Lluniau o ofalwyr ar eu seibiannau byr, eu barn nhw ar y cynllun, a’r hyn mae’n ei olygu iddynt i gael seibiant o ofalu. Mae eu geiriau'n tynnu sylw at bŵer a phositifrwydd cymryd saib o'u rôl gofalu.
Roedden ni wedi blino’n lân, yn llawn pryderon, a doedd gennym ddim amser ar gyfer unrhyw beth na neb, hyd yn oed ein gilydd. Roedden ni’n edrych ymlaen yn arw at gael seibiant, fel disgwyl eich hoff bwdin ar ôl bwyta llond plât o sbrowts meddal.
Dechreuais ofalu am fy nhad pan oeddwn tua 5 neu 6 oed. Dydw i ddim fel arfer yn mynd allan gymaint â phlant eraill. Gall fod yn eithaf anodd. Rwy’n hoffi cael seibiant o realiti weithiau.
Mae’r llun hwn yn dangos darn o gelf a grëwyd i ddathlu’r Cynllun Seibiant Byr a’r gofalwyr sydd wedi elwa o gael seibiant byr.
Mae’r darn yn ddathliad o’r Cynllun Seibiant Byr, ac mae lliwiau llachar a thrawiadol, iaith gadarnhaol a delweddau o’r gofalwyr wrth galon y darn. Mae'r gwaith yn gwahodd yr arsylwr i edrych ar negeseuon ac ethos y Cynllun Seibiant Byr ac yn taflu goleuni ar y gwaith hollbwysig y mae gofalwyr yn ei wneud.
Mae Chris Pompa, sydd wedi’i ysbrydoli gan liw a rhythm, yn gweithio’n bennaf mewn arddull haniaethol a chelf pop, ac yn aml mae’n defnyddio deunydd wedi’i ailgylchu. Mae Chris yn defnyddio ei brofiad fel ymarferydd celfyddydau mewn ysgolion arbennig a gwasanaethau oedolion, i gyfleu pa mor gadarnhaol yw seibiant byr i ofalwyr di-dâl.