DAFFODILS

post image 1

Nid yw cael seibiant byr o’ch rôl fel gofalwr o reidrwydd yn golygu eich bod yn cael seibiant oddi wrth y rhai rydych yn gofalu amdanynt. Yn aml bydd yn golygu treulio amser allan gyda’ch gilydd a chael newid o drefn ddyddiol arferol y gofalwr.

Dywed DAFFODILS wrthym, “Mae treulio amser gwerthfawr gyda’u hanwyliaid sy’n derbyn gofal a chreu atgofion hapus mor bwysig i rieni sy’n ofalwyr. Mae teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u deall yn well. Mae’r seibiannau’n lleddfu llawer o’r straen mae gofalwyr yn ei brofi o ganlyniad i’w dyletswyddau gofal, gan eu galluogi i ymlacio a chael eu gwynt atynt. Mae’r cyfleoedd a geir i ryngweithio â rhieni eraill sy’n ofalwyr, i rannu profiadau ac i feithrin perthnasoedd cefnogol yn gallu newid bywydau.”

Mae prosiect “mwynhewch seibiant” DAFFODILS wedi bod yn helpu rhieni sy’n ofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint i fwynhau amrywiaeth o seibiannau, a hynny yn ystod gwyliau ysgolion a cholegau’n bennaf, pan fydd fwyaf o angen cymorth arnynt. Mae’r gweithgareddau, rhai ohonynt yn lleol, ac eraill ymhellach i ffwrdd, wedi cynnwys tripiau i Sw Caer, Castell Caernarfon, y Gelli Gyffwrdd, Xplore, a mannau eraill

Amser gwerthfawr i’r teulu

Emma*, mam i bedwar, yw’r prif ddarparwr gofal i’w hŵyr warcheidwad wyth oed, sydd ag anhwylder genetig sy’n golygu bod angen goruchwyliaeth barhaus arno. Mae ei dyddiau’n cael eu llenwi wrth ddiwallu ei anghenion yn ogystal â gofalu am ei mab niwroamrywiol 22 oed, ei merch sydd yn ei harddegau a merch arall 26 oed sydd ag anawsterau dysgu cymedrol. Fel rhiant unigol, nid oes ganddi lawer o amser iddi’i hun.

Dros y blynyddoedd, mae darparu gofal wedi gadael ei ôl ar ei hiechyd corfforol a meddyliol, gan achosi blinder, gorbryder a phyliau o iselder, sy’n dwysau ei chyflyrau meddygol. Mae bywyd yn her i Emma ac mae hi’n poeni am ddyfodol ei phlant a’i hŵyr pe bai rhywbeth yn digwydd iddi hi.

Mae’r tanc yn wag

Cynigiodd DAFFODILS y cyfle iddi i gael sawl seibiant byr a digwyddiadau i gwrdd ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn ystod cyfnod o chwe mis, drwy’r rhaglen ‘mwynhewch seibiant’. Roedd y seibiannau nid yn unig yn gwella ei llesiant corfforol a meddyliol ond roeddent hefyd yn ei helpu i ddatblygu’r cydnerthedd i barhau â’i rôl fel darparwr gofal.  

“Doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor wag oedd y tanc tan imi gael cyfle i arafu ychydig”, meddai Emma. Roedd yr amser ar dripiau’r seibiant byr yn gyfle iddi i fyfyrio ar ei rôl fel darparwr gofal a sut y gallai reoli’r gofynion dyddiol sydd arni’n well yn y dyfodol. Mae ei gorbryder, a oedd wedi bod yn gwaethygu dros y blynyddoedd, wedi gwella.  Sylweddolodd os oedd am barhau â’r berthynas ofalu, pa mor braf oedd bod yn gysylltiedig yn wythnosol â’r gwyliau, gan dreulio amser gyda chriw o bobl mor gefnogol sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Bywyd mwy cytbwys

Drwy gael amser mor werthfawr yn rhannu profiadau positif, mae Emma wedi dod i weld ei bod yn gallu rheoli’r straen o ofalu amdanynt yn well, gan gadw cydbwysedd iachach yn ei bywyd ei hun. Mae’n teimlo bod ganddi egni o’r newydd ac wedi cael ymdeimlad o bersbectif, gan ddweud bod ganddi fwy o amynedd, mwy o egni, meddwl cliriach ac nad yw’n teimlo wedi’i llethu na’i dal gan ei threfn ddyddiol. Mae hefyd wedi sylwi bod ei pherthynas â’i hŵyr wedi gwella ac yn teimlo ei bod ar gael fwy’n emosiynol i ymateb i’w anghenion.

Ac yn bwysig iawn, mae’r seibiannau byr wedi ei galluogi i ailgysylltu â’i phlant a’i hŵyr fel uned deuluol, yn hytrach na fel rhywun sy’n darparu gofal yn unig.

Roeddwn yn gallu chwerthin a chwarae â hwy unwaith eto, ac nid eu rheoli’n unig. Maen nhw hefyd angen i mi fod yn iach a hapus.

Deall bod angen seibiant arnom

Mae gofalwr arall yn rhannu ei stori: “Rwyf yn rhiant ofalwr, ac er bod fy mab, sydd ag awtistiaeth ac ADHD, yn 24 oed erbyn hyn, fi yw ei fam, ei warcheidwad a’i gymar o hyd. Am flynyddoedd lawer, nid oeddwn yn gweld fy hun fel gofalwr, ac roeddwn yn gwrthod seibiannau pan oedd fy mab yn iau. Roedd dyletswydd arnaf i ofalu am bob un o fy mhlant, a dyma oedd ein teulu niwroamrywiol.

“Mae DAFFODILS wedi rhoi’r cyfle imi i gymdeithasu â rhieni eraill a gweld bod fy nhasgau dyddiol o baratoi meddyginiaethau, y golchi ychwanegol, mynd i apwyntiadau asesu, a hyd yn oed gwneud cais am fudd-daliadau ar ei ran, a pheidio byth â gadael fy mab heb oruchwyliaeth yr un fath i bobl eraill hefyd, a bod yr angen am seibiant yn angenrheidiol, ac nid yn rhywbeth hunanol.

Cofio’r amseroedd hapus

“Gyda chyllid Seibiannau Byr, mae DAFFODILS wedi fy ngalluogi i gael saib o’r dyletswyddau gofal. Roedd cael diwrnod allan a oedd wedi’i gynllunio a’i drefnu’n golygu nad oedd gen i ddim i boeni amdano, ac roedd mynd fel grŵp yn rhoi’r hyder imi i ymlacio. Mi ges i groeso ganddynt, ac mi oedd y staff yn wych gyda fy mab. Roedd cael cyfle i fwynhau diwrnod allan gyda’n gilydd yn creu atgofion mor hapus. Roedd ei weld yn mwynhau’r gweithgareddau oedd ar gael ac yn ddigon hyderus i ymuno’n beth mor braf. Rydym yn dal i siarad am ein tripiau ac maent wedi gwella ein perthynas.

Pan fyddwn yn cael cyfnod anodd, mi allwn edrych ar y lluniau a dynnwyd a chofio dyddiau gwell.

“Mae’r cyfan yn bosibl, diolch help ariannol Llywodraeth Cymru ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, ac rwy’n awr yn sylweddoli pwysigrwydd cael seibiant. Mae wedi fy ngwneud yn gryfach ac wedi fy mharatoi i edrych o’r newydd ar ein heriau, yn ogystal â gwella fy llesiant yn gyffredinol. Ein tripiau diwrnod oedd y rhai gorau ers amser hir, ac roedd gwaith trefnu effeithiol a staff caredig DAFFODILS, yn gwneud y profiad yn un gwell byth."

Mae’r dyfodol ychydig yn fwy disglair

“Rwyf wedi gwneud ffrindiau newydd sy’n parhau i fy helpu ac mi allaf droi atynt pan fydd angen ychydig o gefnogaeth. Mae gen i bryderon ac ofnau am yr hyn sydd o flaen fy mab a mi, ond mae cael pobl i siarad â hwy a, gyda gobaith, mwy o dripiau i edrych ymlaen atynt, yn rhoi gobaith am fwy o hwyl a chwerthin.

Bydd bywyd o ddydd i ddydd yn dal yn anodd inni, ac ar adegau, mae’n anodd gweld unrhyw lygedyn o obaith. Ond mae DAFFODILS gyda chyllid Seibiannau Byr yn ysgafnhau pethau, gan ein gyrru ymlaen a chael amser gwerthfawr gyda’n gilydd. Diolch o galon.

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences