Dyfarnodd Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru £169,835 i NEWCIS, Fforwm Cymru Gyfan, Y Bartneriaeth Awyr Agored ac Age Connects Torfaen i gefnogi gofalwyr di-dâl ym Mlaenau Gwent, Caerffili a Chasnewydd drwy seibiant byr.
Mae'r pedwar sefydliad eisoes yn cynnig gweithgareddau seibiannau byr drwy'r Cynllun Seibiannau Byr Fer ac mae'r broses hon o ailddyrannu cyllid yn eu galluogi i gefnogi mwy o ofalwyr yn ne-ddwyrain Cymru.
Meddai Kate Cubbage, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, "Roedd yn gyfnod pryderus iawn i ofalwyr di-dâl yn ne-ddwyrain Cymru, ar ôl cau'r prif sefydliad gofalwyr a oedd yn darparu Seibiannau Byr yn y rhanbarth hwnnw. Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnig rhywfaint o gymorth drwy ailddyrannu cyllid Seibiannau Byr i'r pedwar sefydliad yma yn gyflym. Maen nhw i gyd wedi gallu defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad o redeg prosiectau Seibiannau Byr er budd mwy o ofalwyr yn ne Cymru.”
Mae’r Bartneriaeth Awyr Agored, a enillodd Wobr Efydd Buddsoddwyr mewn Gofalwyr yn ddiweddar, wedi cefnogi 1,175 o ofalwyr ifanc i roi cynnig ar bob math o weithgareddau cyffrous, fel gwylltgrefft, ogofa, canŵio, beicio mynydd, syrffio a rafftio. Mae eu cyllid ychwanegol yn eu helpu i gynnig dau brofiad preswyl gweithgareddau awyr agored ychwanegol ar gyfer gofalwyr ifanc di-dâl o ranbarth Caerffili yn ystod gwyliau hanner tymor mis Hydref a mis Chwefror. Fel y trafododd y BBC yn ddiweddar, gall gwyliau'r ysgol fod yn gyfnod ynysig iawn i ofalwyr ifanc, felly mae'r amseru yn bwysig.
Mae'r grŵp cyntaf o ofalwyr ifanc eisoes wedi mwynhau amrywiaeth o sesiynau sgiliau awyr agored ym Mharc Cenedlaethol Eryri ac wedi cerdded i gopa'r Wyddfa, mynydd uchaf Cymru!
Meddai Tracey Evans, Rheolwr Rhaglenni’r Bartneriaeth Awyr Agored; "Mae'r profiadau preswyl hyn yn gwella ansawdd bywyd gofalwyr ifanc yn uniongyrchol drwy gynnig cyfleoedd seibiant cyffrous i gysylltu â phobl ifanc eraill mewn sefyllfa debyg. Yn bwysicach fyth, maen nhw'n hybu eu hansawdd bywyd hirdymor, drwy roi'r sgiliau iddyn nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored i wella eu hiechyd a'u lles drwy gydol eu hoes."
Mae NEWCIS, elusen sy’n gweithio yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn bennaf, wedi gallu ymestyn eu cyrhaeddiad i gefnogi 500 yn fwy o ofalwyr yn ne Cymru i fwynhau seibiant byr.
Mae eu prosiect, ‘Amser i Fi’, yn cefnogi'r gofalwyr hynny nad ydynt wedi cael egwyl fer o'r blaen, gan ganolbwyntio'n benodol ar ofalwyr sy'n byw mewn lleoliadau gwledig ac sy'n ynysig neu wedi'u datgysylltu o'u cymunedau a'u rhwydweithiau cymorth. Mae'n caniatáu i ofalwyr gael seibiant personoledig sy'n cyfateb i’w hanghenion, o ddim ond ychydig oriau i fynd i'r sinema neu allan am bryd o fwyd i dridiau mewn cartref gwyliau neu sba o'u dewis.
Esbonia Claire Sullivan o NEWCIS, "Mae 'Amser i Fi' yn caniatáu i ofalwyr gael seibiant gydag aelodau eraill o'r teulu neu ar eu pen eu hunain ac mae'n eu helpu i barhau yn eu rôl ofalu. Mae gofalwyr yn cael y dewis, yr hyblygrwydd a'r cyfleoedd i ofalu am eu lles meddyliol a chorfforol eu hunain i wella gwytnwch a lleihau gorflinder."
Adborth NEWCIS gan ofalwyr sydd eisoes wedi elwa:
"Gall hyn gael effaith enfawr ar sut mae gofalwyr yn edrych ar wasanaethau cymorth ehangach. Mae ein hymwneud â'r cynllun yng ngogledd Cymru yn dangos ei fod yn gwneud gofalwyr yn fwy tebygol o fanteisio ar gynigion cymorth cofleidiol, sy'n eu helpu yn y tymor hwy," eglura Claire.
Ar hyn o bryd mae NEWCIS yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol Caerffili, Blaenau Gwent a Chasnewydd i ddarparu eu cynllun clodwiw Pontio’r Bwlch i gynnig seibiant i ofalwyr ar draws yr ardaloedd awdurdod lleol hyn. Diolch i'r cysylltiadau sefydledig hyn gyda'r tri awdurdod lleol a gofalwyr di-dâl yn ne-ddwyrain Cymru, maen nhw wedi gallu cyflwyno'r seibiannau ychwanegol drwy'r Cynllun Seibiannau Byr yn gyflym.
Mae Fforwm Cymru Gyfan Rhieni a Gofalwyr Pobl ag Anableddau Dysgu (AWF) wedi gallu ehangu cyrhaeddiad eu Prosiect Seibiannau Byr presennol, Seibiant. Mae'r prosiect hwn wedi canolbwyntio ar gynnig seibiannau hyblyg sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru, gan roi opsiynau i ofalwyr o ran eu seibiannau a hefyd helpu i gefnogi busnesau yng Nghymru.
Ymhelaetha Josh Law, Rheolwr Prosiect a Phartneriaethau yn AWF, "Mae ein prosiect Seibiant wedi bod yn llwyddiannus iawn. Yn y flwyddyn gyntaf, gwnaethon ni gefnogi 40 o ofalwyr ledled Cymru i gael seibiant. Fe wnaethon ni hwyluso 22 o seibiannau, 15 o seibiannau dros nos, 5 diwrnod allan a 2 daith grŵp.
Daw Josh i'r casgliad, "Oherwydd ei lwyddiant a'r galw mawr, roedd gan y prosiect Seibiant lawer o ofalwyr ar restr aros. Mae'r cyllid ychwanegol wedi ein galluogi i gefnogi mwy o ofalwyr o Gaerffili i elwa o seibiant sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yng Nghymru."
Mae Age Connects Torfaen wedi defnyddio eu cyllid ychwanegol i gynnal sesiynau pampro a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer gofalwyr Mwslimaidd benywaidd. Cafodd un ar ddeg o ofalwyr benywaidd o grŵp gofalwyr Lleiafrifoedd Ethnig Du yng Nghasnewydd eu sbwylio i fore pampro, lle cynigiwyd ystod o driniaethau, gan gynnwys golchi a thorri gwallt, tylino’r dwylo, triniaeth wyneb a thylino’r pen.
Meddai Emma Wootten, Age Connects Torfaen: "Roedd yn brofiad gwerth chweil a gafodd effaith wirioneddol arnyn nhw. Gwnaeth y sesiwn eu hatgoffa nhw fod yn rhaid iddyn nhw neilltuo amser i’w hunain cyn iddyn nhw allu rhoi amser a gofal o safon i eraill."