Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro

post image 1

Diolch i'r Cynllun Seibiannau Byr, dyfarnodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro dros £130,000 i helpu mwy na 2,000 o ofalwyr di-dâl i fwynhau seibiannau byr yn 2023/24.

Fel corff cydlynu cenedlaethol y Cynllun Seibiannau Byr, mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r saith Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i oruchwylio'r gwaith o ddarparu grantiau i bartneriaid darparu seibiannau byr ledled Cymru.

Gweithiodd un o’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Caerdydd a'r Fro, gyda Chyngor Trydydd Sector Caerdydd i ddarparu cyllid i 11 o fudiadau'r trydydd sector:

  • AcePlace
  • AP Cymru
  • Canolfan Gymunedol Tre-biwt
  • Eglwys Glenwood
  • Challenge Wales
  • Foreget me not Chorus
  • Moss Rose Cottage
  • Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro
  • Voices Adfocad
  • With Music in Mind
  • YMCA

Trwy'r mudiadau hyn, bu’n bosibl i 2,255 o ofalwyr di-dâl fwynhau seibiannau byr.

Cydnabyddiaeth a chefnogaeth

Meddai Chris Ball, Rheolwr Rhaglen Heneiddio'n Dda, "Mae llwyddiant y prosiect hwn yn deillio o'r gefnogaeth a roddir i ofalwyr di-dâl, sydd yn ei dro yn cefnogi ein system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach. Mae'r prosiect hwn wedi bod yn fodd i ofalwyr gael rhywfaint o gydnabyddiaeth a chefnogaeth, yn ogystal â chael mynediad at wasanaethau neu weithgareddau newydd nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o'r blaen. Mae adborth wedi dangos bod gofalwyr di-dâl wedi bod yn hynod ddiolchgar ac wedi defnyddio'r Cynllun Seibiannau Byr i gefnogi eu hiechyd meddwl a'u llesiant fel y gallan nhw barhau â'u cyfrifoldebau gofalu."

Y caledi sy’n wynebu gofalwr

Mae Chris yn rhannu un darn o adborth a gawsant gan ofalwr a dderbyniodd daleb am ddiwrnod sba gan ei grŵp cymunedol lle buont yn siarad am galedi a realiti bod yn ofalwr di-dâl:

"Mae gofalwyr yn aml yn wynebu caledi ar ôl gorfod rhoi'r gorau i weithio. Maen nhw'n arbed biliynau o bunnoedd i'r economi drwy geisio cadw eu teuluoedd gyda'i gilydd. Hyd nes y cawn y cymorth ariannol priodol yr ydym yn ei haeddu, rydym yn croesawu unrhyw gyllid y gallwn ei gael. I lawer, mae’n golygu colli eu rhyddid, bod gwyliau wedi dod i ben, bod diddordebau, bywyd cymdeithasol, prydau allan, diodydd gyda ffrindiau, y car yr oeddech chi'n berchen arno unwaith, y gliniadur roeddech chi'n ei ddefnyddio – i gyd yn bethau sy’n perthyn i'r gorffennol. Ac mae'r cyfan yn digwydd yn sydyn. Mae eich cyflog yn dod i ben a’ch bywyd hefyd! Rydym yn cael ein hymestyn i'r eithaf, yn aml mae ein hiechyd corfforol a meddyliol ein hunain yn dioddef.

Mae gofalu yn waith anodd, ac yn aml yn unig ac yn drech na ni.

"Mae gweld pobl gyda dagrau yn eu llygaid a gwên ar eu hwynebau, gan wybod eu bod gyda ffrindiau yn mwynhau pryd allan heb unrhyw gost iddyn nhw yn amhrisiadwy. Mae gweld pobl yn gallu mynd i siop trin gwallt i dorri a lliwio eu gwallt, rhywbeth nad ydyn nhw wedi gallu ei wneud ers blynyddoedd, yn deimlad arbennig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ein diwrnodau sba, diolch i'r cyllid hwnnw."

Nid mater o arian ydi o’n unig i ni, mae rhywun yn cydnabod ein hymdrech ac yn ein gwerthfawrogi. Mae rhywun yn dweud diolch!

Dod â theuluoedd at ei gilydd

family outdoors

Derbyniodd AP Cymru, sy'n cefnogi pobl â niwroamrywiaeth a'u teuluoedd, adborth ynghylch y grwpiau cymorth y maent yn eu cynnal fel rhan o'r seibiannau byr:

"Mae cael plentyn ag anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth (ASD) yn gallu bod yn brofiad unig a thrwy AP Cymru mae’n bosibl i ni gyfarfod pobl yn yr un sefyllfa, sy'n deimlad gwych. Mae'r gweithgareddau a'r seibiannau a ddarperir gan AP Cymru yn caniatáu i fy nheulu ddod at ei gilydd a chael profiad o'r 'bywyd normal' y mae teuluoedd niwronodweddiadol yn ei brofi. Mae'n dod â ni at ein gilydd ac yn rhoi cyfle i ni greu perthynas a threulio amser yng nghwmni ein gilydd, gan leihau'r pethau sy’n pwyso ar fy meddwl bob dydd a rhoi cyfle inni ymlacio.

"Mae'n rhoi cyfle i fy merch i gael profiadau newydd a chyfarfod pobl newydd a datblygu ei sgiliau. Mae'n amhrisiadwy i ni. Mae'n rhodd sy’n parhau. Trwy gydol y gweithgareddau mae Sophia yn cael chwarae yn ei ffordd ei hun a chymryd rhan yn ei ffordd ei hun, yn aml yn rhedeg o gwmpas yn chwerthin a gwenu, sy’n wych. Diolch am y cyfle!"

Mae Chris yn gorffen drwy ddweud, "Mae mudiadau'r trydydd sector eisoes yn cymryd rhan sylweddol yn ein rhaglen gofalwyr di-dâl, ond mae'r Cynllun Seibiannau Byr wedi galluogi'r mudiadau hyn, ac ystod ehangach o sefydliadau, i gynnig capasiti ychwanegol neu gymorth gwahanol neu newydd i ofalwyr di-dâl gael seibiant o’u gwaith gofalu. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb yr arian.”

 

 

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences