Gweithredu dros Blant - Prosiect Cymorth i Deuluoedd Ynys Môn a Gwynedd

post image 1

Roedd prosiect y Cynllun Seibiant Byr sy'n cael ei gynnal gan Gweithredu dros Blant yn cynnig grantiau bach o hyd at £50 i ofalwyr ifanc o Ynys Môn a Gwynedd i’w defnyddio ar seibiant byr a oedd yn gweddu i'w hanghenion a'u diddordebau.

Rydyn ni'n rhoi’r dewis a’r rhyddid i ofalwyr ifanc ddewis pa seibiant byr maen nhw'n ei gael.

Rhannodd Gweithredu dros Blant bron i 100 tocynnau sinema, talebau ar gyfer diwrnodau gweithgaredd i lefydd fel Sw Caer a Zip World, talebau i fwytai a llefydd tecawê, a thalebau Amazon a Ticketmaster.

Diolch yn fawr iawn dros y bechgyn am bopeth, maen nhw mor gyffrous i fynd i'r sinema. Maen nhw'n teimlo cymaint yn well ar hyn o bryd ac mae hynny'n gwneud i mi deimlo'n anhygoel hefyd!
– Rhiant

Mae’r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus. Mae’n ffordd hyblyg a chynhwysol i ofalwyr ifanc gael seibiant byr, gan ddarparu ar gyfer gwahanol anghenion a phrofiadau personol pobl ifanc.

Meddai Katie Roberts, Ymarferydd Plant a Theuluoedd Gweithredu dros Blant, "Rhoesom gymorth i deuluoedd os nad oedden nhw'n siŵr pa fath o seibiant y gallen nhw elwa ohono, gan gynnig awgrymiadau a allai fod yn addas ar gyfer gwahanol anghenion a diddordebau'r gofalwyr ifanc niferus rydyn ni'n eu cefnogi.

"Er enghraifft, gofynnodd un gofalwr ifanc am seibiant byr y gallai ei fwynhau gartref oherwydd ei fod yn teimlo’n bryderus ynglŷn â gadael y tŷ. Cafodd daleb Amazon i brynu DVD a thaleb tecawê, a oedd yn golygu ei fod yn dal i allu manteisio ar seibiant byr o gysur ei gartref ei hun, a oedd yn fwy addas i'w hanghenion."

"O'r adborth a dderbyniwyd gan ofalwyr ifanc, gallwn weld bod y grant seibiannau byr yn helpu i wella llesiant. Rydyn ni'n rhoi’r dewis a’r rhyddid i ofalwyr ifanc ddewis pa seibiant byr maen nhw'n ei gael. Dywed gofalwyr ifanc wrthym eu bod yn teimlo'n well yn sgil manteisio ar y grant a'u bod wedi gallu ymlacio a mwynhau diwrnod allan neu weithgaredd heb unrhyw bryderon."

Creu cyswllt a rhoi diwedd ar deimlo’n ynysig

"Mae seibiannau byr yn rhoi rhyddid a chyfle i ofalwyr ifanc orffwys, fel unigolyn neu fel rhan o grŵp ehangach lle gallan nhw gyfarfod eraill. Maen nhw'n fwy tebygol o deimlo'n llai ynysig ac yn fwy tebygol o wneud ffrindiau newydd yn y rhwydwaith gofalwyr ifanc wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd i fwynhau gweithgareddau hwyliog newydd", eglura Katie.

"Roedd cael amser i ffwrdd gyda fy nheulu’n braf. Cawsom gymaint o hwyl ac roedd yn braf peidio â gorfod poeni am fy mrawd. Roedden ni’n gallu ymlacio a bod yn blant eto." – Gofalwr Ifanc

Pwysigrwydd cymryd seibiant

Meddai Katie, "Rydyn ni’n gwybod bod gofalwyr ifanc yn hapusach yn eu rôl pan fyddan nhw’n gwybod eu bod yn cael seibiant yn fuan a bod rhywbeth i edrych ymlaen ato. Mae'r prosiect hwn yn rhoi seibiant i ofalwyr ifanc rhag pwysau a gwrthdaro yn y cartref, ac yn sicrhau eu bod yn teimlo bod ganddynt yr hawl i gymryd seibiannau byr o'u rolau gofalu, a theimlo’n llai euog ynghylch hynny."

