Race Equality First

post image 1
Ni adawodd Race Equality First i dywydd Cymru ddifetha eu cynlluniau i alluogi gofalwyr di-dâl o Leiafrifoedd Ethnig ledled de Cymru i fwynhau seibiant byr.

Cefnogodd prosiect Seibiant Byr Race Equality First lawer o deithiau amrywiol i ofalwyr o Gaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Abertawe a Chaerffili. Roedd hyn yn helpu gofalwyr i gymryd seibiant byr, cael trip diwrnod neu gael rhywfaint o amser iddyn nhw eu hunain neu gyda ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, cafodd cynlluniau ar gyfer teithiau tywys eu difetha gan dywydd Cymru!

Ymateb Cadarnhaol

Dywedodd Race Equality First wrthym, “Roedd y galw am y grantiau’n aruthrol. Y peth gorau yw’r ymateb a fu i’r gwobrau a’r rhyddhad mawr y mae rhai pobl wedi’i fynegi wrthym wrth allu cael cymorth i wneud rhywbeth gwahanol gyda’u diwrnod, neu wneud gweithgaredd na fydden nhw fel arfer yn gallu ei fforddio.

“Y boddhad mwyaf yw gweld nifer y bobl sydd wedi defnyddio eu grantiau i ymweld â theulu nad ydyn nhw efallai wedi’u gweld ers cryn amser, a bod teuluoedd yn gallu mynd i ffwrdd a gwneud rhywbeth gyda’i gilydd.”

Gweithgareddau cymunedol

Race Equality First  yw’r corff arweiniol yng Nghymru ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a chasineb hiliol, ac mae’n cynorthwyo gydag ystod eang o faterion, o iechyd a gofal cymdeithasol, i dai, diogelwch a chefnogaeth gymunedol a llawer mwy.

Mae Laura O’Keeffe, Pennaeth Cyllid a Chodi Arian Race Equality First yn dweud mwy wrthym,

“Mae teithiau grŵp wedi bod yn boblogaidd iawn, ac mae hyn yn eithaf arferol gyda’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae mynd i rywle neu dreulio diwrnod gyda’ch gilydd fel cymuned, yn hytrach nag fel unigolion, yn rhoi cyfleoedd i bobl helpu ei gilydd gyda’u cyfrifoldebau gofalu a gwneud rhywbeth gwahanol gyda’i gilydd. Rydym wedi cael teithiau i ddigwyddiadau cerddorol, tripiau i’r sinema, gweithgareddau cadw’n heini, teithiau siopa a gweithgareddau rhyng-ffydd.

"Teithiodd unigolion y tu allan i Gymru i gael seibiant, gweld y golygfeydd a threulio amser da gyda’r person maen nhw’n gofalu amdano, yn hytrach na mynd drwy’r cyfrifoldebau dyddiol rheolaidd.

“Mae wedi bod yn bleser pur cyflwyno’r grantiau hyn ac mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i staff wneud rhywbeth cadarnhaol dros bobl yn hytrach na gorfod ceisio datrys problemau yn gyflym drwy’r amser.”

Meddai un gofalwr,

Mae’r seibiant hwn yn fwy na dim ond newid bach. Mae’n cynnig cyfle i mi gael fy nghefn ataf, cael ail wynt ac ailedrych ar fy rôl fel gofalwr.        

Gwyliwch ein fideo byr i glywed mwy gan Laura a rhai o’r gofalwyr y mae’r Cynllun Seibiant Byr wedi’u cefnogi.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences