Gall gofalu am rywun annwyl ag anableddau fod yn feichus yn emosiynol ac yn gorfforol. Cynlluniwyd prosiect Inclusability i ddarparu seibiant, y mae dirfawr ei angen, i’w ofalwyr, gan roi cyfleoedd iddyn nhw ddadflino, cysylltu ag eraill, a chreu atgofion parhaol gyda’u teuluoedd.
Sefydliad cymunedol pwrpasol gydag aelodaeth o dros 2,000 o deuluoedd yw InclusAbility CIC. Mae wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr di-dâl drwy gynnig cyfleoedd am seibiant, cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau llesiant. Fel grŵp a gafodd ei sefydlu a’i redeg gan ofalwyr, mae Inclusability yn deall heriau cydbwyso gofal a lles personol.
Dywedodd Kelly Smith, Cyfarwyddwr, InclusAbility, “Prif nod y prosiect hwn sy’n cael ei gynnig drwy’r Cynllun Seibiannau Byr oedd lleddfu'r straen a'r heriau sy’n wynebu gofalwyr drwy gynnig seibiannau pwrpasol, ystyrlon iddyn nhw. Mae’r cyfleoedd hyn hefyd yn fodd i ofalwyr gysylltu ag eraill mewn sefyllfaoedd tebyg, gan greu rhwydweithiau cymorth hirdymor sy’n mynd y tu hwnt i gyfnod y digwyddiadau.”
Roedd gofalwyr yn gallu cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys teithiau i’r teulu, dyddiau sba, caiacio, tripiau i Folly Farm a dringo creigiau.
Eglura Kelly, “Mae ein gweithgareddau wedi'u cynllunio gyda hyblygrwydd mewn golwg, gan ganiatáu i ofalwyr ymgysylltu ar eu cyflymder eu hunain. Boed yn seibiant tawel, cyfle i gymdeithasu neu ddiwrnod allan gyda’r teulu cyfan, fe wnaethom sicrhau bod y rhaglen yn mynd i’r afael â lefelau amrywiol o gysur ac angen, gan leihau gorbryder a gwneud y profiad mor fuddiol â phosib.
Meddai un gofalwr,
Diolch yn fawr iawn. Fe gyrhaeddais yn teimlo wedi blino'n lân, wedi ymlâdd ac wedi cael llond bol ar fywyd! A gadewais yn teimlo i'r gwrthwyneb. Roedd yn chwa o awyr iach ac ni allwn ddiolch digon i chi!
Mae Paula*, mam sengl i dri, yn gofalu am ddau blentyn ag awtistiaeth ac anableddau dysgu difrifol. Mae ei mab ifancaf, sydd ond yn wyth mlwydd oed, yn cymryd rôl gofalwr ifanc, ac yn aml yn teimlo pwysau bywyd cartref. Diolch i InclusAbility a’r Cynllun Seibiannau Byr, roedd Paula a’i phlant yn gallu mwynhau aros ym Mharc Carafanau Devon Bay.
"Roedd yn wych bod mewn amgylchedd lle roedd pobl yn deall ein sefyllfa," rhannodd Paula. "Am unwaith, doeddwn i ddim yn poeni sut byddai pobl eraill yn ymateb i fy mhlant."
Roedd yr effaith fwyaf ar ei mab ifancaf. Am y tro cyntaf, fe gwrddodd â gofalwyr ifanc eraill a oedd wir yn deall ei brofiad a daeth yn ffrindiau gyda nhw. " Fe wnaeth e ffrindiau sy’n gwybod sut beth yw cael brodyr a chwiorydd anabl. Mae wnaeth hyd yn oed gyfnewid rhifau ac mae’n cadw mewn cysylltiad!"
Mae profiad Paula yn amlygu pwysigrwydd seibiannau sydd wedi’u teilwra i anghenion unigryw gofalwyr. “Mae'r eiliadau hyn yn ein galluogi i gamu o’r straen, ac yn bwysicaf oll, yn gadael i'n gofalwyr ifanc fod yn blant.”
Mae Claire* a’i gŵr yn jyglo gofalu am eu merch gydag awtistiaeth a’i famgu oedrannus sydd â chlefyd Parkinson a dementia - i gyd o dan yr un to. Drwy’r Cynllun Seibiannau Byr, derbyniodd y teulu seibiant penwythnos mewn parc carafanau, gan roi cyfle prin iddyn nhw fwynhau amser o ansawdd gyda’i gilydd.
Dywedodd Claire,
Am unwaith, doedd bywyd ddim yn teimlo'n llethol. Rhoddodd le i ni anadlu ac ailgysylltu fel teulu.
Mae cydbwyso gofalu am sawl aelod o’r teulu yn gallu cael effaith ar les meddyliol. Mae stori Claire yn tanlinellu pwysigrwydd rhoi amser i ofalwyr orffwys, i ail-gysylltu ac i fwrw eu blinder – gan sicrhau y gallant barhau yn eu rolau hollbwysig gydag egni newydd.
Mae’r Cynllun Seibiannau Byr wedi profi y gall newid bywydau, ond mae’r galw yn uchel. Fel y dywedodd Paula, "Mae angen mwy o gyfleoedd fel hyn arnom ni – nid yn unig i rieni, ond ar gyfer gofalwyr ifanc sy'n aml yn cael dim sylw."
Drwy ehangu’r cyfleoedd hyn, gallwn barhau i gynnig cymorth amhrisiadwy i’r rhai sy’n rhoi eu bywydau i ofalu am eraill.