Diolch yn fawr iawn. Efallai bod rhywbeth fel hyn yn ymddangos yn fach i bobl eraill ond i mi a fy nheulu roedd yn golygu llawer iawn.

                     – Gofalwr Ifanc

Gwneud gwahaniaeth

Cafodd dau frawd dalebau i fynd i’r sinema ac ar gyfer gêm laser leol. Dywed eu mam wrthym, "Mae'r bechgyn yn darparu gofal i'w chwaer iau sydd â chyflyrau meddygol cymhleth ac sydd angen gofal 24 awr. Maen nhw’n helpu drwy roi cymorth ymarferol ac emosiynol. Mae llesiant y ddau fachgen wedi cael ei effeithio ers dod yn ofalwyr ifanc. Anaml y mae’r teulu’n mynd am ddiwrnod allan gan nad oes digon o le yn y car i ddarparu ar eu cyfer i gyd ynghyd â'r holl offer meddygol sydd ei angen ar gyfer eu chwaer.

"Mae'r gweithgareddau wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'r bechgyn. Roedd peidio â gorfod poeni am eu chwaer gartref wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Roedd yn braf gallu cynnig hyn heb boeni am y gost.

"Mae cael rhywbeth i edrych ymlaen ato wedi helpu’n fawr ac ar y diwrnod, roeddwn i'n gallu gweld gwelliant mawr yn y ffordd roedden nhw'n teimlo yn feddyliol. Dywedodd y bechgyn eu bod wedi cael  'amser gwych'. Mae'r tîm gofalwyr ifanc wedi bod yn achubiaeth i ni.  Alla i ddim diolch digon i chi, rydych chi wedi bod yn anhygoel. "

Pleser pur

Mae gan Zoe sy'n 15 oed, a'i brawd iau Josh 11 oed gyfrifoldebau gofalu am eu rhiant, a rannodd eu stori gyda ni.

"Mae Zoe a Josh yn gwneud llawer i mi. Mae Zoe yn coginio ac yn helpu i lanhau a mynd â'r biniau allan. Mae hi'n gwneud yn siŵr fy mod i'n bwyta'n rheolaidd ac yn rhoi trefn ar fy meddyginiaeth wythnosol i mi. Mae hi hefyd yn fy helpu i ymolchi ac os ydw i'n sâl, mae hi'n cymryd fy rôl fel rhiant i'w brawd Josh. Mae Josh yn helpu trwy wneud llawer o’r gwaith glanhau, gwneud y prydau ac mae’n helpu gyda'r gwaith golchi, yr anifeiliaid ac mae'n gefnogaeth emosiynol anhygoel (mae'r ddau ohonyn nhw!).

"Cafodd Zoe daleb o £50 i fynd i sglefrio iâ yn ei chanolfan sglefrio iâ leol. Mae Zoe wrth ei bodd yn sglefrio iâ ac mae wedi elwa cymaint o'r daleb hon. Mae ei hiechyd meddwl wedi elwa wrth iddi gael seibiant o’i rôl gofalu am ddwy awr ar yr iâ, ac mae hi bob amser yn dod yn ôl yn edrych yn llawn bywyd ac yn hapus. Mae'n ddiwrnod allan gwych i ni fel teulu hefyd. Mae Josh a minnau'n treulio'r amser yn gwylio gyda diod boeth yn fy llaw!

Cydnabyddiaeth

Yn ogystal â rhoi rhywbeth cadarnhaol i ofalwyr ifanc edrych ymlaen ato, rydym yn gobeithio, trwy ddarparu'r cyfleoedd hyn, y bydd yn parhau i helpu i ddatblygu eu hymdeimlad o werth wrth iddynt gael eu dathlu ac wrth iddynt gael y sylw a'r gydnabyddiaeth y maen nhw’n ei haeddu.

 

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences