Bore Pampro Gofalwyr Casnewydd

post image 1

Pan dderbyniodd Age Connects Torfaen gyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau'r Cynllun Seibiant Byr yn ne-ddwyrain Cymru, penderfynon nhw gynnal sesiwn pampro a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer gofalwyr Mwslimaidd benywaidd.

Mae llawer o ofalwyr yn teimlo nad ydyn nhw'n haeddu seibiant a bod gofalu yn rhywbeth y maen nhw'n ei wneud i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod Mwslimaidd, a dyna pam fod Age Connects Torfaen yn credu bod y seibiant byr yma wedi cael cymaint o effaith.

Cafodd un ar ddeg o fenywod o grŵp gofalwyr Lleiafrifoedd Ethnig Du yng Nghasnewydd fwynhau bore pampro, lle cynigiwyd amrywiaeth o driniaethau, gan gynnwys golchi a thorri gwallt, tylino dwylo, wynebau a thylino’r pen.

Addasodd Age Connects Torfaen y trefniadau i wneud yn siŵr bod y sesiynau'n hygyrch, yn briodol ac yn gyfforddus i ofalwyr benywaidd Mwslimaidd. Roedd yr holl gynhyrchion a ddefnyddiwyd yn cyd-fynd â gwerthoedd Halal, yn ogystal â’r holl luniaeth wrth gwrs. Caewyd yr ardal ar gyfer y merched er mwyn iddynt allu ymlacio'n llwyr, ac roedd ystafell ymolchi ac ystafell weddi benodol ar gael.

Meddai Emma Wootten, Age Connects Torfaen: "Roedd yn brofiad gwerth chweil ac rwy’n teimlo ei fod wedi cael effaith wirioneddol arnyn nhw."

Roedd y sesiwn yn eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt neilltuo amser iddyn nhw eu hunain cyn y gallan nhw roi amser a gofal o ansawdd i eraill.

"Dywedodd un o'r merched fod dagrau wedi dod i’w llygaid wrth iddi gael tylino ei phen gan ei fod yn helpu i ryddhau'r straen a'r blinder yr oedd hi wedi'i botelu yn sgil gofalu am bawb arall bob amser. Doedd hi ddim wedi sylweddoli faint oedd angen hyn arni a bydd nawr yn rhoi blaenoriaeth i neilltuo amser iddi ei hun. Mae hi'n bwriadu gwneud ychydig ac yn aml i sicrhau bod ganddi ddigon o egni i gynnig gofal o ansawdd a chefnogi ei pherthynas ofalgar."

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Daw Emma i'r casgliad, "Doedd rhai o'r merched, sydd i gyd yn gofalu am wŷr, modrybedd, ewythrod a rhieni, erioed wedi cael unrhyw driniaethau pampro o'r blaen.  Fe wnaethon nhw fwynhau'r cyfle i eistedd gyda'i gilydd, sgwrsio ac ymlacio.  Maen nhw i gyd yn bwriadu dychwelyd i gael sesiynau pellach yn ogystal ag amryw o weithgareddau yn y dyfodol rydyn ni wedi gallu eu creu gyda nhw!"

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences