Neath Port Talbot Carers Service/ Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot

post image 1

Defnyddiodd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot gyllid gan y Cynllun Seibiant Byr i gefnogi dros 300 o ofalwyr sy’n oedolion neu’n arwyr tawel, fel y mae’r gwasanaeth yn hoffi cyfeirio atynt.

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot yn darparu seibiannau byr sydd wedi eu teilwra at anghenion pob gofalwr. Mae pob gofalwr sy’n oedolyn yn ardal Castell-nedd Port Talbot yn gallu defn yddio’r gwasanaeth hwn. Mae’r seibiannau hyn yn cynnwys nosweithiau i ffwrdd, tocyn blynyddol i lefydd fel Folly Farm, aelodaeth o gampfa, diwrnod mewn sba, a thalebau i dai bwyta. Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig gweithgareddau grŵp megis, dosbarthiadau Tai Chi, sesiynau Bath Sain a Reiki, a taith fws i Gaerfaddon i siopa Nadolig.

Gwrando ar ofalwyr

Dywedodd Carly Hastings, Gwirfoddolwr, a Chydlynydd Seibiant Byr Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, “Roedd y gwasanaeth wedi ei deilwra i bob gofalwr fel eu bod nhw’n cael dewis sut seibiant fyddai’n rhoi’r budd mwyaf iddynt.  Roedden nhw’n cael dewis hefyd a oedden nhw eisiau cael seibiant gyda’r person sy’n derbyn gofal, neu beidio.”

“Rydym ni wedi parhau i wrando ar adborth gan y gofalwyr, ac wedi addasu’r hyn yr ydym ni’n ei gynnig yn unol â’r adborth hwnnw.” Aeth Carly yn ei blaen, “Ymatebodd y gofalwyr yn dda i’r digwyddiadau a’r gweithgareddau grŵp, ac felly rydym ni wedi trefnu mwy ohonynt. Roedd ein digwyddiad Bath Sain ni mor boblogaidd, fel y bu’n rhaid i ni gynnal dau arall, a chafwyd adborth cadarnhaol dros ben.”

Cefais i lonydd. Cefais i fudd mawr o'r sesiwn, ac rwy’n teimlo’n fwy parod i ddychwelyd i fy ngwaith gofalu nawr.
Roedd e’n brofiad hyfryd, ymlaciol a phwerus dros ben. Gwnes i lefain, ond rwy’n teimlo’n well ar ôl bod. Diolch yn fawr iawn!
Am anhygoel! Pan gyrhaeddais i roeddwn i dan straen ac roedd fy mhen i ym mhobman, ond rwy’n gadael yn barod amdani.

Ychwanegodd Claire John, Rheolwr Darparu Gwasanaeth, “Mae pob gofalwr wedi cael cynnig seibiant byr sydd wedi ei deilwra ar eu cyfer, felly mae’r gofalwr wedi cael cyfle i ddewis pa fath o seibiant fyddai’n gweddu i’w amgylchiadau nhw orau.

“Mae’r seibiannau hyn wedi rhoi cyfle i’r gofalwyr gael hoe o’u gwaith gofalu ac wedi lleihau’r teimlad o fod yn unig ac ar eu pen eu hunain.” Aeth hi yn ei blaen, “Cafodd y gofalwyr ddewis a oeddent eisiau cynnwys y person sy’n derbyn gofal yn y seibiant neu gael seibiant hebddyn nhw- beth bynnag oedd yn gweithio orau i bob gofalwr unigol. Mae’r rhai sy’n derbyn gofal yn cael budd o’r cynllun hefyd, boed hynny yn uniongyrchol drwy gael seibiant gyda’u gofalwr, neu drwy gael gofalwr sydd ar eu gorau un waith eto wedi’r seibiant.”

Adborth Cadarnhaol

Roedd y daith fws i Gaerfaddon er mwyn siopa Nadolig a chymryd rhan mewn Gweithdy Creu Torch yn fwy na seibiant byr yn unig, dyma unig gyfle nifer o'r gofalwyr i gael sgwrsio â phobl yn yr un cwch â nhw a chael amser iddyn nhw eu hunain. Yn wir, roedd y daith yn achubiaeth i rai ohonynt. 

Mae cael seibiant o ofalu 24 awr wedi gwneud byd o wahaniaeth i fy iechyd meddwl.
Roedd y cyfan yn golygu’r byd i mi – cael trefn wahanol i'r diwrnod, a chyfarfod gofalwyr eraill. Oni bai am y daith buaswn i wedi aros adref yn glanhau.
Cefais i fod yn fi fy hun heddiw, yn hytrach na gofalwr yn unig.  Ychydig oriau i mi fy hun
Mae fy nghwpan wag wedi ei llenwi, ac mae’r grant hwn wedi bod yn achubiaeth i mi.

Seibiant wedi ei deilwra i'r gofalwr

Mae Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot wedi sylwi bod gofalwyr yn gryfach ac yn fwy tebygol o allu parhau i ofalu ar ôl cael seibiant a chyfle i ddatod eu hunain o’r straen sydd ynghlwm â bod yn ofalwr.  Dywedodd Claire, “Mae cael seibiant sydd wedi ei deilwra i’r gofalwr yn galluogi’r gofalwr i ganolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw, a beth sydd ei angen arnynt er mwyn gallu parhau i ofalu.

Cyfle i gael gofal

Dywedodd gofalwr, sydd ag efeilliaid wyth oed sy’n awtistig ac yn ddieiriau, "Dwi’n byw ar 4 awr o gwsg. Dwi heb gael seibiant ers saith mlynedd a dwi’n teimlo fel petawn i wedi colli adnabod arnaf i fy hun.  Dwi’n fam, yn wraig tŷ, yn gogydd ac yn lanhawraig.  Mae’r efeilliaid yn golygu’r byd i mi, ond dwi wedi ymlâdd.”

Cafodd y gofalwr gynnig taleb i aros yng Ngwesty’r Celtic Manor yng Nghasnewydd. Pan ffoniodd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot ychydig fisoedd yn ddiweddarach, roedd y gofalwr yn frwdfrydig ac yn gadarnhaol.  Roedd hi wedi defnyddio’i thaleb seibiant byr bythefnos yn gynharach, ac roedd hi a’i ffrind wedi cael amser gwych yn rhannu straeon ac yn chwerthin.

Dywedodd y gofalwr nad oedd hi wedi sylweddoli cymaint yr oedd hi angen seibiant byr, a chymaint o wahaniaeth oedd cael y seibiant wedi ei wneud i’w llesiant a’i hiechyd meddwl, “Roedd fy matris yn fflat; dw i’n teimlo’n llawn egni nawr. Mae’n braf cael gofal yn lle gwneud yr holl waith gofalu.”

Wrth grynhoi, dywedodd Gwasanaeth Gofalwyr Castell-nedd Port Talbot, “Mae’r cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth allweddol i fywydau pobl; gallwch chi roi rhywbeth sy’n ymddangos yn fychan, ond sydd o fudd mawr”

 

 

 

 

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences