Sut mae cyrraedd dynion sy'n ofalwyr ac ymgysylltu â nhw

post image 1

Gall caniatáu i chi'ch hun gael seibiant fod yn her i lawer o ofalwyr di-dâl, a hyd yn oed yn fwy byth i ddynion sy'n ofalwyr. Rydym yn edrych ar sut mae tri o’n partneriaid cyflenwi yn y Cynllun Seibiant Byr yn ymgysylltu â’r grŵp cudd hwn.

Mae llawer o ofalwyr yn teimlo nad ydyn nhw wir yn haeddu seibiant – a bod eu rôl gofalu yn rhan o fod yn ŵr, yn wraig, yn dad, yn ferch - ac maen nhw’n anghofio bod yn rhaid iddynt hwythau fyw eu bywydau hefyd. Gall y sefyllfa fod yn waeth fyth i ddynion sy’n ofalwyr oherwydd bydd llawer ohonynt yn wynebu stigma sy'n gysylltiedig â’u rolau gofalu. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach iddyn nhw ofyn am gymorth neu gydnabod pan fyddan nhw’n ei chael hi’n anodd, a gall hyn arwain at fwy o straen a phroblemau iechyd meddwl.

Canfu ymchwil yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a’r Fforwm Iechyd Dynion fod pedwar o bob deg o ddynion sy’n ofalwyr a holwyd byth yn cael seibiant o’u rôl gofalu, tra bo dros hanner yn teimlo bod anghenion dynion sy'n ofalwyr yn wahanol i anghenion menywod sy'n ofalwyr. Dywedodd llawer fod dynion yn ei chael hi’n fwy anodd gofyn am gymorth a chefnogaeth, a bod cydbwyso gwaith a gofalu yn heriol yn enwedig os mai nhw ydy’r prif enillydd cyflog.

Yr heriau a wynebir gan bartneriaid cyflenwi

Mae ein rhwydwaith o sefydliadau gofalwyr lleol sy’n darparu’r Cynllun Seibiant Byr yn gwneud gwaith gwych i dynnu sylw at y cyfleoedd a’r manteision o gymryd seibiant haeddiannol. Fodd bynnag, maen nhw wedi darganfod ei bod hi’n fwy anodd cyrraedd dynion sy'n ofalwyr a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgaredd. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun, dynion oedd 30% o’r gofalwyr a gymerodd ran, o’i gymharu â ffigur cyfrifiad 2021 sy'n nodi bod 41% o ofalwyr di-dâl yng Nghymru yn ddynion.

Cyrraedd dynion sy'n ofalwyr

Y rhwystr cyntaf o ran annog mwy o ddynion sy’n ofalwyr i gymryd seibiant byr yw gwneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o’r cyfle. Un tric y mae llawer o bartneriaid cyflenwi yn ei ddefnyddio i gyrraedd dynion sy’n ofalwyr yw gwneud hynny drwy eu partneriaid a’u ffrindiau sy'n fenywod.

Mae Rewild Play yn egluro, “Rydyn ni wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau sy’n canolbwyntio ar gefnogi dynion sy'n ofalwyr, ond maen nhw’n anodd eu cyrraedd gan nad ydy’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n tueddu i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol, felly rydyn ni’n annog eu partneriaid i ddweud wrthyn nhw am ddigwyddiadau a gweithgareddau. Mae’n ymddangos hefyd fod dynion sy’n ofalwyr yn amharod i ymuno pan nad ydyn nhw’n adnabod dynion eraill sy’n ofalwyr. Felly, rydym yn trefnu noson allan cyn y Nadolig lle gall dynion sy’n ofalwyr ddod â’u partneriaid gyda nhw; ac rydym yn annog cynifer o ofalwyr â phosibl i ddod â’u partneriaid gwrywaidd gyda nhw.”

Ychwanegodd Ray of Light Cancer Support, “Rydyn ni’n cydnabod yr heriau unigryw y mae dynion sy’n ofalwyr yn eu hwynebu, felly rydyn ni wedi datblygu deunyddiau marchnata sy'n targedu eu profiadau yn uniongyrchol.”

Mae Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr yn dweud wrthym am ffordd arall o godi ymwybyddiaeth ymhlith dynion sy’n ofalwyr, “Mae ein cylchlythyr yn cael ei ddosbarthu i’r grŵp Lads & Dads lleol ac anogir bod y gweithgareddau yn cael eu hyrwyddo ymysg y dynion sy’n ofalwyr yn y grŵp.”

Amrywiaeth mewn gweithgareddau

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod llawer o seibiannau byr, fel diwrnodau mewn sba a dosbarthiadau celf, yn cynnig mwy ar gyfer cynulleidfa o fenywod. Fodd bynnag, mae sefydliadau gofalwyr hefyd yn cynnig gweithgareddau mwy egnïol neu gystadleuol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Rewild Play ddigwyddiad taflu bwyeill a oedd yn llwyddiant mawr ymysg y dynion sy'n ofalwyr, fel yr eglurodd Joanne French, “Allai neb ddweud bod taflu bwyeill gyda’n gofalwyr gwrywaidd yn ymlaciol! Sbardunodd eu natur gystadleuol ac roedd pawb yn benderfynol o daro’r targed bob tro. Methodd rhai â tharo’r targed ond roedd digon o amser i fireinio eu sgiliau a dysgu rhai gwahanol fel taflu dwy fwyell gyda dwy law. Yn ffodus, aeth pawb adref mewn un darn!”

Roedd Ray of Light Cancer Support wedi mabwysiadu dull tebyg i annog dynion sy’n ofalwyr i gymryd rhan, “Gwnaethom drefnu gweithdai penodol, fel ein gweithdai Gof a Byw yn y Gwyllt, yn ogystal â grwpiau cymorth a oedd yn darparu ar gyfer eu hanghenion, i greu amgylchedd lle gallan nhw deimlo’n gyfforddus i rannu eu profiadau. Roedd yr adborth gan gyfranogwyr yn awgrymu bod natur ymarferol y gweithdai yn werth chweil am ei fod yn rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddynt ac yn eu helpu i ymlacio.”

Dywedodd un gofalwr,

Roedd yn gyfle prin i mi ganolbwyntio arna i fy hun. Diolch i chi am brofiad bythgofiadwy

"Am ddiwrnod! Doeddwn i erioed wedi dychmygu y byddwn i’n gallu gwneud unrhyw beth fel hyn, ond roedd y gweithdy gof yn anhygoel. Fe wnes i brocer tân - rhywbeth y bydda i’n ei drysori am byth! Roedd y cinio yn wych. Roedd yn rhyddhad peidio â gorfod poeni am bacio bwyd neu gynllunio unrhyw beth. Y cyfan oedd angen i mi ei wneud oedd dod draw a mwynhau fy hun.”

Niferoedd yn gysur

Mae’n ymddangos hefyd fod dynion sy’n ofalwyr yn gyndyn o gymryd seibiant oni bai ei fod yn weithgaredd y gallan nhw ei wneud gyda’u teuluoedd. Mae Rewild Play yn cytuno, “Mae’n ymddangos bod y dull hwn yn gweithio, gan fod nifer fawr o ddynion sy’n ofalwyr wedi dod i’r penwythnos preswyl gyda’u teuluoedd yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog. Roedd y seibiant yn llwyddiant ysgubol gyda 41 o deuluoedd ar y safle am dri diwrnod a dwy noson. Roedd y gweithgareddau ar gyfer oedolion yn ogystal â phlant, felly manteisiodd llawer o’n gofalwyr ar y cyfle i roi cynnig ar ddringo, sgïo a reidio beiciau cwad. Roedd un neu ddau o’r gofalwyr hyd yn oed wedi mwynhau’r castell neidio!”

Dywedodd Sarah Jarvis, Prif Swyddog Gweithredol Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, eu bod wedi gweld nifer cadarnhaol o ddynion sy’n ofalwyr yn cymryd rhan, “Er bod dynion sy'n ofalwyr yn anodd ymgysylltu â nhw yn hanesyddol, rydyn ni wedi gweld ychydig o gynnydd yn nifer y dynion sy’n cymryd rhan yn ystod y diwrnod gweithgarwch ‘Dads & Kids Bushcraft’ a’r seibiannau byr i rieni sy’n ofalwyr a gofalwyr sy’n gweithio.

Ychwanegodd “Mewn digwyddiad roeddem wedi’i gynnal yn ddiweddar i dadau a’u plant, roedd golff gwallgof uwchfioled, disgo mewn castell neidio, crefft a bwffe. Fel arfer rydyn ni’n cynnwys y plant (y rhai sy’n derbyn gofal a’u brodyr a chwiorydd) gan ei fod yn chwalu’r rhwystrau sy’n atal tadau rhag mynychu - maen nhw wrth eu boddau’n cael dod â’u plant i fannau diogel a chynhwysol a chael siarad â thadau eraill sydd â rolau gofalu.”

Yn ôl Sarah, “Mae’r cyllid o’r Cynllun Seibiant Byr yn golygu ein bod wedi gallu rhedeg amserlen lawn, gan dargedu gofalwyr o bob oed, a chynnig amrywiaeth eang o weithgareddau seibiant byr i ddarparu ar gyfer pob diddordeb. Mae wedi ein galluogi i estyn allan i gymunedau i ganfod a chefnogi’r gofalwyr mwyaf agored i niwed a’u teuluoedd.”

Edrych i’r dyfodol

Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau seibiant byr helpu dynion sy’n ofalwyr i greu cysylltiadau cymdeithasol sy’n helpu i leihau unigrwydd a gwella ansawdd eu bywyd yn gyffredinol. Diolch i ymdrechion ein partneriaid cyflenwi, mae dynion sy’n ofalwyr yn cael eu targedu a’u hannog i gymryd rhan mewn gweithgareddau seibiant byr sy’n cefnogi eu hiechyd meddyliol, emosiynol a chorfforol.

Dolenni defnyddiol

 

 

 

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences