Pan dderbyniodd Age Connects Torfaen gyllid ychwanegol ar gyfer gweithgareddau'r Cynllun Seibiant Byr yn ne-ddwyrain Cymru, penderfynon nhw gynnal sesiwn pampro a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer gofalwyr Mwslimaidd benywaidd.
Mae llawer o ofalwyr yn teimlo nad ydyn nhw'n haeddu seibiant a bod gofalu yn rhywbeth y maen nhw'n ei wneud i'w teuluoedd a'u ffrindiau. Mae hyn yn arbennig o wir am fenywod Mwslimaidd, a dyna pam fod Age Connects Torfaen yn credu bod y seibiant byr yma wedi cael cymaint o effaith.
Cafodd un ar ddeg o fenywod o grŵp gofalwyr Lleiafrifoedd Ethnig Du yng Nghasnewydd fwynhau bore pampro, lle cynigiwyd amrywiaeth o driniaethau, gan gynnwys golchi a thorri gwallt, tylino dwylo, wynebau a thylino’r pen.
Addasodd Age Connects Torfaen y trefniadau i wneud yn siŵr bod y sesiynau'n hygyrch, yn briodol ac yn gyfforddus i ofalwyr benywaidd Mwslimaidd. Roedd yr holl gynhyrchion a ddefnyddiwyd yn cyd-fynd â gwerthoedd Halal, yn ogystal â’r holl luniaeth wrth gwrs. Caewyd yr ardal ar gyfer y merched er mwyn iddynt allu ymlacio'n llwyr, ac roedd ystafell ymolchi ac ystafell weddi benodol ar gael.
Meddai Emma Wootten, Age Connects Torfaen: "Roedd yn brofiad gwerth chweil ac rwy’n teimlo ei fod wedi cael effaith wirioneddol arnyn nhw."
Roedd y sesiwn yn eu hatgoffa bod yn rhaid iddynt neilltuo amser iddyn nhw eu hunain cyn y gallan nhw roi amser a gofal o ansawdd i eraill.
"Dywedodd un o'r merched fod dagrau wedi dod i’w llygaid wrth iddi gael tylino ei phen gan ei fod yn helpu i ryddhau'r straen a'r blinder yr oedd hi wedi'i botelu yn sgil gofalu am bawb arall bob amser. Doedd hi ddim wedi sylweddoli faint oedd angen hyn arni a bydd nawr yn rhoi blaenoriaeth i neilltuo amser iddi ei hun. Mae hi'n bwriadu gwneud ychydig ac yn aml i sicrhau bod ganddi ddigon o egni i gynnig gofal o ansawdd a chefnogi ei pherthynas ofalgar."
Daw Emma i'r casgliad, "Doedd rhai o'r merched, sydd i gyd yn gofalu am wŷr, modrybedd, ewythrod a rhieni, erioed wedi cael unrhyw driniaethau pampro o'r blaen. Fe wnaethon nhw fwynhau'r cyfle i eistedd gyda'i gilydd, sgwrsio ac ymlacio. Maen nhw i gyd yn bwriadu dychwelyd i gael sesiynau pellach yn ogystal ag amryw o weithgareddau yn y dyfodol rydyn ni wedi gallu eu creu gyda nhw!"