Travelling Ahead

post image 1

Mae Tros Gynnal Plant (TGP) Cymru yn gweithio ar hyd a lled Cymru er mwyn cynorthwyo cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr gyda’r prosiect, ‘Travelling Ahead’. Mae’r cyllid wedi eu galluogi nhw i ddarparu seibiant byr, pryd o fwyd, paned, a thocyn sinema i dros 70 o ofalwyr. 

Mae adborth y cynllun yn dangos bod cael seibiant byr, neu bryd o fwyd allan yn gallu cael effaith cadarnhaol ar ofalwr.  Rydym ni wedi bod yn sgwrsio â thri gofalwr am effaith y cyfnodau hyn o seibiant.

Teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi

Cafodd un ofalwraig o’r gymuned Teithwyr Gwyddelig, sydd yn ei chwedegau canol, y cyfle i fwynhau seibiant am dair noson mewn parc gwyliau gyda rhai o’i hwyrion, ei brodyr a’i chwiorydd. Dywedodd hi nad ydy hi byth yn cael cyfle i feddwl amdani hi ei hun, ac mai dyma’r tro cyntaf iddi allu ymlacio ers colli ei mam flwyddyn yn ôl.

Mae hi’n gofalu am ei mab, sy’n oedolyn ag anhwylderau iechyd meddwl difrifol ac anableddau dysgu, ac yn dweud bod eu siwrne nhw wedi bod yn un faith.  Mae ei mab yn ei bedwardegau hwyr, ac mae hi’n poeni pwy fydd yn gofalu amdano ar ôl iddi farw. 

Does neb wedi gwneud unrhyw beth fel hyn i mi o’r blaen

Mae'r seibiant byr wedi rhoi cyfle iddi ymlacio, ac wedi rhoi’r hwb oedd hi ei angen iddi.  Roedd hi’n falch bod ei gwaith hi fel gofalwraig yn cael ei gydnabod, a’i bod hi’n cael ei gwerthfawrogi: “Roedd y seibiant yn hyfryd; mae cael cyfle i orffwyso wedi fy helpu i, ac roeddwn i’n teimlo’n llawer gwell ar ôl y gwyliau. Roedd hi’n braf hefyd fod rhywun wedi meddwl amdanaf i, a gwneud rhywbeth mor garedig i mi.  Does neb wedi gwneud unrhyw beth fel hyn i mi o’r blaen.” 

Trip arbennig

“Dwi’n Sipsi Romani, a dwi’n gofalu am fy Mam.   Mae gen i dri o blant a gŵr.  Mae gen i gyflyrau iechyd cronig, a dwi’n aml yn teimlo’n sâl, ac mewn poen, ac felly mae symud yn gallu bod yn anodd weithiau.  

“Roedd hi mor braf cael mynd ar wyliau fel teulu, a chael seibiant mewn parc gwyliau i godi ein calonnau! Arhoson ni mewn parc carfannau ac aethon ni i barc gwledig hyfryd.  Chwaraeon ni Golff Giamocs gyda’n gilydd, ac enillais i £125 yn y Bingo! 

“Ar ôl y seibiant, roeddwn i wedi ymlacio’n llwyr, doeddwn i ddim yn gwylltio mor hawdd, ac roeddwn i’n teimlo’n well yn fy hunan. “Roeddwn i’n teimlo’n bell i ffwrdd oddi wrth fy mhroblemau.”

Creu atgofion

Cafodd gofalwraig arall y cyfle i gael seibiant byr am dri diwrnod gyda’i theulu, a gwerthfawrogodd hi’r cyfle i greu atgofion hapus fel teulu tra mae’r plentyn y mae hi’n ei ofalu amdano dal gyda nhw.

Mae eu plentyn wedi derbyn diagnosis o glefyd sy’n cyfyngu ar fywyd ac sy’n arwain at ddirywiad corfforol a gwybyddol.  Mae’r teulu i gyd yn caru’r plentyn hwnnw, mae’n dod â llawenydd iddynt, ond mae angen cefnogaeth lawn arno, a chymorth i wneud tasgau dyddiol fel bwyta, mynd i'r tŷ bach, a symud. A hithau â phlant eraill i ofalu amdanynt, mae’r ofalwraig yn fam brysur sydd dan straen. 

Dywedodd yr ofalwraig eu bod nhw i gyd wedi mwynhau amser i ffwrdd gyda’i gilydd.   Roedd y pwll nofio a’r adloniant yn y parc gwyliau yn boblogaidd iawn gyda’r plant, a chawson nhw gyfle i greu atgofion gyda’i gilydd.   Maen nhw’n dal i sôn am y seibiant, ac yn rhoi sgôr o 10 allan o 10 iddo!

Dywedodd yr ofalwraig,

Rwy’n hapus bod fy mhlentyn wedi cael y profiad hwn tra mae o gyda ni, ac rwy’n falch bod y teulu wedi cael treulio’r amser hwn gydag ef. 

Mae amser yn werthfawr, ac rydym ni’n ddiolchgar iawn fod y Cynllun Seibiant Byr yn rhoi cyfle i ofalwyr di-dâl ym mhob cymuned yng Nghymru fwynhau’r amser hwnnw gyda’u hanwyliaid.  

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences