Adferiad

post image 1

Cafodd Adferiad gyllid gan y Cynllun Seibiant Byr i gefnogi gofalwyr sy’n gofalu am bobl ag anghenion Iechyd Meddwl, ac sydd angen seibiant o’u gwaith gofalu.

Mae Adferiad yn dangos i ni sut y mae cyllid y Cynllun Seibiant Byr yn eu helpu nhw i gefnogi pobl a gofalwyr sy’n byw ag anhwylderau iechyd meddwl dwys a phroblemau dibyniaeth. 

Mae ein gwasanaethau wedi elwa o allu cynnig grant Seibiant Byr i ofalwyr. Mae’r grant wedi ein galluogi ni i allu cynnig seibiant haeddiannol i’r gofalwyr sy’n cael trafferth ymdopi, neu sydd wedi ymlâdd. 

"Yn aml, mae gofalwyr yn teimlo fel bod dim help ar gael, felly mae gallu cynnig y grant hwn yn gwneud byd o wahaniaeth iddyn nhw ac i’r gwasanaeth yr ydym ni’n ei gynnig. Mae’r seibiant yn codi calon y gofalwyr ar yr adeg y maent ei angen fwyaf, ac maent yn ddiolchgar iawn,” Lauren Jones, Gweithiwr Allanol Gofalwyr Adferiad, Sir Benfro.

Seibiant wedi ei deilwra i'r gofalwr

Mae cyllid gan y Cynllun Seibiant Byr wedi galluogi Adferiad i gynnig amrywiaeth o weithgareddau unigol, a gweithgareddau grŵp wedi ei ddewis gan bob gofalwr. Mae’r rhain yn cael eu hategu gan dripiau un-dydd a digwyddiadau cefnogi sy’n digwydd ym mhob un o'r 16 o ganolfannau sydd gennym yng Nghymru.

Mae’r seibiannau byr a gynigir wedi eu teilwra yn unol ag anghenion y gofalwr. Maent yn cynnwys tripiau i’r sinema, cyfleoedd i fwyta allan, i wneud eu hewinedd, a theithiau un-dydd i grwpiau yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol i grwpiau cymorth.

Gweithgareddau Grŵp

Meddai Rheolwr Sirol Adferiad yn Ynys Môn, Sam Hughes, sy’n cynnal Grwpiau Cymorth Môn, 

“Mae'r grŵp wrth eu bodd yng nghwmni ei gilydd, ond roedd prinder cyllid yn cyfyngu ar y gweithgareddau y gallwn ni eu cynnig iddynt. Pan gyhoeddwyd y Cynllun Seibiant Byr, nid oedd nifer o'r gofalwyr yn gallu amgyffred beth y byddan nhw yn ei wneud gyda’r arian.  Roedd rhai yn teimlo nad oeddent yn haeddu'r arian, ac roedd rhai eraill yn ei chael hi’n anodd meddwl am fynd ar wyliau heb eu hanwyliaid.

Roedd defnyddio’r arian i drefnu gweithgareddau i'r grŵp yn ateb perffaith felly, gan eu bod yn helpu’r gofalwyr i flaenoriaethu eu llesiant nhw, heb wneud iddynt deimlo fel petaent yn gwastraffu adnoddau prin, ac yn gwneud cam a’u hanwyliaid.”  

Crochenwaith a chefnogaeth grŵp

Un o’r gweithgareddau a ddewisodd y grŵp oedd trip i Tan y Ddraig, gweithdy crochenwaith yng Nghonwy. Roedd y clai yn oer a meddal, ac roedd gweithio ag o yn ymlaciol. Dywedodd un o’r gofalwyr fod gweithio â’r clai wedi gwneud iddi deimlo’n hamddenol braf, a’i helpu hi i anghofio am ei holl broblemau am gyfnod. Ar ôl y gweithdy, aeth y gofalwyr am ginio gyda’i gilydd i gaffi lleol, rhoddodd hyn y cyfle iddynt sgwrsio ar lefel ddyfnach, rhannu straeon, a siarad am yr hyn sy’n peri gofid iddynt.

Meddai un o’r gofalwyr, “Mwynheais y gweithdy yn fawr. Doeddwn i ddim yn siŵr bore ‘ma os oeddwn i am ddod, ond dwi mor falch fy mod i. Mae siarad gyda pobl yn codi fy nghalon i, ac rwy’n gwybod fy mod i angen hynny weithiau; dydw i ddim yn cael cyfle i flaenoriaethu fi fy hun yn aml iawn.”   

Derbyn a rhoi cymorth

Dywedodd gofalwr arall, “Cyn i mi gael fy rhoi mewn cyswllt ag Adferiad, doeddwn i byth yn gwneud unrhyw beth er fy mwyn i, er fy mod i’n gwybod y byddai’n gwneud lles i mi. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i angen cymorth. Rwy’n sylweddoli nawr mor bwysig yw derbyn help. Dwi hyd yn oed yn meddwl am wneud gwaith gwirfoddol er mwyn ceisio canfod beth sy’n fy niddori i eto!”

Mae Adferiad yn cynnig seibiannau i bobl ar hyd a lled Cymru. Defnyddiwch ein cronfa ddata i ddod i wybod mwy a chanfod sut i wneud cais.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences