Cynllun hyblyg sy’n ymateb i anghenion y gofalwyr

post image 1

Cynllun hyblyg sy’n ymateb i anghenion y gofalwyr

Mae’r cynllun Seibiant Byr wedi ennill enw da am ddarparu seibiannau hyblyg a phersonol i ofalwyr di-dâl. Beth am fwrw golwg ar y gwahanol fathau o seibiannau y mae’r gofalwyr wedi eu mwynhau, a gweld a ydyn nhw mor dda â’r disgwyl?

Pa seibiannau sydd ar gael

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru wedi galluogi 13,000 o ofalwyr i gael seibiant byr, trwy’r Cynllun Seibiant Byr.

Mae’r Cynllun, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn darparu pob math o wahanol seibiannau i ofalwyr - boed hynny yn noson mewn gwesty neu’n ddosbarth crefftau wythnosol. Rydym ni wedi cefnogi ein gofalwyr i gymryd rhan mewn pob math o seibiannau megis: teithiau i'r sinema, grwpiau therapi celf, gweithgareddau awyr agored, taith siopa i farchnad Nadolig, nosweithiau mewn clwb comedi, grwpiau gwnïo, bwyd allan, diwrnod mewn sba, diwrnod llawn hwyl i’r teulu, côr, grwpiau cymorth, a llawer mwy. Mae’r gofalwyr wedi cael cyfle i orffwys, ac mae nifer ohonynt wedi dysgu sgiliau newydd hefyd. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys peintio, coginio, caiacio, a syrffio.

3 short breaks scheme activities

Opsiynau posib

Ym mlwyddyn gweithredol gyntaf y cynllun, dewisodd 17% o'r gofalwyr di-dâl gael noson i ffwrdd, dewisodd 14% gael diwrnod allan, dewisodd 26% gymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp, a dewisodd 43% gael meicro-grant.

Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Cynllun Seibiant Byr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Cafodd y cynllun ei greu mewn modd oedd yn caniatáu hyblygrwydd, gan alluogi ein partneriaid i helpu’r gofalwyr i ddewis seibiant sy’n gweddu i’w sefyllfa ofalu nhw orau. Mae hi’n braf iawn cael clywed am yr holl wahanol seibiannau y mae’r gofalwyr wedi eu cael, ac mae’n dangos bod y cynllun yn un hyblyg ac amlbwrpas.”

Seibiannau wedi eu teilwra

Mae’r math o seibiant y mae'r gofalwr yn ei ddewis yn aml yn dibynnu ar sefyllfa unigol y gofalwr hwnnw.  Cafodd y Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr dros £65,000 i gefnogi bron i 300 o ofalwyr o Wynedd, Conwy ac Ynys Môn i gael seibiant byr yn 2023/24. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dewis cael noson i ffwrdd neu dderbyn grant unigol, ond mae rhai yn dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp neu ddiwrnod allan.

Eglura’r Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr, “Mae’r math o seibiant y mae pob gofalwr yn ei ddewis yn cyd-fynd â’u hanghenion personol nhw, ond mae’r dewisiadau hyn hefyd yn amlygu’r berthynas a fodola rhwng dewisiadau’r gofalwr, eu perthynas nhw â’r sawl sy’n derbyn gofal, a’u siwrne ofalu bersonol nhw.

“Mae gofalwyr sy’n rhieni yn fwy tebygol o ddewis noson i ffwrdd o amgylchfyd y cartref, gyda’r person maent yn gofalu amdano.  Ond, mae'r rhai sy’n gofalu am briod neu bartner sydd â phroblemau iechyd meddwl yn fwy tebygol o ddewis seibiant therapiwtig, heb y person sy’n derbyn gofal.

3 short breaks scheme activities

Pan fo’r person sy’n derbyn gofal yn yr ysbyty, mae’r gofalwyr yn aml yn dewis cael seibiant sy’n eu galluogi nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n amhosibl fel arfer, pethau fel gweld ffrindiau, mynd i’r siop trin gwallt, neu gael triniaeth yn y sba.  Mae'r rhai sy’n gofalu am riant â dementia yn tueddu i ofyn am adnoddau i'w galluogi nhw i barhau â’u diddordebau wrth gael seibiant o’u gwaith gofalu. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys deunyddiau celf neu wnïo, ac offer gwylio adar.”

Cyfranogiad gofalwyr

Mae’r cynllun yn galluogi sefydliadau’r gofalwyr i wrando ar y gofalwyr a chanfod pa weithgaredd sy’n gweddu iddynt orau. Cefnogodd Inclusability dros 300 o ofalwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, a Phort Talbot i gael seibiant byr. Gofynnon nhw i’r gofalwyr pa fath o seibiannau oedden nhw yn eu ffafrio.  

Eglura Inclusability, “Er mwyn teilwra gweithgareddau i anghenion y gofalwyr a sicrhau ein bod ni’n cael effaith gadarnhaol ar y nifer fwyaf posibl o ofalwyr, cyflwynwyd ffurflen ddewis ddigidol.  Defnyddiwyd yr ymatebion i greu amrywiaeth o weithgareddau seibiant.  Mynegodd rhai gofalwyr ddyhead i ymlacio ac anghofio am eu cyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â chyfleoedd i gael eu rhoi mewn cysylltiad â gofalwyr eraill. Roedd gofalwyr eraill eisiau i'w teulu gael seibiant gyda nhw.”

Mae NEWCIS, partner arall sy’n ein helpu ni i ddarparu seibiant byr i ofalwyr, yn cytuno,

Mae gallu darparu seibiannau byr sydd wedi cael eu dewis gan y gofalwyr eu hunain yn golygu bod y seibiannau yn ymateb i anghenion unigol y gofalwr, a bod modd eu gweithredu yn gyflym.

Seibiant wedi ei deilwra i'r gofalwr

Roedd y talebau llesiant a gynigwyd i ofalwyr plant â chlefyd yr arennau gan Aren Cymru wedi eu teilwra i anghenion pob gofalwr er mwyn sicrhau bod modd iddynt gael seibiant heb achosi straen nac ansicrwydd.  Dywedon nhw,

Roedd y gofalwyr yn gwerthfawrogi eu bod nhw’n cael dewis, oherwydd mae sefyllfa pawb yn wahanol. Efallai y byddai rhywbeth yn golygu'r byd i un gofalwr, ond yn golygu dim i'r llall.

Cynllun hyblyg ac amlbwrpas

Roeddem ni am i’r cynllun fod mor hyblyg â phosibl, ac mae’n ymddangos fel petai’n llwyddo hyd yn hyn. Mae'r gofalwyr cael cyfle i fwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau, ac yn cael y seibiant y maen nhw ei angen mewn ffordd sy’n gweddu iddyn nhw. 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences