Credu

post image 1

Derbyniodd Credu gyllid drwy'r Cynllun Seibiant Byr a alluogodd dros 800 o ofalwyr ac aelodau teulu sy'n wynebu pwysau acíwt ac ymyleiddio i gael seibiant byr adferol. Mae Credu yn cefnogi gofalwyr di-dâl sy'n gofalu am rywun sy'n sâl neu'n anabl ar draws Powys, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion.

Beth mae enw eich sefydliad yn ei olygu?

Rydyn ni’n credu y dylai pob gofalwr ifanc ac oedolyn fwynhau lles fel y maen nhw’n ei ddiffinio eu hunain, cael eu cydnabod a'u gwerthfawrogi a chael dewisiadau, llais a dylanwad. Rydyn ni’n credu mewn pobl, p'un a ydyn nhw’n ofalwyr, yn bobl sy'n derbyn gofal, neu'n weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol.  Yn bennaf oll, rydyn ni’n credu mewn dod at ein gilydd i greu byd gwell, mwy caredig a mwy tosturiol i ofalwyr di-dâl.  Beth sy'n wych yw, os gallwn ni wneud hynny i ofalwyr di-dâl, byddwn ni’n gwneud hynny i bawb.

Beth yw eich ymagwedd o ran y gwaith rydych chi'n ei wneud?

Rydyn ni'n gwrando er mwyn deall pobl ac yn rhoi’r cyfle iddyn nhw wrando arnyn nhw eu hunain i siapio beth maen nhw am ei weld yn digwydd nesaf.  Rydyn ni'n gwerthfawrogi ac yn dathlu pobl, gan adlewyrchu eu cryfderau, eu sgiliau a'u doniau a'u deall am y problemau maen nhw'n eu hwynebu yn hytrach na’r problemau maen nhw'n eu hachosi.

Ar gyfer pwy oedd eich prosiect Seibiant Byr?

Roedd ein prosiect, sef 'Amser Gofalwyr', ar gyfer gofalwyr ifanc a gofalwyr sy’n oedolion ym Mhowys a Cheredigion, yn ogystal â gofalwyr ifanc ar draws Conwy, Sir Ddinbych a Wrecsam.

A wnaethoch chi gyrraedd gofalwyr newydd?

Gwnaethom ni gefnogi dros 170 o ofalwyr a oedd yn newydd i'n sefydliad. Nid yw llawer o ofalwyr yn nodi eu bod yn ofalwyr, felly dydyn nhw ddim yn gwybod am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.

Mae'r Cynllun Seibiant Byr yn ddrws i gysylltu â gofalwyr eraill a darparwyr gwasanaethau statudol.

Mae'n helpu i greu cymunedau sy'n gwerthfawrogi gofalwyr di-dâl yn ogystal â chefnogi gofalwyr di-dâl gyda chymorth ymarferol.

Pa fath o weithgareddau a wnaeth eich gofalwyr?

Trwy wrando ar y gofalwyr, bu’n bosibl i ni eu cefnogi i wneud y pethau fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddyn nhw. Gwnaethom gefnogi popeth o gaiacio môr a chwrs garddwriaeth, a ysgolion roc lleol, dosbarthiadau ioga padlfyrddio a gwnaethom hefyd brynu ffrâm ddringo a llithren.

A wnaethoch chi gynnig unrhyw weithgareddau grŵp?

Do, yn ogystal â seibiannau personoledig iawn, roedd y cynllun yn cynnig cyfleoedd ar y cyd, fel diwrnodau lles, diwrnodau natur, gwyliau teuluol, a gwyliau preswyl. Trefnwyd seibiannau gweithgareddau i grwpiau cyfoedion bach i ofalwyr ifanc ag awtistiaeth a gorbryder cymdeithasol a chynigiwyd seibiant i deuluoedd sy'n profi pwysau eithriadol ac ymyleiddio.

Rwy'n cofio un gweithgaredd grŵp yn arbennig, pan aeth deg gofalwr o bob rhan o Geredigion, yn amrywio o 20 i 80 oed gydag amrywiaeth o rolau gofalu, i ddiwrnod sba a chinio yng Ngwesty'r Cliff. Wedi'i leoli yn uchel ar glogwyn yn edrych dros Fae Ceredigion, mae'r gwesty’n ffefryn gyda gofalwyr yng Ngheredigion, gan ei fod yn teimlo fel bod ar wyliau. Bu’r gofalwyr yn ymlacio gyda sesiwn dwy awr yn y sba cyn mwynhau cinio hir, hamddenol wrth y ffenestr yn edrych dros y bae. Gwnaeth y gofalwyr wir werthfawrogi'r amser i ffwrdd o'u rôl ofalu a chael treulio amser yn cysylltu â gofalwyr eraill. Dywedodd pobl hefyd pa mor braf oedd teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

A all seibiant byr neu weithgaredd wneud gwahaniaeth go iawn?

O'r seibiant byr yng Ngwesty'r Cliff, fe ddysgon ni fod diwrnod allan syml fel hwn yn gallu rhoi seibiant meddyliol a chorfforol i'r gofalwyr. Gwnaeth y cyfuniad o weithgaredd grŵp llai ac yna bwyd a chyfle i gysylltu'n ddyfnach â gofalwyr eraill arwain at sgyrsiau twymgalon a chydymdeimladol rhwng y sawl a ddaeth. Rydyn ni wedi dysgu y gall hyd yn oed gyfnodau byr o amser i chi'ch hun gael effaith hirdymor ar sut rydych chi'n teimlo amdanoch chi'ch hun a'ch sefyllfa, eich cysylltu ag eraill mewn rhwydweithiau cadarnhaol o gysylltiad a chefnogaeth, a magu hyder a phositifrwydd sy'n dod â phosibiliadau i fywydau pobl.

Beth oedd yr heriau?

Mae pob gofalwr yn haeddu seibiant, i gael ei gefnogi a'i glywed. Gan fod cyllid yn gyfyngedig roedd hi’n anodd ariannu dim ond canran fach o'n gofalwyr. Rwy'n falch iawn o gynllun Llywodraeth Cymru, ond rhaid cofio bod ychydig dros 300,000 o bobl yng Nghymru wedi nodi eu bod yn ofalwyr di-dâl yn y cyfrifiad diwethaf. Nod y Cynllun Seibiant Byr yw rhoi seibiant i 30,000 o ofalwyr dros ddwy flynedd, felly am bob gofalwr sy'n derbyn y rhodd wych o seibiant, ni fydd naw arall mor ffodus.    

Ar y cyfan, beth aeth yn dda gyda'ch prosiect?

Gofalu am eraill yw ein nodwedd fwyaf dynol, ac mae’n cynrychioli ein cymdeithas ar ei gorau. Mae gallu cydnabod a chadarnhau cydymdeimlad a thrugaredd gofalwyr drwy wneud rhywbeth iddyn nhw sy'n ddefnyddiol a dyneiddiol wedi cael effaith enfawr ar y rhai sydd wedi profi seibiant byr.

Mae'r Cynllun Seibiant Byr wedi bod yn newid mawr. Mae wedi bod yn hynod bwysig i ofalwyr ifanc ac oedolion sydd wedi elwa ac mae’r momentwm yn cynyddu’n sylweddol. Mae'r gronfa wedi agor cyfleoedd i ofalwyr gael egwyl gyda'i gilydd ac yn unigol, yn dibynnu ar eu hanghenion a’u dewisiadau.  Mae wedi caniatáu iddyn nhw gael profiad o gael eu gwerthfawrogi a’u dathlu trwy gydnabod a chadarnhau eu cyfraniad at eu teuluoedd, eu cymunedau a chymdeithas.  Mae'r seibiannau byr ar y cyd hefyd wedi rhoi cyfleoedd i ofalwyr adeiladu rhwydweithiau cadarnhaol o gysylltiad a chefnogaeth ac i feddwl mwy am sut i gynnwys seibiannau yn eu trefn ofalu wrth symud ymlaen.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences