Ar Ddiwrnod Cenedlaethol Brodyr a Chwiorydd 2025, rydyn ni’n edrych ar sut mae’r Cynllun Seibiant Byr yn rhoi rhywfaint o seibiant i bobl ifanc sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd, ac yn taflu goleuni ar bopeth maen nhw’n ei wneud.
Pan fyddwn ni’n meddwl am ofalwyr, rydyn ni’n aml yn meddwl am oedolion sy’n gofalu am berthnasau oedrannus, neu ofalwyr proffesiynol sy’n darparu cymorth hanfodol. Fodd bynnag, mae gofalwyr ifanc ac oedolion ifanc sy’n ofalwyr yn grŵp o ofalwyr sy'n aml yn cael eu hanghofio. Maen nhw’n rhoi o'u hamser i ofalu am eu brodyr a'u chwiorydd sy’n anabl neu’n wael.
Gall gofalwyr sy’n gofalu am eu brodyr a chwiorydd yn ddi-dâl fod yn asgwrn cefn llawer o deuluoedd. Maen nhw’n cynnig cefnogaeth anhunanol, ac yn camu i’r adwy i helpu mam neu dad. Mae llawer o ofalwyr ifanc yn ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn o oedran cynnar, gan gydbwyso eu dyletswyddau gofalu â’r ysgol, y gwaith a’u datblygiad personol eu hunain.
Mae pobl ifanc sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd yn darparu llawer o gymorth hanfodol i’w brodyr a’u chwiorydd. Gall eu cyfrifoldebau gynnwys unrhyw beth o ofal personol – helpu gyda gwisgo, ymolchi a bwydo – i ddarparu cefnogaeth emosiynol. Mae’n debyg bod yn rhaid iddyn nhw helpu gyda dyletswyddau’r cartref, helpu gyda meddyginiaeth, eirioli a goruchwylio.
Yn anffodus, gall gofalu am lesiant eu brawd/chwaer ddod ar draul eu cyfleoedd cymdeithasol neu academaidd eu hunain. Mae gofalwyr ifanc yn aml yn wynebu nifer o heriau emosiynol, corfforol a chymdeithasol nad ydyn nhw’n cael eu cydnabod, gan gynnwys:
Er mwyn cydnabod rôl hanfodol gofalwyr di-dâl, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Cynllun Seibiant Byr, sydd wedi helpu dros 30,000 o ofalwyr di-dâl yn ystod ei ddwy flynedd gyntaf.
Mae’r cynllun, sy’n cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru drwy rwydwaith o 27 o fudiadau yn y trydydd sector, yn rhoi cyfle i ofalwyr di-dâl gael seibiant mawr ei angen oddi wrth eu cyfrifoldebau. Diolch i’r cynllun hwn, mae llawer o ofalwyr ifanc wedi cael seibiant o’u rôl gofalu am y tro cyntaf, ac mae’r profiad wedi cefnogi eu llesiant ac wedi rhoi hwb i’w hyder.
Dywed Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, “Mae’r Cynllun Seibiant Byr nid yn unig yn helpu i leddfu’r straen y mae pobl ifanc sy’n gofalu am frodyr a chwiorydd yn ei wynebu, ond hefyd yn sicrhau eu bod yn cael cyfleoedd ar gyfer twf personol a chymdeithasu. Drwy gynnig gwyliau strwythuredig a hyblyg, mae’r cynllun yn caniatáu i ofalwyr ifanc gael seibiant a gofalu am eu hiechyd a’u llesiant eu hunain gan barhau i ddarparu’r gofal hanfodol maen nhw’n ei roi i’w brodyr a’u chwiorydd.”
Mae Celyn, a gafodd seibiant byr yn ddiweddar drwy bartner cyflenwi’r Cynllun Seibiant Byr, y Bartneriaeth Awyr Agored, yn cytuno:
Mae’n dda iawn cael seibiant byr oherwydd rydw i’n gallu ymlacio heb orfod gofalu am fy chwaer.
Mae’n hanfodol cydnabod gwaith amhrisiadwy pobl ifanc sy’n gofalu am frodyr neu chwiorydd, er mwyn sicrhau bod yr arwyr tawel hyn yn cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu ac yn cael eu gwerthfawrogi.
Os ydych chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, yn berson ifanc sy’n gofalu am frawd neu chwaer, ac angen seibiant, diolch i gyllid parhaus tan 2026, bydd ein rhwydwaith o bartneriaid cyflenwi yn cynnig mwy o seibiant ledled Cymru. Ewch i’n gwefan i ddod o hyd i un yn eich ardal chi.