Age Connects Morgannwg yn cytuno, “Roedd y prosiect hwn yn wych i fod yn rhan ohono. Roedd cymaint o bositifrwydd mewn gallu cynnig strategaeth ymdopi neu gyfle i wneud rhywbeth drostynt eu hunain i bobl oedd angen cefnogaeth.”

Cafodd pob prosiect effaith enfawr ar fywydau’r gofalwyr y gwnaethant eu cyrraedd, a chafodd rai effeithiau cadarnhaol ehangach ar y sefydliadau yn ogystal â’r gofalwyr. Dyma ddim ond un neu ddau o’r straeon….

Becca’s Besties

Dod o Hyd i Gymorth: Taith Gofal Sarah

Yng nghanol ei bywyd prysur, cafodd Sarah* ei hun yn gofalu am ddau o blant ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn rhiant ag anabledd, a hyn oll wrth gydbwyso gwaith rhan amser. Roedd yn llwyth heriol, gan ei gadael yn teimlo wedi ei llethu ac yn ynysig. Gan chwilio am gysylltiad â phobl eraill oedd yn deall, ymunodd Sarah â Becca’s Besties, grŵp cymunedol ar gyfer gofalwyr. Yma, daeth o hyd i rwydwaith cefnogol o unigolion yn wynebu heriau tebyg, gan gynnig cyngor ymarferol ac oedd yn barod i wrando. Drwy Becca’s Besties, cafodd Sarah gymorth proffesiynol, gan gynnwys cyngor ar faeth, iechyd a lles emosiynol. Roedd yr adnoddau hyn yn werthfawr iddi allu ymdopi â gofynion gofal yn fwy effeithiol.

Yn hollbwysig, manteisiodd Sarah ar seibiannau mawr eu hangen, gan fwynhau ymweliadau i Ganolfan Mileniwm Cymru ac ymweliadau llesol â chyfleusterau sba. Cynigodd y seibiannau hyn gyfle iddi fagu nerth newydd a myfyrio, gan ddarparu rhaff achub hanfodol yn ei thaith gofal. Gan fyfyrio ar ei phrofiad, mae Sarah yn cydnabod effaith ddwys cymorth cymunedol. “Heb y grŵp hwn, dwi ddim yn gwybod sut y byddwn wedi ymdopi,” mae’n cyfaddef. “Mae gofalu am fy nheulu wedi bod yn flinedig iawn, ond mae Becca’s Besties wedi bod yn ffynhonnell o gryfder ac undod.”

Mae stori Sarah yn amlygu pwysigrwydd rhwydweithiau cymorth i ofalwyr, gan ddangos sut y gall cysylltu â phobl a chymorth ymarferol wneud byd o wahaniaeth wrth lywio heriau gofal.

Twyn Hub

Eiliad hudolus

Mae gofalwr arall yn dweud ei stori wrthym…

“Fel gofalwr di-dâl i fy Mam, sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar, mae cyfnodau o seibiant a llawenydd yn drysorau prin. Roedd y daith i Lundain ar gyfer y sioe gerdd “Wicked”, gweld atyniadau’r ddinas, a phryd o fwyd hyfryd yn ddihangfa lwyr. O’r eiliad y camais ar y bws i gychwyn ar yr antur hon, roeddwn yn teimlo mwy a mwy o gyffro a disgwyliad yn cynyddu ynof. Roedd y cyfle i ymgolli yn hud y theatr, i gael fy nghludo i fyd mympwyol Oz, yn brofiad y byddaf yn ei drysori am byth. Roedd y cynhyrchiad yn syfrdanol, a chefais fy hun wedi ymgolli’n llwyr yn y stori hudolus, gan anghofio’r cyfrifoldebau oedd yn aros amdanaf gartref.

Ambell i ennyd o ddealltwriaeth

"Hefyd, fe wnaeth y cyfle i weld strydoedd bywiog Llundain ochr yn ochr â gofalwyr di-dâl eraill greu llinyn cyswllt rhyngom a fydd yn para tu hwnt i’r daith hon mi wn. Roedd rhannu straeon, chwerthin, ac ambell i ennyd o ddealltwriaeth gydag unigolion sy’n troedio llwybr tebyg yn gysur ac yn codi calon. Roedd yn fodd i’m hatgoffa nad wyf ar fy mhen fy hun ar y daith hon a bod digon o gefnogaeth ar gael. 

"Roedd cael ein tretio i bryd o fwyd blasus yn gyfle i ymlacio a mwynhau cwmni’n gilydd mewn lleoliad hamddenol. Roedd cael mwynhau pryd o fwyd heb boeni am gyfyngiadau amser neu ddyletswyddau gofalu yn bleser prin.

Mae’r diwrnod hwn o seibiant wedi atgyfnerthu fy ysbryd mewn ffyrdd na allaf eu mynegi’n llawn.

Mae wedi f’atgoffa o bwysigrwydd hunanofal a gwerth cymuned. Diolch enfawr am wneud y profiad hwn yn bosibl. Rwy’n hynod ddiolchgar am y llawenydd a’r cysur rydych chi wedi dwyn i mewn i fy mywyd.”

 

*Newidir enwau i ddiogelu preifatrwydd

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences