Wrth i ni ddathlu Diwrnod Hawliau Gofalwyr eleni, rydym yn edrych ar sut y gall cydnabod eich bod yn ofalwr a chymryd rhan yn y Cynllun Seibiant Byr agor y drws i gefnogaeth a chydnabyddiaeth ehangach.
Yng Nghymru, mae dros 310,00 o ofalwyr di-dâl. Mae'n debyg bod y nifer hwnnw yn llawer uwch, gan fod llawer o bobl sy’n gwneud rôl ofalu yn gudd, heb sylweddoli eu bod yn cyfrif fel gofalwr.
Fel yr amlygwyd gan Carers UK, mewn gwirionedd gall gymryd ychydig o flynyddoedd i rywun sylweddoli eu bod yn ofalwr erbyn hynny, maen nhw’n fwy na thebyg wedi blino ac yn teimlo dan straen ac o bosibl mewn trafferthion ariannol.
Gall deall eich hawliau, p'un ai a yw'n ymwneud â mynediad at seibiant i ofalwyr neu bigiadau ffliw am ddim helpu i ysgafnhau'r baich.
Mae'r Cynllun Seibiant Byr a gydlynir gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, wedi darparu seibiant mawr ei angen i dros 13,000 o ofalwyr yng Nghymru. Mae hefyd yn chwarae rhan bwysig i helpu gofalwyr i gael y cymorth a'r gefnogaeth ehangach sydd ei hangen arnynt. Mae wedi llwyddo i ddod â llawer o ofalwyr i gysylltiad â sefydliadau gofalwyr am y tro cyntaf. Mae bron i hanner y gofalwyr sydd wedi derbyn cyllid seibiant byr yn dod i sylw eu sefydliad gofalwyr lleol am y tro cyntaf. Mae gwneud cais am seibiant byr yn gam cyntaf pwysig i lawer o ofalwyr, gan eu helpu i gydnabod eu bod yn ofalwr, ac agor y drws i amrywiaeth o gymorth a chefnogaeth ychwanegol.
Meddai Adferiad, sydd wedi cefnogi dros 280 o ofalwyr ledled Cymru i gael seibiant byr, "Os nodwyd anghenion eraill, rydym wedi gwneud atgyfeiriadau i Ganolfan Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chynghori Ariannol Adferiad, a llwybrau cymorth eraill, gan gynnwys banciau bwyd, oergelloedd cymunedol a chynlluniau grant bach."
Dywed un gofalwr a fwynhaodd seibiant byr mewn gwesty trwy NEWCIS: "Dw i'n teimlo cymaint yn fwy positif o wybod bod mwy o help ar gael nag yr oeddwn i'n sylweddoli."
Eglura NEWCIS, "Weithiau, y peth anoddaf yw rhoi sicrwydd i ofalwyr bod angen iddynt neilltuo amser iddyn nhw eu hunain a sylweddoli cymaint y byddan nhw a’r anwyliaid y maen nhw’n gofalu amdanynt yn elwa o gael seibiant. Hefyd, mae'r cyfle i siarad â gofalwyr eraill, swyddogion lles a gweithwyr proffesiynol yn rhywbeth ychwanegol a gwerthfawr y mae’r Cynllun Seibiant Byr yn ei gynnig."
Mae gofalwyr eu hunain nid yn unig yn ddiolchgar am y seibiannau y maent yn eu cael, ond hefyd am y teimlad fod eu rôl yn cael ei chydnabod drwy'r cynllun. Dywed Cancer Aid, a gynigiodd seibiannau byr trwy eu partner darparu, Interlink,
Mae'r prosiect hwn wedi ymestyn cwmpas y gwasanaethau presennol ac wedi cyflwyno gwasanaethau newydd sbon i'n cleifion.
Maent yn mynd ymlaen i siarad am effaith y Cynllun Seibiant Byr, Roedd y gofalwyr wedi mwynhau eu hunain yn fawr, ond sylweddolon nhw hefyd effaith eu rôl fel gofalwyr, a’u bod nid yn unig yn cael eu cydnabod gan eu teulu, ond fod y gymdeithas ehangach yn cydnabod yr effaith y maen nhw’n ei chael. Mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r prosiect yn bwysig i ofalwyr gan eu bod yn teimlo bod ein llywodraeth yn deall ac yn cefnogi eu gwaith fel gofalwyr."
Gall gwybod eich hawliau eich grymuso, gan arfogi gofalwyr gyda'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu bywydau ychydig yn haws. Mae'r Cynllun Seibiant Byr, i lawer, yn borth i'r ddealltwriaeth, y gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth hon.
Cynhelir Diwrnod Hawliau Gofalwyr ddydd Iau 21 Tachwedd 2024. Mae'n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o'r hawliau sydd gan 5.7 miliwn o ofalwyr di-dâl y DU, a'u helpu i gael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth haeddiannol sydd ei hangen arnynt.
Dolenni Cyswllt