Ar 14 Chwefror bydd llawer ohonom yn dangos ein cariad at y person arbennig hwnnw yn ein bywydau, efallai drwy roi tusw o flodau neu fynd allan am bryd o fwyd. Mae gofalwyr di-dâl yn dangos eu cariad drwy’r dydd, bob dydd.
Yn ein Harolwg Seibiant Byr diweddar, gwelsom fod y rhan fwyaf (80.5%) o’r gofalwyr sy’n oedolion a gymerodd seibiant, yn darparu gofal dwys iawn am 50 awr a mwy yr wythnos. Mae fel arfer yn rôl flinedig sy’n achosi straen ac sy’n aml yn teimlo’n ynysig. Fodd bynnag, mae llawer o ofalwyr hefyd yn teimlo balchder a hapusrwydd, gan wybod eu bod yn rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i berson maen nhw’n ei garu.
Fel y dywedodd un gofalwr a gymerodd ran mewn gweithgaredd seibiant byr gyda Neath Port Talbot Carers Service, “Mae bod yn ofalwr yn flinedig, yn anodd yn emosiynol, ac yn ddidrugaredd. Ond mae bod yn ofalwr hefyd yn rhoi llawer o foddhad, ac mae’n gysur gwybod bod yr hyn rydw i’n ei wneud yn gwneud bywyd fy mab ychydig yn fwy disglair.
“Mae gweld ein mab yn hapus yn gwneud i ni deimlo’n hapus, ac rydw i wedi dysgu mwy am fy nghryfderau fy hun – pethau mae’n bosib na fyddwn i wedi’u dysgu pe na bawn i wedi bod yn ofalwr.
Mae goleuni ym mhen draw’r twnnel pan fyddwch chi’n teimlo boddhad o wneud gwahaniaeth go iawn i fywyd y person rydych chi’n gofalu amdano.
Mae gwasanaeth gofal canser Ray of Light wedi rhannu stori deimladwy â ni am ddyn maen nhw’n ei gefnogi a aeth i weithdy gwneud llwyau caru yn ddiweddar. Ac yntau’n ofalwr llawn amser i’w wraig sydd â salwch terfynol, mae ei ddyddiau’n llawn gorchwylion gofalu, ond maen nhw hefyd yn llawn cariad dwys sy’n llywio pob cam.
Pan glywodd am y gweithdy gwneud llwyau caru, gwelodd gyfle i greu rhywbeth arbennig i’w wraig. Mae traddodiad Cymru o greu llwyau caru yn ganrifoedd oed, ac mae’n symbol o serch a ffyddlondeb. Aeth y gŵr ati i saernïo pob manylyn ar y llwy â’i holl galon, gyda phob patrwm a gerfiai yn adlewyrchu eu taith gyda’i gilydd â chwlwm annatod eu cariad.
Daeth y gweithdy yn fwy na gweithgaredd iddo – roedd yn ddihangfa therapiwtig ac yn gyfle iddo fynegi ei gariad drwy greu rhywbeth â llaw. Wrth iddo saernïo’r llwy yn ofalus, cafodd ei hun yn hel atgofion am eu bywyd gyda’i gilydd – yr hwyl a’r chwerthin, a’r cryfder sydd wedi’u cario nhw drwy’r cyfnodau anodd.
Pan gyflwynodd y llwy garu orffenedig i’w wraig, roedd ei llygaid yn llawn dagrau o lawenydd. Nid dim ond darn o bren oedd y llwy; roedd yn symbol o’i gariad a’i ymrwymiad diwyro.
Mae'r enghreifftiau hyn yn tynnu sylw at y cysylltiadau cryf rhwng gofalwyr a’u hanwyliaid. Maen nhw hefyd yn dangos sut mae gweithgaredd neu seibiant byr yn gallu cyfrannu at eiliadau o hyfrydwch a chysylltiad sy’n gwneud y cyfan yn werth chweil, hyd yn oed dan yr amgylchiadau anoddaf un.