Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Techtivity wedi gweddnewid bywydau 120 o ofalwyr drwy gymysgedd da o wyliau byr sydd wedi’u cynllunio i gynnig hwyl a seibiant.
O ddiwrnodau sba a therapïau holistaidd i wyliau teuluol bythgofiadwy a phrydau grŵp, cafodd gofalwyr gyfle hollbwysig i ymlacio a chysylltu – sy’n hanfodol er mwyn iddyn nhw gynnal eu rolau heriol.
Cafodd y profiadau hyn eu curadu a’u darparu’n ofalus drwy gydol y flwyddyn, ar y cyd â sefydliadau lleol fel Canolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr a BING, gan sicrhau bod gofalwyr o amrywiaeth eang o gymunedau – gan gynnwys gofalwyr sy’n ddynion, gofalwyr LHDTC+, a grwpiau ethnig lleiafrifol – yn cael mynediad.
Hwb i Les:
Dywedodd gofalwyr eu bod yn teimlo fel eu bod wedi ymlacio mwy, eu bod mewn hwyliau gwell yn emosiynol, ac wedi'u hadfywio'n gorfforol ar ôl cymryd rhan. “Mae’r therapïau holistaidd yn gwneud gwahaniaeth go iawn! Rydw i’n gadael yn teimlo’n braf ac wedi dadflino,” meddai un gofalwr.
Cryfhau Perthnasoedd:
Drwy gamu i ffwrdd o’u pwysau o ddydd i ddydd, roedd gofalwyr yn gallu ailgysylltu â’u hanwyliaid ac â nhw eu hunain. “Fe gawson ni amser gwych dros y penwythnos. Dydyn ni ddim wedi bod i ffwrdd ers pum mlynedd ... mae mor hawdd peidio â gwneud pethau fel teulu pan mae gennych chi blentyn sydd ag anghenion ychwanegol.”
Bod yn Wydn Eto:
Boed hynny drwy seibiant tawel dros nos neu daith llawn hwyl i'r teulu, roedd y gofalwyr yn dychwelyd yn barod am eu rôl. Fel y dywedodd un:
Roedd peidio â gorfod delio â’r pwysau, hyd yn oed am gyfnod byr, yn golygu ein bod wedi gallu ymlacio a’n bod ni wedi cael cyfle i gael ail wynt a chychwyn eto... Fe wnaethon ni ddychwelyd adref gydag egni newydd.
Cwpl yn Ailddarganfod eu Hunain
Fe wnaeth pâr priod, sy’n gofalu am eu dau fab sydd ag awtistiaeth a chyflyrau ychwanegol, yn ogystal â chwaer hŷn â sgitsoffrenia, fanteisio ar sawl gwyliau byr drwy Techtivity.
Dyma’r math o gyfleoedd nad ydym yn eu cael yn aml... I gysgu heb neb yn tarfu neu i eistedd a mwynhau cwmni ein gilydd... Fe wnaeth hyn roi cyfle i ni fod yn gwpl ac fe aethon ni nôl adref gydag egni newydd.
Cyfle i fam sengl gael ei chefn ati
Fe wnaeth mam sengl i ddau fachgen awtistig yn eu harddegau gymryd rhan mewn sesiynau therapi holistaidd a gwyliau bach dros benwythnos.
“Mae Mandy (y therapydd) mor hyfryd – rydw i bob amser yn dod oddi yno’n teimlo’n newydd eto ac yn barod i wynebu heriau’r cartref... Cafodd y gwyliau penwythnos eu trefnu i ni; cafodd y bechgyn amser gwych gyda ffrindiau ac roeddwn i’n gallu mwynhau bod i ffwrdd gyda nhw.”
Mae rhaglen blwyddyn o hyd Techtivity yn dangos gwir werth seibiant neu wyliau byr: nid dim ond cyfleoedd i gael gorffwys ydyn nhw, maen nhw’n achubiaeth sy'n adfer, yn ailgysylltu, ac yn grymuso gofalwyr i barhau â'u rolau hanfodol gyda chryfder a gobaith. Mae eu model - personol, cymunedol a chynhwysol - yn enghraifft wych o sut mae gofal i ofalwyr yn creu tonnau o effaith ar draws teuluoedd a chymunedau.