Yr Anawsterau Cudd sy’n wynebu Gofalwyr Di-dâl yn ystod y Gwyliau

post image 1

I nifer, mae gwyliau’r Pasg yn gyfle da i gymryd rhan mewn gweithgareddau i groesawu’r gwanwyn, cwrdd â theulu a ffrindiau, neu fynd ar dripiau cyffrous. Mae’r ysgolion wedi cau, mae teuluoedd yn teithio, ac mae atgofion yn cael eu creu.  Ond, i ofalwyr di-dâl, mae hi’n stori wahanol ac mae’r gwyliau yn amlygu’r heriau sy’n eu hwynebu. 

Mae’r wythnosau hyn yn bleserus i rai, ond maent yn gallu bod yn llethol i’r rhai sy'n gorfod ysgwyddo’r baich o ofalu am rywun.  Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn gallu cynnig cefnogaeth a chysur.

Tu allan i'r ysgol

Mae rhai wrth eu bodd yn cael hoe o’r ysgol, ond mae peidio â chael cefnogaeth ac amserlen ysgol yn ystod gwyliau’r Pasg yn ei gwneud hi’n anoddach i ofalwyr ddygymod â’u cyfrifoldebau cynyddol.   Mae rhai gofalwyr ifanc yn dibynnu ar yr ysgol i gael cefnogaeth a chyfle i ryngweithio’n gymdeithasol, ac felly mae’r gwyliau yn golygu eu bod yn colli cysylltiadau ac adnoddau, sy’n gallu bod yn ynysig iawn.

Dywedodd un gofalwr ifanc:

“Dwi’n teimlo’n euog am gymryd seibiant a phan fydd gen i amser i mi fy hun dwi wastad yn meddwl am bethau eraill y gallwn i fod yn eu gwneud i helpu.  Mae’n gyfnod ynysig oherwydd dwi ddim yn gallu cwrdd â fy ffrindiau.  Dwi’n gallu tecstio ond dydi hynny ddim yr un peth. Mae pawb yn trefnu gwyliau neu dripiau, ond dwi’n gwybod nad ydw i’n gallu mynd ar wyliau.”

Mae’r rhieni sy’n ofalwyr yn gorfod wynebu’r heriau arferol yn ogystal â gofalu am blant sydd adref llawn amser a hynny heb eu trefniadau gofal arferol a’u system gefnogaeth. Maent yn gorfod cydbwyso cyfrifoldebau heb gefnogaeth ddigonol.

 

Cyfle i gael seibiant

Diolch i gyllid parhaus gan Lywodraeth Cymru, mae’r Cynllun Seibiant Byr yn gallu cynnig achubiaeth i ofalwyr di-dâl yn ystod y cyfnodau heriol hyn.  Mae rhwydwaith o 27 o sefydliadau gofalwyr yng Nghymru yn cefnogi’r cynllun hwn sy’n rhoi cyfle i ofalwyr gael mwynhau amrywiaeth o weithgareddau a chyfnodau o seibiant.

I ofalwyr ifanc, gall y cyfnodau o seibiant gynnwys profiadau cyffrous mewn amgylchedd ddiogel a strwythuredig, er enghraifft darpariaeth y Bartneriaeth Awyr Agored. Gall ychydig o oriau i adfywio, ac i ofalu amdanyn nhw eu hunain, neu gael seibiant heb orfod poeni, wneud byd o wahaniaeth i rieni sy’n ofalwyr.

 

Ymdopi â gofynion y dyfodol

Mae prosiect ‘mwynhau seibiant’ DAFFODILS wedi rhoi cefnogaeth i ofalwyr di-dâl yn Sir y Fflint i fwynhau amrywiaeth o gyfnodau o seibiant, a hynny’n bennaf yn ystod gwyliau’r ysgol a choleg, sef y cyfnod mae gofalwyr angen cefnogaeth fwyaf.

Dywedodd mam i bedwar o blant sydd hefyd yn brif ofalwr i’w phlentyn wyth oed :

Doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint yr oeddwn i angen seibiant tan i mi gael cyfle i arafu. 

Yn ystod y seibiant byr, cafodd hi gyfle i feddwl am ei gwaith hi fel gofalwr a sut i ymdopi â phethau’n well yn y dyfodol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi datblygu gorbryder, ond mae hwnnw wedi lleihau.  Mae hi wedi sylweddoli bod treulio amser â grŵp cefnogol o bobl sydd mewn sefyllfaoedd tebyg iddi yn allweddol i’w gwaith fel gofalwr, ac yn nodi bod cymryd rhan yn y gweithgareddau wythnosol yn ystod y gwyliau wedi bod yn wych.

Seibiant Haeddiannol

Mae’r Pasg yn gyfnod o ddathlu, ond yn gyfnod heriol i ofalwyr di-dâl. Mae systemau cefnogi fel y Cynllun Seibiant Byr yn ein hatgoffa bod gofalwyr di-dâl yn haeddu seibiant, ac yn sicrhau eu bod hwythau hefyd yn gallu cael cyfle i ymlacio yn ystod y gwyliau.

Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi’n adnabod yn ofalwr di-dâl ac yn wynebu heriau yn ystod y gwyliau cysylltwch ag un o’r sefydliadau gofalwyr lleol yn eich ardal chi er mwyn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnoch i ddygymod â’r cyfnodau anodd hyn.

 

 

Our cookies

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website.
You can allow or reject non essential cookies or manage them individually.

Reject allAllow all

More options  •  Cookie policy

Our cookies

Allow all

We use cookies, which are small text files, to improve your experience on our website. You can allow all or manage them individually.

You can find out more on our cookie page at any time.

EssentialThese cookies are needed for essential functions such as logging in and making payments. Standard cookies can't be switched off and they don't store any of your information.
AnalyticsThese cookies help us collect information such as how many people are using our site or which pages are popular to help us improve customer experience. Switching off these cookies will reduce our ability to gather information to improve the experience.
FunctionalThese cookies are related to features that make your experience better. They enable basic functions such as social media sharing. Switching off these cookies will mean that areas of our website can't work properly.
AdvertisingThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant adverts on other websites and track the effectiveness of our advertising.
PersonalisationThese cookies help us to learn what you're interested in so we can show you relevant content.

Save preferences