Yr adeg hon y llynedd, fe wnaethom ymweld â’r elusen anhygoel, Follow Your Dreams, ar seibiant byr yn Bluestone Resort, Sir Benfro, lle roeddent wedi croesawu 350 o ofalwyr di-dâl.
Mae Follow Your Dreams yn elusen genedlaethol sy’n ysbrydoli plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Mae wedi derbyn £82,000 o gyllid gan y Cynllun Seibiant Byr. Felly roeddent wedi gallu cynnig seibiant addysgol llawn hwyl i ofalwyr di-dâl o bob cwr o Gymru, gan roi amser teuluol gwerthfawr iddynt a chyfle i greu cyfeillgarwch gydol oes gyda phobl mewn sefyllfaoedd tebyg.
Ar y diwrnod y buom yn ymweld â nhw, gwelsom â’n llygaid ein hunain pa mor bwysig oedd y seibiant hwn i’r teuluoedd dan sylw, ac roedd ychydig o ddagrau o hapusrwydd i'w gweld!
Cawsom gyfarfod â Diane Blackmore, Prif Swyddog Gweithredol Follow Your Dreams. Mae Diane yn berson disglair sy’n gwireddu'r digwyddiadau hyn. Mae fel petai hi ymhobman - yn trefnu, yn siarad â theuluoedd ac yn cysylltu â’i grŵp bach o wirfoddolwyr. Dywedodd wrthym ei bod hi, un diwrnod, wedi cerdded dros 32,000 o gamau yn Bluestone!
Dyma Diane yn rhoi cefndir y prosiect, “Roedd ein prosiect ‘Play Stay & Sign’ yn cefnogi gofalwyr di-dâl a gofalwyr ifanc sy’n gofalu am blant a phobl ag anableddau dysgu ac anableddau eraill o bob cwr o Gymru i ymuno mewn pum diwrnod o seibiant. Rydym ni’n canolbwyntio ar hwyl, undod, iechyd a llesiant mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol ac ymlaciol ar dir hyfryd Bluestone.”
Gofalwr
Gwych yw camu’n ôl a threulio amser gwerthfawr gyda’n gilydd, a rhywbeth amhrisiadwy yw bod gyda theuluoedd arbennig eraill sy'n deall yn iawn.
Cafodd yr holl lety ei ariannu ac roedd rhaglen lawn o weithgareddau fel 'deffro a siglo' a chelf a chrefft ar gael. Roedd y bwrlwm ar y safle’n amlwg, gyda’r plant a’r rhieni’n mwynhau eu hunain yn fawr ym mhob man.
Dywed Diane, “Mae teuluoedd yn cael cyfle amhrisiadwy i gwrdd, gwneud ffrindiau a chymdeithasu â theuluoedd eraill sy’n wynebu sefyllfaoedd tebyg a rhannu eu gwybodaeth a’u profiad. Mae hefyd yn gyfle i wella perthnasoedd o fewn yr uned deuluol drwy dreulio amser gwerthfawr gyda’ch gilydd ar seibiant oddi wrth arferion a heriau dyddiol. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn elwa o gael cefnogaeth, gyda’r adnoddau i wella eu sgiliau cyfathrebu â’i gilydd a’u dealltwriaeth o’i gilydd.”
Gofalwr,
O’r eiliad yr oeddem yn cerdded i mewn, roeddwn dan deimlad, yn gweld yr holl blant a’r cariad a’r gefnogaeth. Ar ôl tynnu fy merch o’r ysgol a chael trafferth gyda diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth, dyma gyfle i fod gyda llwyth o bobl wych yn dathlu eu plant gyda’i gilydd. Diolch o waelod calon i bawb.
Roedd llawer o deuluoedd yno gyda’u plant ag anableddau, a phob un yn mwynhau gweithgareddau unigryw, cynhwysol ac mewn iaith arwyddion. Eglura Diane, “Mae’r cyfnod preswyl yn eu helpu i deimlo eu bod yn cael eu cynnwys fwy mewn grŵp neu gymuned yn ogystal ag mewn bywyd teuluol, ac yn cael eu heithrio a’u hynysu llai oherwydd eu hanabledd. Mae’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar eu hanghenion cyfathrebu. Mae’r gweithgareddau hefyd yn eithriadol o bwysig i’w brodyr a’u chwiorydd a’u gofalwyr, sy’n rhan bwysig o’r prosiect arbennig hwn.”
“Roedd bwrlwm hapus ym mhob rhan o Bluestone drwy gydol y cyfnod. Dydw i erioed wedi gweld cymaint o wynebau hapus a chyfeillgar yn yr un lle. Roedd yn teimlo’n gynhwysol, yn groesawgar ac yn debyg i un teulu mawr hapus. Roedd yn codi fy nghalon.” Gofalwr
Mae gan Caleb o dde Cymru Syndrom Down, Anawsterau Dysgu Cyffredinol, Gorsymudedd ac ADHD ac mae angen gofal 24/7 arno. Mae ei fam Nicola hefyd wedi’i chofrestru’n anabl gyda chyflwr prin ar ei llygaid.
Dywedodd Nicola wrthym: “Roedd Bluestone yn ein galluogi i gael amser gwerthfawr gyda’n gilydd gan fod y cyfleusterau a’r gweithgareddau a ddarparwyd yn diwallu ei anghenion yn dda. Roeddwn i’n teimlo fy mod i’n cael fy nghefnogi gan y rhwydwaith ehangach o ofalwyr a oedd yn deall heb orfod dweud gair. Roedd yn ein galluogi i gael amser gwerthfawr a dysgu sgiliau i helpu a chyfathrebu’n fwy effeithiol”
“Mae Bluestone wedi fy ngalluogi i fel gofalwr i fynd i’r afael â’m llesiant fy hun. Er nad oedd y dyletswyddau gofalu am fy mab wedi newid yn ystod y cyfnod, roedd y cyfnod wedi rhoi cyfle i roi'r materion dyddiol, sef y pethau y mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw gartref, o'r neilltu am ychydig. Gwnaeth hyn i mi sylweddoli fy mod wedi esgeuluso fy llesiant fy hun, a bod hynny wedyn wedi effeithio ar fy mab. Drwy fynychu, roeddwn i’n gallu edrych ar fy ôl fy hun yn well, gan wella ansawdd y gofal roeddwn i’n ei ddarparu. Roeddwn i’n gweld plentyn llawer hapusach, sylwgar ac ymgysylltiol pan oeddwn i yno oherwydd bod yr amgylchedd dysgu'n braf.”
“Hefyd, roedd y cyfleusterau yn ei gwneud yn haws i mi ddelio ag anghenion fy mab ac wedi hybu ei annibyniaeth i archwilio'r byd o'i gwmpas yn ddiogel. Roedd fy ngŵr Kevin, sy’n gofalu am y ddau ohonom, yn teimlo y gallai ymlacio fwy, gan wybod bod y peryglon o ddydd i ddydd yn fach iawn o’u cymharu â phan fyddwn ni gartref.”
“Mae wythnos breswyl yn Bluestone yn achubiaeth i lawer o deuluoedd. Fel gofalwr, gallwch deimlo'n ynysig a chael eich barnu. Fodd bynnag, am yr wythnos gyfan hon, does dim gymaint o bwysau, gan fod pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg. Mae rhai yn gwneud ffrindiau gyda gofalwyr eraill ac, yn bwysicach, mae'r plant a'r gofalwyr ifanc yn teimlo'n ddiogel. Mae’n rhoi amser i deuluoedd rannu cyngor a gwybodaeth a ffurfio cyfeillgarwch ac ymdeimlad o berthyn. Mae fel bod mewn cocŵn diogel am yr wythnos, sy'n galluogi'r gofalwyr i roi sylw i'w llesiant eu hunain er mwyn darparu'r gofal gorau i'w hanwyliaid."
Dywed Diane fod cyllid y Cynllun Seibiant Byr wedi cyfrannu’n helaeth at lwyddiant y prosiect ac wedi galluogi Follow your Dreams i estyn allan at fwy o ofalwyr newydd nad oedd yn hysbys i’w helusen o’r blaen, gan fod o fudd i 350 o ofalwyr o Gymru.
Ar ôl i ni adael ac i'r digwyddiad ddod i ben, holodd Diane rai o'r cyfranogwyr a dweud bod 100% o'r gofalwyr yn teimlo bod y seibiant wedi helpu i wella eu llesiant meddyliol a/neu gorfforol ac wedi'u grymuso gyda’r gwytnwch i barhau yn eu rôl gofalu.
Gofalwr,
Diolch o galon i chi. Rydym ni wedi cael amser da! Prysur, emosiynol ac anhygoel! Rydym wedi cael cyfle i ‘fod’, heb esgus, esbonio na gwên ffug. Dim ond llawenydd pur!