Cefnogodd prosiect Seibiant Byr Race Equality First lawer o deithiau amrywiol i ofalwyr o Gaerdydd, Casnewydd, Bro Morgannwg, Abertawe a Chaerffili. Roedd hyn yn helpu gofalwyr i gymryd seibiant byr, cael trip diwrnod neu gael rhywfaint o amser iddyn nhw eu hunain neu gyda ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, cafodd cynlluniau ar gyfer teithiau tywys eu difetha gan dywydd Cymru!
Dywedodd Race Equality First wrthym, “Roedd y galw am y grantiau’n aruthrol. Y peth gorau yw’r ymateb a fu i’r gwobrau a’r rhyddhad mawr y mae rhai pobl wedi’i fynegi wrthym wrth allu cael cymorth i wneud rhywbeth gwahanol gyda’u diwrnod, neu wneud gweithgaredd na fydden nhw fel arfer yn gallu ei fforddio.
“Y boddhad mwyaf yw gweld nifer y bobl sydd wedi defnyddio eu grantiau i ymweld â theulu nad ydyn nhw efallai wedi’u gweld ers cryn amser, a bod teuluoedd yn gallu mynd i ffwrdd a gwneud rhywbeth gyda’i gilydd.”
Race Equality First yw’r corff arweiniol yng Nghymru ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a chasineb hiliol, ac mae’n cynorthwyo gydag ystod eang o faterion, o iechyd a gofal cymdeithasol, i dai, diogelwch a chefnogaeth gymunedol a llawer mwy.
Mae Laura O’Keeffe, Pennaeth Cyllid a Chodi Arian Race Equality First yn dweud mwy wrthym,
“Mae teithiau grŵp wedi bod yn boblogaidd iawn, ac mae hyn yn eithaf arferol gyda’r cymunedau rydym yn gweithio gyda nhw. Mae mynd i rywle neu dreulio diwrnod gyda’ch gilydd fel cymuned, yn hytrach nag fel unigolion, yn rhoi cyfleoedd i bobl helpu ei gilydd gyda’u cyfrifoldebau gofalu a gwneud rhywbeth gwahanol gyda’i gilydd. Rydym wedi cael teithiau i ddigwyddiadau cerddorol, tripiau i’r sinema, gweithgareddau cadw’n heini, teithiau siopa a gweithgareddau rhyng-ffydd.
"Teithiodd unigolion y tu allan i Gymru i gael seibiant, gweld y golygfeydd a threulio amser da gyda’r person maen nhw’n gofalu amdano, yn hytrach na mynd drwy’r cyfrifoldebau dyddiol rheolaidd.
“Mae wedi bod yn bleser pur cyflwyno’r grantiau hyn ac mae wedi rhoi hwb gwirioneddol i staff wneud rhywbeth cadarnhaol dros bobl yn hytrach na gorfod ceisio datrys problemau yn gyflym drwy’r amser.”
Meddai un gofalwr,
Mae’r seibiant hwn yn fwy na dim ond newid bach. Mae’n cynnig cyfle i mi gael fy nghefn ataf, cael ail wynt ac ailedrych ar fy rôl fel gofalwr.
Gwyliwch ein fideo byr i glywed mwy gan Laura a rhai o’r gofalwyr y mae’r Cynllun Seibiant Byr wedi’u cefnogi.