Fe gafodd Headway Caerdydd a De-ddwyrain Cymru ychydig dros £10,000 gan y Cynllun Seibiant Byr, a gyda’r cyllid hwnnw maen nhw wedi gallu cynnal dros 430 o weithgareddau seibiant byr.
Mae Headway yn rhoi cefnogaeth i ofalwyr yn ne Cymry sy’n gofalu am bobl sydd wedi cael anaf i'r ymennydd. Maent yn gwneud hyn drwy ddarparu gwybodaeth, sesiynau cymorth un-i-un, a chyfnodau o seibiant i’r gofalwyr. Mae’r cyfnodau o seibiant wedi cynorthwyo’r gofalwyr i wella eu llesiant drwy fynd i’r afael â rhai o’r effeithiau negyddol sydd ynghlwm â gofalu am rywun sydd ag anaf i’r ymennydd. Mae’r effeithiau hyn yn cynnwys unigrwydd, caledi ariannol, perthynas yn chwalu, ac iechyd meddwl a chorfforol gwael.
Gwrandewch ar Bethan yn trafod ei rôl hi fel gofalwraig, a sut mae Headway a'r Cynllun Seibiant Byr wedi ei helpu hi
Fe gafodd y gofalwyr fwynhau cyfleoedd cymdeithasol, cynhwysol a hygyrch i gael seibiant o’u cyfrifoldebau gofalu. Fe wnaethant fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau na fyddent wedi cael cyfle i gymryd rhan ynddynt fel arfer, er eu bod nhw ar gael i’r cyhoedd. Roedd y gweithgareddau hyn yn cynnwys teithiau i Ynys y Barri, Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Canolfan y Mileniwm, a chyfle i fynd allan i fwynhau te prynhawn. Roedd Headway hefyd yn darparu seibiant ar gyfer sefyllfa a chyfrifoldebau unigryw pob gofalwr drwy gynnig cyfleoedd hyblyg a oedd yn cynnwys taleb i fwyta yn Côte, taleb i gael therapi cyfannol gan Enerchi, a blwch yn llawn pethau hybu llesiant yn y cartref.
Fe gynhaliodd Headway chwe grŵp Teulu a Ffrindiau bob mis a oedd yn galluogi gofalwyr i gwrdd â dod yn ffrindiau gyda phobl eraill sydd wedi cael profiadau tebyg iddynt, yn ogystal â rhoi cyfle iddynt elwa o fod yn rhan o gymuned gefnogol sy’n deall eu sefyllfa a ddim yn eu beirniadu. Cafodd y gofalwyr gyfle i wneud Yoga mewn dwy o'r sesiynau hyn.
Rwy’n gwerthfawrogi’r grŵp cefnogi teulu a ffrindiau. Alla i ddim gadael fy ngŵr i fynd ar wyliau, felly dwi’n mwynhau'r dyddiau hyn gyda Headway, maent yn rhoi cyfle i mi gael seibiant.
- Gofalwr
Fe greodd Headway lyfryn gwybodaeth ar gyfer y gofalwyr yn egluro’r gwahanol agweddau ar gael anaf i’r ymennydd er mwyn eu cynorthwyo nhw i ddeall yn well beth yw goblygiadau cael anaf i'r ymennydd.
Dywedodd Rebecca Pearce, Prif Swyddog Gweithredol Headway, “Rydym ni’n ffodus iawn bod gennym ni staff sy’n gweithio gyda gofalwyr a phobl sy’n derbyn gofal, ac felly’n deall beth yw eu hanghenion. Roedd hyn yn golygu eu bod yn gallu ystyried pa weithgareddau oedd yn ymarferol ac yn bosibl. Bu iddynt drefnu gweithgareddau a digwyddiadau oedd o fewn cyrraedd i'r gofalwyr, gan eu galluogi i anghofio am eu cyfrifoldebau gofalu a chanolbwyntio arnyn nhw eu hunain am gyfnod. Roedd y gweithgareddau hyn yn rhai byr ac wedi eu trefnu mewn lleoliadau cyfagos er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob gofalwr.”
Mae’r prosiect wedi ein galluogi ni i ehangu a datblygu'r gymuned gefnogol o ofalwyr sydd ynghlwm â’n sefydliad.
Mae'r cyfnodau hyn o seibiant wedi rhoi cyfle i’r gofalwyr ddatblygu gwytnwch a chynnal eu perthynas gyda’r person maen nhw'n gofalu amdanynt. Mae cysylltu â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg iddynt yn gwneud iddynt deimlo bod ganddynt gefnogaeth, ac yn rhoi cryfder iddynt dderbyn y newid sydd wedi digwydd yn eu bywydau, ac addasu i’r newid hwnnw.
Eglurodd Rebecca, “Gall gofalu am berson sydd wedi cael anaf i’r ymennydd fod yn brofiad unig, ac yn aml mae'r gofalwr yn ymbellhau oddi wrth ei deulu, ei ffrindiau, a’i gymuned, a hynny am resymau ymarferol sy’n ymwneud ag anghenion y person sy’n derbyn gofal: pethau fel anableddau synhwyraidd, neu broblemau symudedd.
“Wedi dweud hynny, yn aml iawn, ymddygiad y person maen nhw’n gofalu amdanynt sy’n effeithio arnynt fwyaf. Yn ogystal â gorfod bod yn gyfrifol am bethau ymarferol fel sefyllfa ariannol a llesiant emosiynol yr uned deuluol, heb anghofio’r newid mawr yn neinameg y berthynas rhwng y gofalwr a’r person maen nhw’n gofalu amdano, mae hyn yn gallu llethu rhywun a gwneud iddynt deimlo ei bod hi’n amhosib iddynt gymdeithasu.”
Yn ystod y cyfnodau o seibiant mae’r gofalwyr yn cael cymorth i ddatblygu strategaethau sy’n eu helpu i ymdopi, ac yn cael cyfle i anghofio am eu cyfrifoldebau a bod yn nhw eu hunain. Yn fwy na dim, mae'r cyfnodau o seibiant yn rhywbeth y mae’r gofalwyr yn edrych ymlaen ato, ac yn rhoi cyfle prin iddynt gael hwyl.
Dywedodd un gofalwr, a aeth i ddawns, “Cefais i amser arbennig yn y ddawns. Roedd hi mor braf cael esgus i wisgo’n grand a chael pryd hyfryd o fwyd. Cefais anghofio am fy holl bryderon wrth ddawnsio trwy’r nos! Mae nosweithiau Teulu a Ffrindiau Headway wedi bod mor werthfawr i mi. Drwyddyn nhw, dw i wedi cwrdd â rhywun arall sydd â phartner sydd wedi cael ei effeithio’n debyg gan anaf i’r ymennydd. Rydym ni wedi rhannu ein profiadau, ac mae hynny wedi fy helpu wrth i mi geisio canfod fy ffordd drwy'r holl beth."
Dywedodd Rebecca, “Cafodd yr holl dripiau a digwyddiadau eu gwerthfawrogi'n fawr gan y gofalwyr a gymerodd ran. Mae’r adborth rydym ni wedi ei gael yn gadarnhaol, a dywedodd y gofalwyr fod edrych ymlaen a mwynhau’r cyfnodau hyn o seibiant wedi eu helpu nhw’n fawr a rhoi’r nerth iddynt ddal ati.”