Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn helpu i ysgafnu baich ddyddiol gofalwyr gan roi iddynt ychydig oriau o normalrwydd.
Fe wnaeth bron i 250 o ofalwyr di-dâl ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fwynhau seibiant byr ac elwa ar y cyngor a'r gefnogaeth ychwanegol a gynigir gan Wasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr TuVida.
Mudiad elusennol sy’n cefnogi gofalwyr di-dâl a’r bobl maent yn gofalu amdanynt, gartref ac yn y gymuned, yw TuVida. Maent yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn Ne Cymru drwy gyfrwng sawl sefydliad, gan gynnwys gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr.
Drwy gyfrwng eu project Seibiant Byr, ‘Seibiant i Ofalwyr’, fe wnaeth Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr alluogi gofalwyr di-dâl i fwynhau gwyliau dros nos a phenwythnosau, tripiau dydd, tanysgrifiadau ac aelodaeth. Cafodd yr ymgeiswyr hefyd gymorth ac arweiniad ychwanegol gyda’u rôl ofalu, gan gynnwys asesiadau ac atgyfeiriadau i wasanaethau statudol.
“Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy mab a minnau, nid yn unig oherwydd ei fod wedi ein galluogi i gael trip i ffwrdd gyda’n gilydd ond hefyd oherwydd inni gael rhywfaint o gydnabyddiaeth o ba mor anodd yw ein bywydau a bod yna bobl sydd yn malio, yn deall ac eisiau ein helpu ni.”
Mae gan Wasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr elfen benodol i helpu gofalwyr sy’n ddynion er mwyn i fwy ohonynt ddod yn rhan o’r cynllun. Defnyddiwyd cyllid i dalu am danysgrifiadau i wasanaethau ffrydio ac aelodaeth o gampfa, tripiau theatr, tripiau i'r teulu a'r rhai sydd dan eu gofal i barc carafannau a hyd yn oed drip diwrnod i ofalwr fynd i wylio ei hoff dîm pêl-droed yn chwarae gêm yn Essex.
Rhoddwyd cymorth i ddau weithgaredd grŵp i alluogi dynion sy’n ofalwyr mewn grŵp cymorth iechyd meddwl lleol i fynd i fowlio. Dyfarnwyd arian hefyd i ddynion sy’n ofalwyr i gwblhau a chodi arian i Her y Tri Chopa! Cafodd un gofalwr ifanc ddiwrnod i’w gofio yn Sw Chessington ac mae gofalwr ifanc arall yn edrych ymlaen at rownd o golff, fel yr eglura ei fam,
Mae’n gyfle iddo ymlacio a mwynhau seibiant, mae wrth ei fodd ac mae’n edrych ymlaen at gêm neu ddwy o golff.
Meddai Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, “Drwy ddarparu’r grantiau Seibiant Byr fe wnaethom lwyddo i ddod i wybod am ofalwyr cudd. Wedyn, cafodd y gofalwyr hynny nid yn unig gymorth i gael seibiant oddi wrth eu rôl ofalu, cawsant hefyd gynnig cefnogaeth les barhaus drwy gyfrwng Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr. Mae hyn wedi galluogi gofalwyr i gael gafael ar wasanaethau eraill gan gynnwys atgyfeiriadau i dimau Ymyrraeth Gynnar Pen-y-bont ar Ogwr i gael asesiadau gofalwyr statudol.”
Roedd un gofalwr, a oedd nid yn unig wedi cael seibiant hollbwysig, hefyd wedi cael gafael ar y gefnogaeth ehangach yr oedd arni’n amlwg ei hangen:
Mae Sian* yn ofalwr di-dâl amser llawn i’w merch ieuengaf sydd â mudandod dethol ac anhwylder hypersymudedd y cymalau, a hefyd i’w gwraig sydd wedi cael covid hir ac sy’n dioddef o anawsterau anadlu a blinder eithafol. Mae Sian, sydd ag anhwylder deubegynol, wedi dechrau dioddef o orbryder ynghylch logisteg mynd allan i’r gymuned gyda’i gwraig. Mae’n gorfod cynllunio pob trip yn fanwl iawn, gan gynnwys lle mae’r llefydd parcio agosaf, lle mae'r lifftiau, y pellter o’r car i’r pwynt o ddiddordeb; popeth yr oedd hi’n ei gymryd yn ganiataol cyn i’w gwraig fynd yn sâl.
Arferai ei gwraig fod yn unigolyn abl ac egnïol iawn, ond nawr mae tasgau cyffredin yn anodd, pethau fel plygu i lwytho’r peiriant golchi. O ganlyniad, Sian bellach sy’n gwneud yr holl waith tŷ ac yn ysgwyddo’r rhan fwyaf o’r gwaith o ofalu am ei merch, ac mae wedi’i llethu’n emosiynol.
Fe wnaeth Sian gais am y grant Seibiant Byr, gan ofyn am benwythnos yn Bluestone iddi hi a’i gwraig. Dywedodd Sian yr hoffai gael amser i ffwrdd heb ‘boeni am bawb a phopeth’ a chydnabu y byddai cymryd seibiant oddi wrth ei rôl ofalu yn adfywio ei theimladau tuag ato. Yn hollbwysig, roedd Sian eisiau amser ar ei phen ei hun gyda’i gwraig i fod gyda’i gilydd – ond nid mewn swyddogaeth gofalwr/gwraig sy’n derbyn gofal.
Ar ôl i gais Sian ddod i law, cysylltodd Gwasanaeth Lles Gofalwyr Pen-y-bont â hi am sgwrs ‘Beth sy’n Bwysig’ gychwynnol, lle trafodwyd ei rôl ofalu yn fanylach. Trafodwyd llawer iawn o bethau yn y cyfarfod hwn er mwyn rhoi mwy o help i Sian, o ddeall manteision cael asesiad gofalwr, i’w chyfeirio at grŵp cymorth ar gyfer anhwylder deubegynol. Fe wnaethant roi iddi hefyd wybodaeth am gymorth cyfreithiol ac am adnodd gan Carers UK ‘My Back Up’ ar sut i wneud cynllun wrth gefn, a phostio llythyr at ei meddyg teulu yn cadarnhau ei rôl ofalu.
Meddai Sian, “Rydyn ni newydd ddod yn ôl o’n gwyliau yn Bluestone. Roedd y bwthyn yn hyfryd, roedd y sba wir i’w groesawu ac roedd hi mor braf mynd i ffwrdd ac ymlacio’n llwyr gyda’n gilydd. Roedd yn lleoliad perffaith gan fod sba, caffi, bwyty, tafarn a siopau ar garreg y drws.
Gyda covid hir fy ngwraig, roedd yn golygu y gallem fynd allan heb boeni na fyddai’n gallu gwneud y siwrnai na gorfod teithio ymhell. Fe wnaeth wir ysgafnu'r baich a rhoi inni ychydig o’r normalrwydd na chawsom mohono ers tro.
*Mae enwau wedi cael eu newid i ddiogelu preifatrwydd